Beth wyt ti'n edrych am?
Hedfannau uniongyrchol newydd o Faes Awyr Caerdydd i Toronto gyda WestJet
Dydd Mawrth, 18 Tachwedd 2025
-
- WestJet yn dewis Caerdydd i gryfhau rhwydwaith y DU yn 2026
- Cyswllt awyr uniongyrchol cyntaf rhwng Cymru a Chanada mewn bron i 20 mlynedd
- Llwybr newydd i hybu twristiaeth, busnes a chysylltiadau diwyllianno
Mae Maes Awyr Caerdydd, Maes Awyr Cenedlaethol Cymru, yn falch o gyhoeddi gwasanaeth trawsatlantig uniongyrchol newydd i Toronto gyda WestJet, cwmni hedfan cost isel blaenllaw Canada. Bydd y teithiau hedfan di-stop yn lansio ar 23 Mai 2026, gan nodi’r cysylltiad awyr uniongyrchol cyntaf rhwng Cymru a Chanada mewn bron i ddau ddegawd.Fel rhan o’i dwf strategol yn y DU, mae WestJet wedi dewis Caerdydd fel ei Faes Awyr unigryw yng Nghymru a Lloegr ar gyfer 2026. Mae’r ychwanegiad yn atgyfnerthu uchelgeisiau Maes Awyr Caerdydd ar gyfer datblygiad parhaus ac yn gwella cysylltiadau byd-eang i Gymru.
O 23 Mai 2026 ymlaen, bydd WestJet yn gweithredu pedair hediad yr wythnos o Gaerdydd i Toronto, gan roi porth newydd cyflym a chyfleus i Ganada i deithwyr o Gymru, De-orllewin Lloegr, a Chanolbarth Lloegr. O Toronto, gall teithwyr gysylltu’n hawdd ar draws rhwydwaith Gogledd America WestJet, gan gynnwys Vancouver, Calgary a Montreal.
Mae ychwanegu gwasanaeth Toronto WestJet yn nodi cysylltiad newydd cyntaf Maes Awyr Caerdydd â Chanada ers 2008 ac yn cynrychioli carreg filltir allweddol yn ei adferiad ar ôl y pandemig. Mae nifer y teithwyr wedi tyfu’n gyson tuag at filiwn y flwyddyn, wedi’i gefnogi gan fuddsoddiad newydd a chymysgedd cynyddol o wasanaethau hamdden a theithiau hir.
Dywedodd Jon Bridge, Prif Swyddog Gweithredol Maes Awyr Caerdydd:
“Rydym yn hynod falch bod WestJet wedi dewis Maes Awyr Caerdydd fel cyrchfan newydd yn y DU ar gyfer haf 2026.
“Mae’r llwybr newydd hwn i Toronto yn nodi carreg filltir gyffrous yn ein twf ac yn gam mawr ymlaen wrth ailgysylltu Cymru â Gogledd America. Bydd yn cryfhau twristiaeth, yn creu cyfleoedd newydd ar gyfer masnach a buddsoddi, ac yn arddangos Cymru ar y llwyfan byd-eang.
“Mae hyder WestJet yng Nghaerdydd yn adlewyrchu’r galw cynyddol am deithio rhyngwladol o Gymru, De-orllewin Lloegr, a Chanolbarth Lloegr ac rydym yn edrych ymlaen at adeiladu partneriaeth hirdymor sy’n darparu manteision parhaol i’r ddwy genedl.”
Dywedodd Chris White-DeVries, Uwch Reolwr Materion Maes Awyr, WestJet:
“Rydym wrth ein bodd yn dod â gwasanaeth cyfeillgar, fforddiadwy a dibynadwy WestJet i Gymru am y tro cyntaf. Mae Caerdydd yn brifddinas fywiog gyda hanes balch a chyfoethog, ac rydym yn gweld potensial enfawr mewn ei chysylltu’n uniongyrchol â Toronto, porth allweddol i Ogledd America. Bydd y llwybr hwn yn ei gwneud hi’n haws nag erioed i deithwyr o Ganada ddarganfod arfordiroedd a diwylliant godidog Cymru, gan roi mynediad di-dor i westeion ledled Cymru a gorllewin Lloegr i Ddwyrain Canada a thu hwnt.”
Dywedodd Eluned Morgan AS, Prif Weinidog Cymru:
“Mae hyn yn newyddion da i deithwyr, busnesau a’n diwydiannau twristiaeth, yng Nghymru a Chanada. Gyda chysylltiadau da â dinasoedd eraill yng Nghanada, bydd llwybr newydd Toronto yn agor cyfleoedd economaidd newydd i Gymru yng Ngogledd America.
“Mae gennym tua 35 o gwmnïau o Ganada yng Nghymru, sy’n cyflogi tua 6,500 o bobl, tra bod Canada yn farchnad allforio gwerth dros £300m y flwyddyn. Cyn ein Uwchgynhadledd Buddsoddi yng Nghymru ar 1 Rhagfyr, mae hon yn enghraifft gadarnhaol o sut rydym yn agor cyfleoedd rhyngwladol i bobl a busnesau yng Nghymru.”
Mae’r llwybr newydd yn cael ei lansio cyn i Ganada gynnal Cwpan y Byd FIFA 2026 ar y cyd, gan greu cyfleoedd newydd amserol ar gyfer twristiaeth, busnes a chyfnewid diwylliannol rhwng Cymru a Gogledd America.
Mae Toronto, un o ddinasoedd mwyaf amrywiol a deinamig y byd, hefyd yn darparu cysylltiadau di-dor ymlaen i gyrchfannau ledled Gogledd America, gan wneud teithio pellter hir o Gymru yn haws nag erioed o’r blaen.