Dinas yr Arcêd 2025: Bydd Pythefnos Hanes yn dod â stori Caerdydd yn fyw

Dydd Mercher, 22 Hydref 2025


 

Mae Dinas yr Arcêd 2025 yn parhau â’r dathliad 70 diwrnod gyda Phythefnos Hanes (17 Hydref – 1 Tachwedd) – gan daflu goleuni ar orffennol, presennol a dyfodol Caerdydd drwy brofiad ymgolli Llwybr yr Arcêd Teithwyr Amser.

Pythefnos Hanes yw’r bedwaredd bennod thema yn ymgyrch Dinas yr Arcêd 2025 sy’n dathlu 70 mlynedd o Gaerdydd fel prifddinas Cymru. Bellach yn ei hwythfed flwyddyn, mae Dinas yr Arcêd yn cael ei gyflwyno gan Caerdydd AM BYTH, sef Ardal Gwella Busnes (AGB) canol y ddinas, ac mae’n tynnu sylw at y cymysgedd unigryw o fusnesau annibynnol a chenedlaethol yn arcedau Fictoraidd ac Edwardaidd Caerdydd a chanolfan Dewi Sant.

Yn ystod ail wythnos Pythefnos Hanes (26 – 31 Hydref), bydd pob arcêd yng Nghaerdydd yn cael ei drawsnewid i adlewyrchu degawd gwahanol o hanes y ddinas, gyda digwyddiad byw undydd arbennig yn cael ei gynnal ddydd Mercher 29 Hydref.

Yn llawn addurniadau thematig, perfformwyr byw, a hyd yn oed masgod ‘Teithiwr Amser’ i arwain y ffordd, bydd y digwyddiad am ddim yn gwahodd teuluoedd i ailddarganfod hanes bywiog Caerdydd yng nghanol y ddinas.

Mae’r Llwybr yn cychwyn yn Arcêd Wyndham lle bydd cyfranogwyr yn codi eu Tocyn Teithiwr Amser ac yn cychwyn ar daith drwy’r arcedau gan ddefnyddio map wedi’i gynllunio’n arbennig. Ar hyd y llwybr, bydd gosodiadau crog, finylau ffenestri byw, a phropiau thematig yn dod â phob degawd yn fyw, gan annog ymwelwyr i gwblhau’r llwybr llawn, casglu stampiau ym mhob arcêd a chael cyfle i ennill gwobr gyffrous.

Gan orffen eu taith yn Arcêd y Castell gall cyfranogwyr gyflwyno eu tocyn wedi’i stampio’n llawn i dderbyn tystysgrif Teithiwr Amser a chael eu cynnwys mewn raffl i ennill cerdyn rhodd Caerdydd AM BYTH gwerth £200.

Bydd pob arcêd yn adrodd pennod wahanol o hanes Caerdydd:

  • 1950au | Arcêd Dominions – Caerdydd yn dod yn brifddinas: Camwch i 1955, pan gafodd Caerdydd ei datgan yn swyddogol yn brifddinas Cymru. Gallwch ddisgwyl arddangosfeydd canol y ganrif, traciau sain o’r cyfnod, a blaenau siopau wedi’u steilio â thonau pastel ac elfennau o’r cyfnod.
  • 1960au | Arcêd y Stryd Fawr – Genedigaeth Doctor Who: Camwch i’r 60au a dathlu gwreiddiau’r teithiwr amser chwedlonol y Doctor, a chysylltiad parhaol y gyfres â Chaerdydd.
  • 1970au | Arcêd Frenhinol – Mudiad Hawliau LHDTC+: Mae lliw, dewrder a chymuned yn ganolog wrth i’r Arcêd Frenhinol anrhydeddu cynnydd y mudiad hawliau LHDTC+. Bydd y Queer Emporium a busnesau annibynnol cyfagos yn dangos arddangosfeydd wedi’u hysbrydoli gan pride ac arddull retro.
  • 1980au | Canolfan Dewi Sant – Twf Manwerthu: Ewch yn ôl i’r degawd a luniodd dirwedd siopa Caerdydd a dathlu esblygiad canolfan Dewi Sant, gyda gwisgo thematig o flaen hen le Debenhams a theyrnged i ddiwylliant pop yr 80au.
  • 1990au | Arcêd Morgan – Dinas Gerddoriaeth Caerdydd: Dathlwch dreftadaeth gerddorol Caerdydd gyda dylanwadau grunge, Britpop ac indie. Gallwch ddisgwyl teyrngedau i siopau recordiau chwedlonol y ddinas ac artistiaid o Catatonia i Super Furry Animals.
  • 2000au | Arcêd Wyndham – Stadiwm y Mileniwm yn Agor: Gallwch ail-fyw’r foment y trawsnewidiodd y stadiwm orwel Caerdydd a’i rôl mewn chwaraeon a cherddoriaeth fyw. Bydd arddangosfeydd ffenestri yn cipio ysbryd y flwyddyn 2000, gan ddathlu rygbi, pêl-droed a chyngherddau llwyddiannus.
  • 2010au | Arcêd Heol y Dug – Dinas Chwaraeon Caerdydd: Teyrnged i ddegawd o fuddugoliaethau chwaraeon Caerdydd – o glybiau llawr gwlad i gystadlaethau byd-eang. Bydd arddangosfeydd yn dathlu athletwyr lleol, timau a diwylliant ffitrwydd cymunedol.
  • Heddiw a Fory | Arcêd y Castell – Cynaliadwyedd a Busnesau Annibynnol: Wrth edrych i’r dyfodol, mae Arcêd y Castell yn canolbwyntio ar y busnesau sy’n llunio pennod nesaf Caerdydd. Gallwch ddisgwyl cynhyrchion cynaliadwy, meddwl gwyrdd, a chreadigrwydd manwerthwyr annibynnol y ddinas.

Mae uchafbwyntiau ychwanegol ar gyfer dydd Mercher 29 Hydref yn cynnwys:

  • O 10am tan 4pm, bydd un ar ddeg o fyfyrwyr o Adran Ddrama Prifysgol De Cymru yn perfformio mewn gwisgoedd y cyfnod ar draws yr arcedau, gan ddiddanu ymwelwyr fel rhan o fodiwl gwaith cwrs arbennig wedi’i ysbrydoli gan y Llwybr Teithwyr Amser.
  • Am 11am yn Arcêd Dominions, gall ymwelwyr fwynhau plymio’n ddwfn i hanes Caerdydd fel Prifddinas, gan archwilio’r foment y cafodd Caerdydd ei chyhoeddi’n swyddogol yn brifddinas y genedl ym 1955.
  • Trwy gydol y dydd, gall ymwelwyr lofnodi’r “Datganiad Busnesau Annibynnol” yn Arcêd Dominions, sy’n dathlu busnesau annibynnol ffyniannus Caerdydd.
  • Am 1pm, bydd côr lleol yn perfformio anthemau clasurol yn Arcêd Wyndham, gan ddod â cherddoriaeth ac awyrgylch i galon y ddinas.
  • Bydd Arcêd y Stryd Fawr yn cynnal TARDIS, sy’n anrhydeddu cysylltiad Caerdydd â’r Arglwydd Amser byd-enwog, y Doctor.
  • Bydd canolfan Dewi Sant yn dathlu yn arddull wirioneddol yr ’80au – gan wahodd cyfranogwyr y llwybr i dwrio’r blwch propiau, taro ystum, a dangos eu gwisgoedd retro gorau gyferbyn â’r Ddesg Wybodaeth.

Dywedodd Cyfarwyddwr Gweithredol Caerdydd AM BYTH Carolyn Brownell, “Bydd Pythefnos Hanes a Llwybr Arcêd Teithwyr Amser yn dathlu’r eiliadau sydd wedi siapio ein dinas yn brifddinas fywiog y mae hi heddiw. Ni allwn aros i weld teuluoedd yn cymryd rhan yn y cyfle am ddim hwn i gysylltu â’r gorffennol a’r presennol, ac i ddathlu’r busnesau sy’n parhau i wneud Caerdydd yn lle bywiog a chyffrous i fod.”

Mae Caerdydd AM BYTH mewn partneriaeth â Bws Caerdydd yn hyrwyddo’r Tocyn Teulu ochr yn ochr â Llwybr Teithwyr Amser Dinas yr Arcêd, gan ei gwneud hi’n haws i deuluoedd archwilio’r arcedau a mwynhau diwrnod allan yng nghanol y ddinas. Cynlluniwch eich ymweliad yma a dysgu mwy am y Tocyn Teulu yma.

Ar ddod yn Dinas yr Arcêd 2025 mae Pythefnos Iechyd a Harddwch (1 – 14 Tachwedd). I gael rhagor o wybodaeth am yr ymgyrch a’r cynigion a’r digwyddiadau sydd i ddod, ewch i: www.thecityofarcades.com.