Unwrapping Christmas in Cardiff 2025…100 days early

Efallai y bydd Siôn Corn yn ein rhoi ni ar ei restr ddrwg, ond gyda dim ond 100 diwrnod i fynd tan y diwrnod mawr, allwn ni ddim peidio â dadlapio rhai o’r anrhegion hudolus fydd ar gael dros y Nadolig yng Nghaerdydd eleni.

Llawr Sglefrio mewn Castell

Castell hanesyddol Caerdydd yw’r lleoliad perffaith i sglefrio gyda’r machlud (mor rhamantus), neu am ddiwrnod o hwyl i’r teulu na all hyd yn oed y tywydd ei ddifetha. Mae Llawr Sglefrio a Llwybr Iâ Gŵyl y Gaeaf Caerdydd yn dychwelyd o 13 Tachwedd 2025 tan 4 Ionawr 2026, ynghyd â’i haid ei hun o bengwin-gynorthwywyr ar gyfer gwesteion llai. Archebwch eich tocynnau heddiw yn: https://gwylygaeafcaerdydd.com/

Gŵyl y Gaeaf

Allwch chi ddim cael gormod o rywbeth da adeg y Nadolig, felly cadwch hwyl yr ŵyl i fynd gydag ymweliad ag ail safle Gŵyl y Gaeaf. Bydd Lawnt Neuadd y Ddinas Caerdydd yn croesawu detholiad o reidiau a gemau ffair, bar apres-ski Sur La Piste, ynghyd â rhestr lawn o adloniant am ddim i’r teulu. Y ffordd ddelfrydol o dreulio noson Nadoligaidd. Mynediad am ddim: 13 Tachwedd 2025 i 4 Ionawr 2026

Profiad goleuedig

Archwiliwch lwybr hudolus milltir o hyd trwy fyd swynol a llachar, wedi’i grefftio gan arloeswyr lleol a dylunwyr goleuadau mwyaf blaenllaw’r byd. Mae’r llwybr golau ‘Y Nadolig ym Mharc Bute’ yn dathlu ei bumed flwyddyn gyda llu o brofiadau hudolus i’r teulu cyfan. Mae tocynnau ar gyfer y llwybr arobryn, sydd ar agor o 21 Tachwedd 2025 tan 31 Rhagfyr 2025, ar werth nawr yn: https://cymraeg.christmasatbutepark.com

Spiegeltent

Wedi’i hadeiladu o bren, drychau wedi’u cerfio, cynfas, gwydr plwm, ac wedi’i haddurno â brocêd melfed, roedd pebyll Spiegeltent hanesyddol, fel yr un sy’n cael ei chodi yng Ngerddi Sophia unwaith eto fel rhan o ‘Ŵyl Nadolig Caerdydd’ eleni, yn arfer bod yr atyniad mwyaf mewn ffeiriau hwyl Ewropeaidd. Eleni, gall ymwelwyr â’r pafiliwn hudolus a chlòs gael eu cludo yn ôl mewn amser i Nadolig Fictoraidd traddodiadol gydag addasiad ymdrochol o glasur Charles Dickens, ‘A Christmas Carol’, ymuno â’r Rat Pack ar gyfer ‘A Swingin’ Christmas’, mwynhau sioe Nadolig ragorol ABBA, dathlu gyda ‘The Tour of the Eras’ – teyrnged i Taylor Swift gan yr anhygoel Hannah Jenkins, neu ddewis o un o’r wyth sioe dymhorol arall sy’n rhan o’r ŵyl. Mae tocynnau ar werth nawr ac mae’r sioeau’n cael eu cynnal o 5 Rhagfyr – 31 Rhagfyr. https://cardiffchristmasfestival.co.uk/

Yr anrhegion crefft perffaith

P’un a ydych chi’n chwilio am emwaith pwrpasol, gwaith celf gwreiddiol, gwaith gwydr hardd, eitemau ceramig wedi’u taflu â llaw, cwiltiau a thecstilau wedi’u gwneud â llaw, neu fwyd a diod tymhorol, y 70 stondin ym Marchnad Nadolig Caerdydd, sydd wedi’i lleoli yng nghanol ardal siopa Caerdydd, yw’r lle perffaith i ddod o hyd i rywbeth arbennig wedi’i grefftio gan wneuthurwyr lleol talentog. Yn ddarn delfrydol o’r Nadolig yng Nghaerdydd, bydd y cabanau pren traddodiadol yn dod â hwyl Nadoligaidd i ganol y ddinas rhwng 13 Tachwedd 2025 a 23 Rhagfyr 2025.

Cerdded trwy hanes

Roedd pobl Oes Fictoria yn deall y Nadolig i’r dim, ac mae Arcedau Fictoraidd y ddinas yn driw i’r traddodiad. Wedi’u haddurno’n ar gyfer yr ŵyl, mae ‘na hud syml i grwydro drwy’r ddrysfa o arcedau, a stopio am goffi neu damaid o fwyd yn un o’r nifer o gaffis a bwytai annibynnol y byddwch chi’n eu darganfod rhwng y siopau bwtîc. Mae treftadaeth Fictoraidd Caerdydd yn mynd y tu hwnt i’r Arcedau – ei Marchnad Ganolog hanesyddol yw’r lle i fynd am bopeth o ganhwyllau persawrus i fwyd stryd, finyls a dillad retro – hyn oll o fewn pellter cerdded i Farchnad Nadolig Caerdydd.

Brandiau dylunwyr, llawer o ffefrynnau’r stryd fawr… a mwy

O frandiau dylunwyr i ffefrynnau’r stryd fawr, rydych chi’n siŵr o ddod o hyd i’r anrheg ddelfrydol (neu efallai rywbeth i sbwylio’ch hun) yng Nghanolfan Dewi Sant. Mae’r siop Sephora gyntaf yng Nghymru yn ychwanegiad newydd sbon i selogion harddwch y Nadolig hwn – ond gyda thros 160 o siopau, caffis a bwytai i’w darganfod, cyrchfan fanwerthu flaenllaw Cymru yw’r lle delfrydol am ddiwrnod allan gyda phawb – p’un a ydych chi’n bwriadu diddanu’r teulu gyda Treetop Golf a Cineworld, tretio’ch hun i ginio neu swper gyda ffrindiau, neu ddod o hyd i’r wisg berffaith ar gyfer parti Nadolig.

Caban clyd

Angen seibiant o brynu anrhegion i’ch ffrindiau a’ch teulu? Dewch i gwtsio lan yng nghabanau Maes yr Ŵyl y Nadolig hwn. Yn hafan Fafaraidd atmosfferig, Maes yr Ŵyl ar Stryd Working yw’r lle perffaith i ymlacio gyda chwrw a bratwurst a chael ail wynt cyn y rownd nesaf o siopa Nadolig. Ar agor saith diwrnod yr wythnos o 13 Tachweddtrwy gydol cyfnod yr ŵyl.

Goleuadau’r Nadolig

Mae pawb yn gwybod na fyddai’r Nadolig yn gyflawn heb oleuadau. Eleni bydd goleuadau Nadolig hyfryd Caerdydd yn cynnau’n araf wrth iddi nosi ar 13 Tachwedd, wrth i Nadolig Caerdydd ddechrau.

Yn dilyn llwyddiant ysgubol tafluniad Aurora Caerdydd yng ngorsaf Caerdydd Canolog yn 2024, bydd darn newydd o waith celf, wedi’i ysbrydoli gan ddarn poblogaidd o lenyddiaeth Gymraeg, yn dod i’r safle. Bydd gosodiad ychwanegol yn ymddangos mewn lleoliad cyfrinachol, a bydd hwnnw’n cael ei ddatgelu yn fuan.

Groto Nadolig

Boed dda neu ddrwg, bydd ymweliad â Groto Nadolig Siôn Corn ar restr ddymuniadau llawer o blant y Nadolig hwn. I helpu i wireddu eu dymuniadau, bydd Siôn Corn a’i gorachod yn ymgartrefu dros dro yng Nghastell Caerdydd, Stadiwm Principality, a’r Groto Hudolus newydd yn John Lewis Caerdydd. Esgynnwch i’r awyr ar antur anhygoel i gyrraedd Swyddfa Bost Siôn Corn – yn seiliedig ar set LEGO® ecsgliwsif – cyn teithio trwy’r byd hwn a chwrdd â’r dyn ei hun. Dydyn ni ddim am ddatgelu’r holl hud, ond byddwch chi’n gadael gyda set LEGO® arbennig. Digwyddiadau tocyn, dyddiadau amrywiol Tachwedd a Rhagfyr 2025.

Treulio amser gyda ffrindiau a theulu

Mae ffrindiau a theulu wrth galon popeth sydd orau am y Nadolig, felly does dim ffordd well o ddathlu na gyda phryd o fwyd blasus! Mae Caerdydd yn hafan i’r rheini sy’n frwd dros fwyd – ac mae tudalennau Bwyta ac Yfed Croeso Caerdydd yn llawn lleoedd i wledda dros y Nadolig. Ewch ar drên y Midnight Express yn yr Ivy eleni a phrofi byd sy’n llawn goleuadau disglair, trenau rhyfeddol, gwleddoedd tymhorol, a Champagne fel llwncdestun. Neu arhoswch yn agosach i gartref gyda phrydau gwych Daffodil, sy’n hyrwyddo cynnyrch Cymreig, efallai gyda gwydraid o win o’u rhestr gynhwysfawr – mae’n Nadolig wedi’r cyfan.

Tretiwch eich hun gydag arhosiad gwesty Nadoligaidd

Rydyn ni’n caru’r Nadolig, ond os yw’r holl restrau a lapio anrhegion yn mynd yn ormod, beth am dretio eich hun gyda llety tymhorol? Gorffennwch eich taith dydd Nadolig gyda noson yn un o westai’r brifddinas i gael mwy o’r hwyl a dim o’r straen! O rywle modern, ffasiynol yng nghanol dinas brysur i foethusrwydd hamddenol gwesty sba neu noson yng nghraidd ardal hanesyddol Bae Caerdydd, rydych chi’n siŵr o fwynhau hwyl yr ŵyl!

 


 

Dywedodd y Cynghorydd Jennifer Burke, yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau: “Mae’r Nadolig yng Nghaerdydd bob amser yn arbennig a gyda dim ond 100 diwrnod i fynd tan y diwrnod mawr, nawr yw’r amser i ddechrau edrych ymlaen at greu rhagor o atgofion hudolus.”

Gyda 100 diwrnod i fynd, rydyn ni’n dal i lunio rhestr Nadolig Caerdydd, felly am fwy o wybodaeth a’r holl fanylion diweddaraf wrth i’r Nadolig nesáu, ewch i: www.croesocaerdydd.com/nadolig