Beth wyt ti'n edrych am?
Bwyty Pasture i Arlwyo Ardal 'VIP' y Gored Ddu
Dydd Mawrth, 31 Mawrth 2026
Gyda phob tocyn mynediad cyffredinol eisoes wedi’i werthu ar gyfer sawl dyddiad, cyhoeddwyd mai bwyty Pasture yng Nghaerdydd fydd y partner bwyd unigryw ar gyfer Yr Ardd, ardal VIP premiwm cyfres ddigwyddiadau’r Gored Ddu.
Cyhoeddwyd mai Bwyty Pasture fyddai’n bartner arlwyo swyddogol Yr Ardd, yr ardal VIP premiwm yng nghyfres cyngherddau haf y Gored Ddu yng Nghaerdydd, wrth i’r galw barhau i gynyddu am un o’r digwyddiadau cerddoriaeth fyw mwyaf poblogaidd yr haf hwn.
Y bwyty clodwiw yng Nghaerdydd fydd y masnachwr bwyd unigryw yn Yr Ardd yn ystod y gyfres, gan wasanaethu gwesteion VIP yng Nghaeau’r Gored Ddu wrth i filoedd baratoi i fynd i’r prif sioeau eleni.
Daw’r cyhoeddiad wrth i’r galw am docynnau ddwysáu ar draws rhaglen y Gored Ddu, gyda phob tocyn mynediad cyffredinol eisoes wedi’i werthu ar gyfer sawl dyddiad, a thocynnau Gardd VIP bellach yn un o’r unig ffyrdd sydd ar ôl i gefnogwyr sicrhau mynediad i berfformiadau dethol.
Ymysg y sioeau sydd â’r galw uchaf, gwerthwyd pob tocyn ar gyfer The Cure ar 24 Mehefin, a hynny o ran mynediad cyffredinol ac ar gyfer Yr Ardd, a gwerthwyd pob tocyn ar gyfer Lewis Capaldi ar 30 Mehefin hefyd, a hynny o ran y ddau gategori. Ar gyfer dyddiadau mawr eraill gan gynnwys Teddy Swims ar 26 Mehefin a Pitbull ar 4 Gorffennaf, gwerthwyd pob tocyn o ran mynediad cyffredinol, gyda hyn a hyn o docynnau ar gyfer Yr Ardd ar ôl.
Mae uwchraddiadau VIP ar gael o £33.60 ar gyfer deiliaid tocynnau presennol ar sioeau dethol.
Mae Gardd y Gored Ddu wedi’i chynllunio i gynnig ffordd well o brofi cyfres yr haf, gyda gwesteion yn elwa o ardal wylio unigryw o flaen y llwyfan, Bar Gardd preifat gyda diodydd premiwm, bwyd wedi’i goginio dros dân wedi’i ddarparu’n arbennig gan Pasture, toiledau premiwm, band arddwrn cofrodd a lonydd mynediad ar wahân.
Mae cyfranogiad Pasture yn dod ag un o frandiau lletygarwch mwyaf adnabyddus Caerdydd i galon cyfres gerddoriaeth fyw fwyaf y ddinas. Bydd y bwyty, sy’n adnabyddus am goginio dros dân a bwydlenni beiddgar, sy’n blaenoriaethu cynhwysion, yn darparu’r unig gynnig bwyd sydd ar gael yn yr Ardd. Bydd hyn yn cynnwys byrgyrs wedi’u grilio â fflam, stêcs unigryw Pasture wedi’u gweini â saws pupur neu chimichurri cartref, ac opsiynau figan (i’w cadarnhau) hefyd.
Dywedodd Sam Elliott, Cogydd-berchennog yn Pasture, “Rydyn ni’n hynod falch i fod yn bartner gyda’r tîm y tu ôl i’r Gored Ddu, ac i ddod â Pasture allan o’r bwyty i leoliad mor eiconig. Mae coginio dros dân, gweini bwyd gwych, a bod yn rhan o ddigwyddiad pwysig i’r ddinas yn teimlo fel addasiad naturiol i’r hyn rydyn ni’n ei wneud. Rydym yn edrych ymlaen at groesawu gwesteion i’r Ardd VIP i fwynhau’r awyrgylch, y blasau, a’r coginio dros dân y mae Pasture yn adnabyddus amdano.”
Dywedodd Nick Saunders, sylfaenydd DEPOT a hyrwyddwr y Gored Ddu, “Mae Pasture yn un o frandiau bwytai annibynnol mwyaf adnabyddus Caerdydd, ac mae’n addas iawn ar gyfer y math o brofiad premiwm yr ydym am ei greu yn Yr Ardd. Gyda’r galw mor uchel ar draws cyfres y Gored Ddu, rydym am roi ffordd gofiadwy i fynychwyr cyngherddau fwynhau rhai o sioeau mwyaf yr haf – gyda golygfeydd gwych, awyrgylch gwych, a bwyd blasus gan dîm Pasture.”
Mae’r Gored Ddu sydd yng nghanol Caerdydd, wedi sefydlu ei hun yn gyflym fel un o gyfresi digwyddiadau haf nodedig y ddinas, gan ddod ag artistiaid rhyngwladol mawr i gaeau’r Gored Ddu. I gael rhagor o wybodaeth ac i archebu tocynnau / uwchraddiadau, ewch i: https://www.blackweirlive.com