Beth wyt ti'n edrych am?
Cyhoeddi dyddiadau Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd 2026
Dydd Iau, 26 Mawrth2026
Bydd Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd yn dychwelyd am ei thrydedd flwyddyn o gerddoriaeth sy’n gwthio ffiniau yn ystod yr hydref.
Bydd gŵyl 2026 yn cael ei chynnal o ddydd Gwener, 2 Hydref, i ddydd Sadwrn, 17 Hydref, gan lenwi lleoliadau, clybiau a safleoedd dros dro ledled Caerdydd gyda phythefnos o raglenni beiddgar sy’n gwthio ffiniau arloesedd, perfformio a thechnoleg ym maes cerddoriaeth.
Yn cynnwys sêr byd-eang, talent leol, digwyddiadau ymdrochol, sgyrsiau, gweithiau gosod, cydweithrediadau unigryw a digwyddiadau untro na ellir eu colli, bydd yr ŵyl unwaith eto yn cwmpasu:
• Sŵn – gŵyl flynyddol Caerdydd ar gyfer cerddoriaeth newydd.
• Llais – penwythnos celfyddydau rhyngwladol Canolfan Mileniwm Cymru.
• Gwobr Gerddoriaeth Gymreig – yn dathlu’r gerddoriaeth orau a wnaed yng Nghymru neu gan y Cymry.
Ers ei lansio yn 2024, mae’r ŵyl, sy’n cael ei chefnogi gan Gyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru, wedi dod ag artistiaid sy’n adnabyddus yn rhyngwladol, gan gynnwys Lauryn Hill, Rufus Wainwright, Moonchild Sanelly a Meredith Monk, i Gaerdydd; wedi cynnal artistiaid electronig arloesol Orbital a Leftfield; wedi profi setiau syfrdanol gan arwyr tanddaearol gan gynnwys Squid, Lambrini Girls, Ishmael Ensemble, English Teacher, ac Adult DVD; ac wedi hyrwyddo egni creadigol Caerdydd a Chymru gyda pherfformiadau arbennig gan bobl fel CVC, Melin Melyn, Das Koolies, a Sage Todz.
Y llynedd yn unig, gwelodd yr ŵyl dros 1,000 o gerddorion yn perfformio ar lwyfannau mewn 20 o leoliadau llawr gwlad ledled Caerdydd, ac roedd yn cynnwys perfformiadau gan dros 270 o artistiaid o Gymru ac artistiaid sydd wedi’u lleoli yma.
Dywedodd Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Jennifer Burke: “Mae Caerdydd yn prysur ddod yn un o gyrchfannau cerddoriaeth mwyaf cyffrous y DU ac mae Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd yn rhan fawr o hynny. Bob blwyddyn, mae’n dod â thalent fyd-eang anhygoel i Gaerdydd i chwarae yn ein lleoliadau annibynnol, yn ogystal â darparu llwyfan gwerthfawr i artistiaid lleol a dathlu ein sin fywiog.”
Mae Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd yn rhan allweddol o Strategaeth Gerddoriaeth hirdymor Cyngor Caerdydd, sy’n ceisio diogelu, hyrwyddo a chryfhau ecosystem gerddorol y ddinas.