Dinas yr Arcêd 2025: Pythefnos Iechyd a Harddwch yn dod â hunanofal a steil i Gaerdydd

Dydd Gwener, 31 Hydref 2025


 

Dechrau pythefnos olaf Dinas yr Arcêd 2025! O 3 Tachwedd mae canol dinas Caerdydd yn canolbwyntio ar Iechyd a Harddwch mewn dathliad o les, hunanofal a steil yng nghanol y brifddinas.

O sesiynau lles adfywiol a nosweithiau sba moethus i ostyngiadau unigryw ar driniaethau a chynhyrchion, mae’n gyfle perffaith i ymlacio, adfywio a mwynhau rhywfaint o hunanofal cyn tymor prysur yr ŵyl.

Pythefnos Iechyd a Harddwch yw’r bennod thema olaf yn ymgyrch Dinas yr Arcêd 2025 sy’n dathlu 70 mlynedd o Gaerdydd fel prifddinas Cymru. Bellach yn ei hwythfed flwyddyn, caiff Dinas yr Arcêd ei chyflwyno gan Caerdydd AM BYTH sef Ardal Gwella Busnes (AGB) canol y ddinas, ac mae’n tynnu sylw at y cymysgedd unigryw o fusnesau annibynnol a chenedlaethol yn arcedau Fictoraidd ac Edwardaidd Caerdydd a chanolfan Dewi Sant.

Pythefnos Iechyd a Harddwch: Digwyddiadau a Phrofiadau

5 Tachwedd – Noson Ymlacio ac Ailgysylltu Gwesty Holland House: Camwch i ffwrdd o gyflymder prysur y diwrnod gwaith a mwynhau noson sydd wedi’i chynllunio i adfer cydbwysedd a lles. Mwynhewch hyrwyddiadau sba unigryw, triniaethau bach wedi’u teilwra, a gostyngiadau amser cyfyngedig ar ystod arobryn Ishga o ofal croen naturiol, a’r cyfan wrth flasu canapés ysgafn, maethlon. Cadwch eich lle yma.

11 Tachwedd – Digwyddiad Menopos a Symud Sweaty Betty: Ymunwch â Sweaty Betty Caerdydd am noson rymusol yn ymwneud â chadw’n iach ac yn hapus trwy’r menopos a’r perimenopos. Gallwch ddisgwyl trafodaethau agored, cyngor arbenigol, a dosbarth cryfder ac ymwrthedd 20-30 munud ac yna profiad siopa preifat a lluniaeth. Cadwch eich lle yma.

Mae Pythefnos Iechyd a Harddwch hefyd yn cyflwyno profiadau unigryw mewn siopau, sesiynau pampro a gostyngiadau ar draws arcedau Caerdydd a chanolfan Dewi Sant:

  • 20% oddi ar bob triniaeth laser yn Beauty Advance
  • Fêl am ddim gyda phob ffrog briodas a brynir yn Eva Ashley
  • Sesiynau Ioga Codi yn Holland & Barrett
  • Dosbarth Meistr Colur Estée Lauder yn John Lewis
  • Darganfyddwch Gasgliad newydd Rituals yn Rituals

P’un a yw’n hwb bach cyflym, profiad lles, neu’n darganfod y cynnyrch newydd perffaith, mae gan y Pythefnos Iechyd Harddwch rywbeth i bawb.

Dywedodd Carolyn Brownell, Cyfarwyddwr Gweithredol Caerdydd AM BYTH: Pythefnos Iechyd a Harddwch yw’r diweddglo perffaith i’n hymgyrch Dinas yr Arcêd 2025; eiliad i oedi, blaenoriaethu lles, a dathlu’r busnesau anhygoel sy’n gwneud Caerdydd yn lle mor fywiog i fyw, gweithio ac ymweld ag ef. Wrth i ni fynd nesáu at y tymor parti Nadolig prysur, mae’n gyfle gwych i atgoffa i gymryd amser ar gyfer ychydig o hunanofal, ac i fwynhau popeth sydd gan ganol ein dinas i’w gynnig.

Mae gennym gynlluniau mwy cyffrous i’w rhannu cyn bo hir ar gyfer Nadolig Caerdydd, felly mwy yn y man.”

I gael rhagor o wybodaeth am yr ymgyrch a’r cynigion a’r digwyddiadau sydd i ddod, ewch i: www.thecityofarcades.com