Beth wyt ti'n edrych am?
Senedd Ieuenctid Cymru | Adeiladu’r Dyfodol Gyda’n Gilydd
Dyddiad(au)
24 Chwe 2024 - 18 Mai 2024
Amseroedd
10:00 - 16:30
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Cynhaliodd Senedd Ieuenctid Cymru ei hetholiad cyntaf yn 2018. Mae’n llwyfan i godi lleisiau pobl ifanc ar y materion sy’n bwysig iddyn nhw. Mae’r arddangosfa hon yn edrych ar waith ail Senedd Ieuenctid Cymru.
Beth ydym ni eisiau ei weld yn newid?
Cyflwynwyd ein hargymhellion i Lywodraeth Cymru yn ein tri adroddiad, ‘Ffyrdd Gwyrdd’, ‘Meddyliau Iau o Bwys’ a ‘Fy Niwrnod Ysgol’. Yn yr arddangosfa hon, byddwch yn dod i wybod am y materion hyn – pethau sy’n bwysig i ni, a phobl ifanc eraill yng Nghymru.