NEIGHBOURHOOD KITCHEN

Mae Neighbourhood Kitchen & Bedrooms yn fwyty a bar coctel clyd, gyda thair ystafell wely hunanarlwyo foethus, sydd ond taith gerdded fer o ganol y ddinas

GWEFAN

Opening hours

Mer - Gwe

5pm

Sad

5pm

Mae eu bwydlen bwyd stryd, sy’n newid yn fisol, yn cyflwyno blasau ffres – gan gynnwys prydau poblogaidd sydd wedi sgubo’r we fel yr Irish Spice Bag, y Bottomless Gravy Fondue, a’r Seafood Boil sydd ar gael yng Nghaerdydd yn unig. Anogir gwesteion i edrych ar y wefan cyn ymweld i weld beth sydd ar y fwydlen, neu gerdded i mewn am syrpreis! Mae hwn yn fwyty bach, anffurfiol â seddi cyfyngedig, felly argymhellir yn gryf eich bod yn cadw bwrdd ymlaen llaw i sicrhau bod sedd ar gael i chi. Mae archebu yn hawdd trwy’r wefan, a bydd y tîm yn gwneud eu gorau glas i fod wrth law os oes unrhyw gwestiynau.

Maent hefyd wedi lansio bwydlen frecwast French Toast yn ddiweddar i ddechrau’r diwrnod yn dda. P’un a yw ymwelwyr yn awyddus i fwynhau pryd ar ôl aros yn yr ystafelloedd i fyny’r grisiau, neu gael byrbryd ar y ffordd i mewn i’r swyddfa, mae brecwast yn cael ei weini o ddydd Mercher i ddydd Sul, rhwng 9am a 12pm.

O’r bar, gall gwesteion ddisgwyl amrywiaeth ffres o gwrw lleol a choctels wedi’u dewis yn ofalus, wedi’u paru’n berffaith â’r fwydlen gyfredol. P’un a yw rhywun yn chwilio am noson o ddiodydd yn unig, neu ychydig o ddiodydd i ddechrau’r noson, mae sedd wrth y bar yn aros amdanoch. Maen nhw’n enwog am eu margaritas, a does dim cywilydd mewn cael dwy ddiod ar yr un pryd yma – bachwch ddau fargarita am bris un, yn ystod yr wythnos cyn 7pm.

Beth am aros y nos? Na, nid fflyrtio oedd hynny – mae’r cyfle yno i chi go iawn! Mae tair ystafell wely foethus, unigryw i fyny’r grisiau, a’r rheini ond taith gerdded fer o ganol y ddinas. Gyda modd archebu bellach ar gyfer 2026, dyma’r amser perffaith i gynllunio ymlaen llaw ar gyfer anturiaethau’r flwyddyn nesaf. Yn ddelfrydol ar gyfer seibiant i gyplau yn y ddinas, penwythnos meddwol i ffwrdd gyda ffrindiau, neu fel esgus i osgoi cael perthnasau yn aros yn yr ystafell sbâr. Ac nid oes angen gadael yr aelod pwysicaf o’r teulu gartref – mae’r bwyty a’r ystafelloedd yn caniatáu anifeiliaid anwes!

 

RHESTR AELODAU RHWYDWAITH CROESO CAERDYDD – Tudalen fusnes uwch gyda chynnwys ychwanegol, delweddau, fideos a dolenni.