Beth wyt ti'n edrych am?
Teuluoedd yn heidio i osodwaith goleuadau a sain anhygoel AM DDIM wedi’i ysbrydoli gan lên gwerin Cymru
5 Rhagfer 2022
Wedi’i leoli yng nghanol Caerdydd, mae disgwyl y bydd première byd-eang gosodwaith ‘Goleuni’r Gaeaf’ yn denu miloedd o ymwelwyr i ganol y ddinas dros gyfnod y gaeaf.
Mae gosodwaith goleuadau a sain NEWYDD wedi cael ei ddadorchuddio yng nghanol dinas Caerdydd. Wedi’i ysbrydoli gan draddodiadau hynafol o Gymru, mae’r gosodwaith syfrdanol – a grëwyd yn benodol ar gyfer prifddinas Cymru ar raddfa a welwyd mewn dim ond dau le arall yn y byd – yn gobeithio taflu goleuni ar bwysigrwydd bod gyda’n gilydd a’r ysbryd cymunedol sy’n treiddio’r tymor.
Bydd yn ei le rhwng 25 Tachwedd a 11 Chwefror ac ar agor bob dydd rhwng 8am a 9pm, yng Ngardd Sant Ioan ger Marchnad Caerdydd. Bydd mynediad am ddim, ac yn croesawu teuluoedd i ymgolli yn y goleuadau a’r seinwedd ymatebol – sy’n cynnwys fersiwn o’r gân werin Gymraeg Ar Lan y Môr, a recordiwyd gan Gôr Sant Ioan.
Yn edrych ar ei orau yn y cyfnos neu wedi iddi nosi, mae’r gosodwaith, sy’n ychwanegiad newydd i atyniadau gaeaf Caerdydd AM BYTH, wedi’i ysbrydoli gan ddathliadau Canol Gaeaf hynafol Cymru. Roedd y wledd draddodiadol, a gynhaliwyd ar ddiwrnod byrraf y flwyddyn, yn cael ei hadnabod fel ‘Goleuni’r Gaeaf ac roedd yn gyfle i ddathlu cymuned a chroesawu dyddiau hirach, mwy golau.
Yn ogystal â’r gosodwaith, bydd gweithdai adrodd straeon a chelf i’r teulu am ddim ym mis Ionawr ’23, gyda’r awdur a’r darlunydd lleol Jack Skivens. Mae’r artist, wedi’i ysbrydoli gan Oleuni’r Gaeaf, wedi dylunio set o gymeriadau – dryw, robin goch, a drudwen – fydd wedi eu lleoli hwnt ac yma yng nghanol y ddinas i helpu teuluoedd i ddod o hyd i’r gosodwaith.
Dywedodd Jack Skivens,
“Mae stori’r robin goch a’r dryw yn gyffredin iawn mewn llên gwerin Celtaidd, ac yn rhan fawr o ddathliadau Heuldro’r Gaeaf. Maen nhw’n cael eu defnyddio’n aml i dywys pobl i lefydd gwych – a gobeithio y gaeaf hwn, y byddan nhw’n yn helpu i arwain miloedd o deuluoedd i osodwaith goleuadau a sain Goleuni’r Gaeaf.
“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at gyflwyno gweithdai creadigol yn gynnar ym mis Ionawr a gobeithio y bydd yn rhoi cyfle i deuluoedd fwynhau gweithgareddau hygyrch, am ddim yng nghanol y ddinas, ac y byddant yn helpu i addysgu ac ysbrydoli meddyliau ifanc am straeon traddodiadol pwysig Cymru.”
Wedi’i gomisiynu gan Caerdydd AM BYTH a’r Nadolig ym Mharc Bute, ac wedi’i gyflwyno gan Squidsoup, mae’r trefnwyr yn gobeithio y bydd y digwyddiad am ddim hwn yn denu teuluoedd o Gaerdydd a’r tu hwnt i ddathlu yng nghanol y ddinas ar adeg pan fo’r argyfwng costau byw yn achosi i bobl ledled y DU orfod rheoli eu gwario’n dynn.
Mae arolygon diweddar wedi dangos bod 70% o bobl Prydain yn bwriadu gwario llai y Nadolig hwn, gyda 46% yn dweud y byddan nhw’n bwyta allan llai, a 35% yn rhoi’r gorau i gymdeithasu cyffredinol.
Dywedodd Adrian Field, Cyfarwyddwr Gweithredol Caerdydd AM BYTH:
“Mae’r cyhoedd yn chwilio am ffyrdd rhad o gymryd rhan mewn dathliadau Nadolig a dyddiau allan y gaeaf hwn. Mae’r gosodwaith goleuadau a sain hwn yn gobeithio dod â phobl at ei gilydd, er mwyn eu galluogi i gael profiad difyr, am ddim gyda’r teulu a gyda ffrindiau, dros dymor y gaeaf.
“I fusnesau, y cyfnod cyn ac ar ôl y Nadolig yw adegau prysuraf y flwyddyn. Rydym wir yn gobeithio, gan mai dyma’r gaeaf cyntaf mewn bron i dair blynedd lle gall busnesau agor yn llawn heb gyfyngiadau, y bydd yr arddangosfa hon yn atgoffa teuluoedd cymaint o bleser sydd i’w gael o ymweld â chanol y ddinas.”
Ychwanegodd Cathryn Peach-Barns, Cynhyrchydd Creadigol, Y Nadolig ym Mharc Bute,
“Rydyn ni wrth ein bodd yn gweithio gyda Caerdydd AM BYTH a Squid Soup wrth ddod â gosodwaith ymdrochol yn fyw, yng nghanol y Ddinas, y gall pawb ei fwynhau dros y Nadolig. Dim ond mewn dau le yn y byd i gyd mae’r gosodwaith unigryw hwn wedi ei weld ar y raddfa hon, felly mae’n anrhydedd dod ag ef i Gaerdydd a bod yn rhan o gomisiwn mor gyffrous.
“Mae pwysigrwydd bod gyda’n gilydd y gaeaf hwn yn rhywbeth rydyn ni’n teimlo’n gryf yn ei gylch, ac rydyn ni’n teimlo y dylai pawb o bob oed gael mynediad at ddarn o greadigrwydd mor wefreiddiol. Mae wedi bod yn wych gweithio ar y cyd ar y prosiect hwn, ac rydyn ni wrth ein bodd y gall cynifer o deuluoedd fwynhau’r arddangosfa hon am ddim.”
Nodiadau i’r golygyddion
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â:
Elouise Hobbs, Cowshed
S: 07954 077426︱Ff: 029 2078 9321 | E: elouise@wearecowshed.co.uk
Ynghylch Goleuni’r Gaeaf
- Dyddiadau: 25 Tachwedd – 11 Chwefror 2023
- Amseroedd: 8am – 9pm, bob dydd. Profiad gorau yn y cyfnos/wedi nosi
- Lleoliad penodol: Gardd Sant Ioan, 16 Stryd Working, Caerdydd CF10 1GN
Ynghylch Caerdydd AM BYTH
Mae Caerdydd AM BYTH – oedd yn cael ei alw’n Ardal Gwella Busnes Caerdydd gynt – yn sefydliad a arweinir gan fusnes, nad yw er elw, wedi ei ethol gan fusnesau’r ddinas, gyda chynllun uchelgeisiol o drawsnewid canol dinas Caerdydd – a’i wneud yn fwy croesawgar, bywiog a dylanwadol.
forcardiff.com
Instagram: forcardiff
Twitter: FOR_Cardiff
Facebook: Caerdydd AM BYTH
Y Nadolig ym Mharc Bute
Mae’r Nadolig ym Mharc Bute yn llwybr wedi’i oleuo trwy Barc Bute Caerdydd sy’n cynnwys sbectrwm o oleuadau, cerfluniau ac effeithiau arbennig. Llwybr 1.4 Km yw’r llwybr tocynnau ac mae ar agor o 4 Tachwedd 2022 – 1 Ionawr 2023.
Ynghylch Squidsoup
Mae squidsoup yn arloeswyr o ran defnyddio golau, sain a thechnoleg i greu gosodweithiau ymdrochol. Rydyn ni’n annog pobl i weld y byd o safbwyntiau gwahanol, drwy gyflwyno mathau newydd o brofiadau symbylol a swynol. Mae ein gwaith wedi’i weld gan filiynau o bobl ledled y byd ers 1997 mewn orielau a digwyddiadau byw, gwyliau ac arddangosfeydd unigol.
O orielau celf i fannau trefol awyr agored, o wyliau i ganolfannau siopa, mae ein gwaith yn dod â bywyd newydd a haen estynedig ddeinamig ychwanegol, yn trawsnewid gofod a phrofiadau pobl ohono.
Mae arddangosfeydd a digwyddiadau diweddar wedi cynnwys Gŵyl y Burning Man, Canary Wharf, Lumiere Durham, Gerddi Botaneg Brenhinol Kew, SIGGRAPH, Tŷ Opera Sydney ac Ars Electronica.
Gwe: https://www.squidsoup.org
Instagram: @squidie
DIWEDD