Neidio i'r prif gynnwys

IKEA

Yn cynnig ystod eang o ddodrefn cartref syml, wedi'u cynllunio'n dda ac yn fforddiadwy a’r cyfan o dan yr un to, oherwydd bod yr Arferol Ryfeddol yn dechrau gartref, cynlluniwch eich taith i IKEA Caerdydd.

Rydym yn hoffi gwneud ymweld ag IKEA Caerdydd yn hwyl i blant ac yn haws i oedolion. Småland yw ein hardal chwarae dan oruchwyliaeth am ddim, sydd wrth fynedfa ein siop. Bydd cydweithwyr IKEA Småland yn gofalu am eich plant am ddim am 45 munud wrth i chi fwynhau siopa yn y siop.

Trwy gydol y flwyddyn, rydym yn cynnal amrywiaeth o weithgareddau a digwyddiadau am ddim, gan gynnwys gweithdai crefft a gweithgareddau i blant yn ystod gwyliau’r ysgol. Edrychwch ar ein tudalen digwyddiadau yn rheolaidd… rydyn ni’n ei diweddaru drwy’r amser.

Ydy siopa yn eich gwneud chi’n llwglyd? Rydym yn gweini bwyd gonest, fforddiadwy a blasus. O beli cig Swedaidd i goffi a theisen mae gennym rywbeth i bawb.

CYFARWYDDIADAU

IKEA Cardiff Ferry Road, Grangetown Cardiff CF11 0XR