Beth wyt ti'n edrych am?
Cyngor teithio ar gyfer Cymru yr Eidal yn Stadiwm Principality
Thursday, 5 March 2026
Bydd nifer o ffyrdd ar gau yn ystod gêm olaf Pencampwriaeth Chwe Gwlad Dynion Guinness 2026 yn Stadiwm Principality ar 14 Mawrth – Cymru yn erbyn Yr Eidal.
Gyda’r gic gyntaf am 4.40pm, bydd ffyrdd ar gau rhwng 12.30pm a 9pm.
Mae disgwyl i draffordd yr M4 fod yn brysur iawn oherwydd – felly cynlluniwch ymlaen llaw i osgoi’r tagfeydd yng Nghaerdydd trwy ddefnyddio’r cyfleusterau parcio a theithio yn y maes parcio ger Arena Vindico ar Rhodfa Ryngwladol yn y Pentref Chwaraeon – CF11 0JS.
I gael y wybodaeth ddiweddaraf am y draffordd a’r cefnffyrdd, ewch i wefan Traffig Cymru, neu @TrafficWalesS ar Twitter a Facebook.
Mae pobl sy’n mynd i’r gêm rygbi yma yn cael eu cynghori’n gryf i gynllunio eu taith ymlaen llaw a chyrraedd y stadiwm yn gynnar. Darllenwch y rhestr o eitemau gwaharddedig yn principalitystadium.wales, yn enwedig y polisi bagiau (dim bagiau mawr) cyn teithio i’r ddinas.
Bydd Trafnidiaeth Cymru yn treialu system newydd gan ddefnyddio gorsafoedd rheilffordd Caerdydd Canolog a Heol y Frenhines Caerdydd. Bydd cefnogwyr sy’n mynd adref ar wasanaethau’r Cymoedd a’r Fro yn cael eu cyfeirio at orsaf Heol y Frenhines Caerdydd yn hytrach na Chaerdydd Canolog, ond bydd gwasanaethau trên prif linell gan gynnwys Glynebwy yn parhau i ddefnyddio Canol Caerdydd.
Cau ffyrdd
Bydd Heol Scott a Heol y Parc yn cael eu cau yn gynnar o 7am i baratoi Gât 5 a diogelu cefnogwyr a fydd yn ciwio.
Caiff y ffyrdd canlynol eu cau fel rhan o batrwm cau ffyrdd llawn canol y ddinas ar gyfer pob digwyddiad:
- Ffordd y Brenin o’r gyffordd â Heol y Gogledd i’r gyffordd â Heol y Dug.
- Heol Ddwyreiniol y Bont-faen o’r gyffordd â Heol y Gadeirlan i’r gyffordd â Heol y Porth.
- Stryd Tudor o’r gyffordd â Heol Clare i’r gyffordd â Stryd Wood (caniateir mynediad i breswylwyr a masnachwyr ar hyd Arglawdd Fitzhammon).
- Plantagenet Street a Beauchamp Street o’r cyffyrdd â Despenser Place i’r cyffyrdd â Stryd Tudor (caniateir mynediad i breswylwyr a masnachwyr).
- Bydd y ffyrdd canlynol ar gau’n gyfan gwbl: Heol y Dug, Stryd y Castell, Stryd Fawr, Heol Eglwys Fair, Stryd Caroline, Stryd Wood, Y Sgwâr Canolog, Heol y Porth, Stryd y Cei, Plas y Neuadd, Y Gwter, Heol y Parc, Stryd Havelock a Heol Scott.
- Bydd mynediad i fysus yn unig i Rodfa’r Orsaf a Stryd Guildford o’r gyffordd â Heol Casnewydd at y gyffordd â Ffordd Churchill yn ystod yr amseroedd cau ffyrdd. Y rheswm dros hyn yw i sicrhau mynediad dibynadwy i fysus at y mannau lloeren yn Ffordd Churchill.
- Yn ogystal, bydd Heol Penarth ar gau 30 munud cyn i’r gêm orffen ac am hyd at awr wedi’r chwiban olaf am resymau diogelwch i deithwyr trên sy’n cyrraedd a gadael yr orsaf drenau.
Ychwanegiadau:
Y Ganolfan Ddinesig:Rheolir mynediad i ran o’r Ganolfan Ddinesig drwy’r dydd. Caniateir mynediad yn unig i barcio ar gyfer y digwyddiad, rhywfaint o barcio ar gyfer cymudwyr, llwytho a mynediad at feysydd parcio preifat.
Mae’r ffyrdd yr effeithir arnynt yn cynnwys Rhodfa’r Brenin Edward VII, Rhodfa’r Amgueddfa, Heol Neuadd y Ddinas, Heol y Coleg a Heol Gerddi’r Orsedd.
Trenau
Great Western Railway (GWR)
Bydd GWR yn darparu gwasanaethau ychwanegol i helpu cwsmeriaid i gyrraedd adref o gemau’r Chwe Gwlad yn Stadiwm Principality eleni. Bydd trenau ychwanegol o Gaerdydd Canolog i Abertawe, Casnewydd, Bryste a Llundain, gyda llawer o lefydd parcio ar gael ym meysydd parcio’r orsaf.
Fodd bynnag, mae disgwyl i drenau fod yn brysur iawn yn syth ar ôl y gemau a bydd system giwio ar waith y tu allan i’r orsaf i helpu pobl i fynd i’r trenau’n ddiogel.
Dylai’r rhai sy’n teithio’n bellach wirio gwasanaethau cyswllt yn www.gwr.com/check
Bydd Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn treialu dull rheoli torf newydd ar ôl Cymru yn erbyn yr Eidal ar 14 Mawrth gyda’r nod o wella profiad diwrnod y gêm i gefnogwyr a pharatoi ar gyfer gwaith mawr yng Nghanol Caerdydd. Bydd cefnogwyr sy’n mynd adref ar wasanaethau’r Cymoedd a’r Fro yn cael eu cyfeirio at orsaf Heol y Frenhines Caerdydd yn hytrach na Chaerdydd Canolog. Bydd ciwiau’r prif linell yn parhau ar Sgwâr Canolog Caerdydd, gyda ciwiau’r cymoedd a’r Fro bellach yng ngorsaf Heol y Frenhines Caerdydd.
Platfform 2 – Bae Caerdydd, Ynys y Barri, Penarth, Pen-y-bont ar Ogwr
Platfform 3 – Aberdâr
Platfform 4 – Pontypridd, Treherbert, Merthyr Tudful
Platfform 5 – Bargoed, Caerffili, Rhymni, Coryton, Ystrad Mynach
Er mwyn arbed amser yn yr orsaf, atgoffir cefnogwyr i gael tocyn dilys cyn teithio ac fe’u hanogir i ddefnyddio’r system talu wrth fynd digyswllt ar draws rhwydwaith Metro De Cymru neu ddefnyddio ap TrC.
Dylai teithwyr sy’n defnyddio dull talu wrth fynd dapio i mewn yn eu gorsaf ymadael ac yna tapio allan gan ddefnyddio’r un dull talu drwy’r lonydd refeniw talu wrth fynd pwrpasol wrth adael Caerdydd Canolog. Bydd gwirfoddolwyr Trafnidiaeth Cymru ar gael i helpu i dapio i mewn ac allan.
Nodyn i’ch atgoffa bod talu wrth fynd ar gael ar hyn o bryd ar wasanaethau TC a Thraws Gwlad ar draws rhwydwaith Metro De Cymru (Ddim ar gael ar wasanaethau Great Western Railway [GWR]).
Bydd Cyfnewidfa Fysiau Caerdydd yn cau am 12.30pm ac yn ailagor am 9pm.
Cyfleusterau Parcio a Theithio
Bydd cyfleusterau parcio a theithio digwyddiad yn defnyddio’r maes parcio ger Arena Vindico ar y Rhodfa Ryngwladol yn y Pentref Chwaraeon, Bae Caerdydd – CF11 0JS.
Y man gollwng yng nghanol y ddinas yw Ffordd Tresilian.
Mae’r maes parcio yn agor am 9.30am ac mae’r bws cyntaf am 10am a’r bws olaf o ganol y ddinas am 7.30pm.
Y gost yw £15. Arian parod yn unig.
Parcio ar Ddiwrnod Digwyddiad yn y Ganolfan Ddinesig (Ceir a Choetsys)
Cyrraedd yno: Gadewch wrth Gyffordd 32 yr M4, ewch tua’r de ar yr A470 tua chanol y ddinas a dilyn yr arwyddion i’r ganolfan ddinesig.
Cost: £20 yn daladwy ar y diwrnod am gar a £30 i goets – mae taliadau cerdyn hefyd ar gael nawr.
Amseroedd parcio: Bydd y maes parcio yn agor am 8am ac yn cau am hanner nos.
Parcio ar Ddiwrnod y Digwyddiad yng Ngerddi Sophia
Cyrraedd yno: Gadewch ar gyffordd 32 yr M4
Cost: £20 i geir a £30 i goetsys – mae talu â cherdyn nawr ar gael.
Amseroedd parcio: Bydd y maes parcio yn agor am 8.00am ac yn cau am 12 hanner nos.
Sylwer: Bydd staff ym maes parcio Gerddi Sophia tan 7.00pm. Gadewir pob cerbyd ar y safle ar risg y perchennog. Ni fydd Cyngor Caerdydd yn gyfrifol am unrhyw ladrad neu ddifrod i geir nac i eiddo personol. Cyflwynir dirwy i unrhyw gerbydau sy’n cael eu gadael yn y maes parcio ar ôl yr amser cau.
Bws
Bysus lleol:
Caiff gwasanaethau bws eu dargyfeirio tra bydd ffyrdd canol y ddinas ar gau
Ewch i wefan y cwmni bws perthnasol i gael rhagor o wybodaeth am eich llwybrau bws penodol.
Ar gyfer gwasanaethau Stagecoach, ewch i: Croeso i Stagecoach (stagecoachbus.com)
Ar gyfer gwasanaethau Bws Caerdydd, ewch i: https://www.cardiffbus.com/principality-stadium
Am ragor o wybodaeth am wasanaethau NAT, ewch i: https://www.natgroup.co.uk/
National Express:
Bydd bysus National Express yn defnyddio Gerddi Sophia fel yr arfer.
Allwch chi feicio neu gerdded?
Bydd y beicffyrdd a’r beicffyrdd dros dro o fewn yr ardal cau ffyrdd yn parhau ar agor i feicwyr eu defnyddio yn ystod y digwyddiad, ond oherwydd nifer y bobl y disgwylir iddynt fynychu’r gêm rygbi, gofynnwn i bob beiciwr gymryd gofal a thalu sylw.
Mae’r trefniadau cau ffyrdd yn berthnasol i bob cerbyd modur o unrhyw fath, ond nid i feiciau â phedalau.
Gall y rheini sy’n byw yng Nghaerdydd fod eisiau beicio neu gerdded.Mae ymchwil yn dangos bod 52% o’r teithiau car ym mhrifddinas Cymru yn llai na 5km o hyd. Mae hwn yn bellter y gellir ei feicio’n hawdd mewn 20 munud.
Gwyddom hefyd yr hoffai 28% o drigolion Caerdydd nad ydyn nhw’n beicio ar hyn o bryd wneud hynny.
Pan fo tagfeydd ar y ffyrdd, mae hyn yn gwneud beicio yn ddewis mwy atyniadol byth oherwydd byddai teithio ar feic yn gynt nag yn y car yn ystod oriau brig neu ddigwyddiadau mawr.
Parcio i Siopwyr
Mae meysydd parcio ar gael yng nghanol y ddinas hefyd: Meysydd Parcio Heol y Gogledd; Canolfan Siopa Dewi Sant; John Lewis; Canolfan Siopa Capitol ac NCP (Stryd Adam, Plas Dumfries a Heol y Brodyr Llwydion).
Parcio i Bobl Anabl
Argymhellir bod gyrwyr anabl yn defnyddio Gerddi Sophia. Mae lleoedd parcio i bobl anabl hefyd ar gael mewn meysydd parcio preifat amrywiol.
Gweler argaeledd ar wefannau unigol.
Tacsis
Bydd safle tacsis Heol Eglwys Fair yn cau am 12.30pm ac yn ailagor am 9pm.