Beth wyt ti'n edrych am?
StoryFutures | XPERIENCE
Dyddiad(au)
01 Ebr 2024 - 21 Ebr 2024
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Yn galw ar bawb sy’n hoff o straeon trochol a realiti rhithwir:
Mae Canolfan Mileniwm Cymru wedi ymuno â Storyfutures i ddod ag XPERIENCE i Bocs – sef ein lleoliad pwrpasol ar gyfer ffurfiau newydd o adrodd straeon.
Mae XPERIENCE yn cynnig sawl profiad realiti rhithwir diddorol, o ganlyniad i waith StoryFutures gydag ystod o bartneriaid anhygoel yn ail-ffurfio ac yn ail-ddychmygu.
Mae straeon XPERIENCE gan StoryFutures yn trafod themâu amrywiol, gan gynnwys cerddoriaeth, chwaraeon a newid hinsawdd, ac maent yn amrywio o ffilmiau 360 animeiddiedig i brofiadau trochol rhyngweithiol llawn.