Beth wyt ti'n edrych am?
Upside Down House UK i weithredu'r atyniad Cymreig cyntaf yng Nghaerdydd ym mis Chwefror
Dydd Mawrth, 10 Chwefror 2026
Bydd Caerdydd yn croesawu atyniad newydd cyffrous i ymwelwyr ym mis Chwefror wrth i Upside Down House UK agor ei leoliad cyntaf yng Nghymru. Wedi’i leoli ar Heol y Frenhines, yng nghanol y brifddinas, mae Tŷ Wyneb i Waered Caerdydd yn dod â phrofiad trochi yn uniongyrchol i ganol y ddinas am y tro cyntaf.
Wedi’i gynllunio ar gyfer teuluoedd, crewyr cynnwys ac ymwelwyr o bob oed, mae’r atyniad yn addo creadigrwydd, hwyl a chyfleoedd i dynnu lluniau bythgofiadwy. Mae tocynnau ar werth nawr, gan gynnig mynediad cynnar i un o brofiadau newydd mwyaf trawiadol Caerdydd.
Ychydig funudau o Gastell Caerdydd, Canolfan Siopa Dewi Sant a Stadiwm Principality, bydd yr atyniad yn amlwg ar unwaith gyda’i du allan gwyrdd, gwyn a choch trawiadol, gan greu tirnod newydd bywiog ar Heol y Frenhines.
Y tu mewn, bydd ymwelwyr yn darganfod wyth ystafell thema unigryw, pob un wedi’i gynllunio i droi bywyd bob dydd wyneb i waered. Mae gofodau trochi yn dathlu diwylliant a dychymyg Cymru, gan gynnwys ysbrydoliaeth o chwedl y Ddraig Goch, teyrnged ar thema rygbi i angerdd chwaraeon Cymru, a lolfa ar batrwm fferm sy’n cynnwys manylion defaid chwareus a thu mewn clyd. Mae pob ystafell yn cynnig atgofion bythgofiadwy a hwyl rhyngweithiol.
Dwedodd Alex Barbary, Cyfarwyddwr Cyswllt Upside Down House UK: “Rydyn ni’n hynod gyffrous i ddod â’r Tŷ Wyneb i Waered i Gaerdydd. Mae rhoi ein lleoliad cyntaf yng Nghymru ar waith yn garreg filltir enfawr wrth i ni barhau i dyfu a rhannu ein profiad gyda chynulleidfa ehangach fyth. Mae creadigrwydd a diwylliant Caerdydd wedi’u plethu trwy’r profiad cyfan, ac ni allwn aros i groesawu ymwelwyr o bob cwr o Gymru a thu hwnt i gamu mewn a throi eu byd wyneb i waered.”
Mae Tŷ Wyneb i Waered Caerdydd wedi’i leoli ar Heol y Frenhines, CF10 2DW, rhwng Canolfan Siopa’r Capitol a Banc NatWest. Mae parcio gerllaw ar gael yng Nghanolfan Dewi Sant, Canolfan Siopa Capitol, ac NCP Plas Dumfries, gyda Gorsaf Ganolog Caerdydd gwta daith gerdded fer i ffwrdd.
P’un a ydych chi’n cynllunio diwrnod allan i’r teulu, antur yng nghanol y ddinas neu’r cefndir perffaith ar gyfer eich lluniau, mae Tŷ Wyneb i Waered Caerdydd yn cynnig profiad gwirioneddol unigryw. Mae tocynnau ar gael nawr drwy Wefan swyddogol Tŷ Wyneb i Waered.