Beth wyt ti'n edrych am?
Dewi Sant Caerdydd i gynnal 'Coeden Balchder'
Dydd Mercher, 19 Mehefin 2024
I ddathlu Pride Cymru, mae Dewi Sant Caerdydd yn cynnal ‘Coeden Balchder’, gan wahodd gwesteion i addurno’r goeden gyda’u haddewidion i weithio tuag at ddyfodol mwy cynhwysol a gofalgar.
Bydd y darn celf gymunedol yn cael ei osod yng nghyrchfan siopa’r ddinas y bydd llwybr gorymdaith Pride Cymru yn ei basio. Yna bydd y Goeden Balchder yn teithio’r wlad gan gasglu negeseuon o gariad, undod a derbyn gan y cyhoedd ar ei thaith.
Gall gwesteion ymrwymo i un o’r addewidion a awgrymir os ydynt yn dymuno neu adael teimlad cadarnhaol sy’n teimlo’n briodol iddynt, megis ymroddiad i anwylyd, gan arddangos eu neges ar ganghennau’r goeden.
Bydd y Goeden Balchder yng Nghaerdydd Dewi Sant yn ystod penwythnos Pride Cymru, ddydd Sadwrn 22 Mehefin a dydd Sul 23 Mehefin, a gwahoddir y cyhoedd i gymryd rhan rhwng 10am a 6pm ddydd Sadwrn a 11am – 5pm ddydd Sul. Bydd y Goeden Balchder wedi’i lleoli ar yr Arcêd Fawr Uchaf yn Dewi Sant Caerdydd. Bydd aelodau o dîm Dewi Sant hefyd yn cymryd rhan ym mharêd Pride Cymru, fydd yn pasio drwy’r Aes ar y dydd Sadwrn.
Dywedodd Helen Morgan, Cyfarwyddwr Canolfan Dewi Sant, Caerdydd: “Rydym yn dathlu ein cymuned hynod amrywiol drwy’r dydd, bob dydd, ac mae Mis Pride yn gyfle i roi sylw i’r cynnydd a wnaed hyd yn hyn, a’r gwaith sydd i’w wneud o hyd. Rydym yn edrych ymlaen at ddarllen negeseuon ein gwesteion yn dathlu cynwysoldeb.”
Dwedodd Gian Molinu, Cadeirydd Fast Track Caerdydd a’r Fro: “Mae gwelededd yn bwysig ac mae’n helpu pobl i ddeall eu bod yn byw mewn cymuned agored a chynhwysol. Rydyn ni mor ddiolchgar i Dewi Sant am gefnogi Pride Cymru unwaith eto eleni, drwy fod yn greadigol iawn gyda’r Goeden Balchder fendigedig.”