Neidio i'r prif gynnwys

Björn Again

Dyddiad(au)

26 Hyd 2025

Amseroedd

19:30 - 22:00

Lleoliad

Canolfan Mileniwm Cymru, Bute Place, Bae Caerdydd, CF10 5AL

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Yn dilyn eu perfformiadau i dorfeydd enfawr yn Wilderness, Gŵyl Glastonbury a Gay Pride Brighton, mae BJÖRN AGAIN wedi cyhoeddi taith newydd sbon o amgylch y DU yn ystod 2025.

Bydd y daith yn cychwyn yn yr eiconig Brighton Centre, 26 Medi, cyn teithio ledled y DU gyda pherfformiadau yn rhai o ganolfannau mwyaf mawreddog y wlad, gan gynnwys sioe o bwys yn y London Palladium, 14 Hydref 2025. Gall edmygwyr edrych ymlaen at forio canu gyda’r sioe ABBA Awstralaidd hydref nesaf – peidiwch â’i cholli!

Sefydlwyd y grŵp rhyngwladol o fri, Björn Again, ym Melbourne ym 1988, gan y cerddor/rheolwr o Awstralia, Rod Stephen. Ers hynny mae Björn Again wedi’i edmygu fel y sioe deyrnged fwyaf llwyddiannus erioed, a dyma’r unig sioe deyrnged ABBA sydd wedi’i chymeradwyo gan aelodau gwreiddiol ABBA.

Wedi’i chynllunio’n sioe ffraeth, ysgafn, ddychanol ABBA, buan iawn enillodd y sioe statws cwlt a chlod beirniadol byd-eang. Cafodd ei chydnabod am gychwyn adfywiad ABBA, a ddaeth ag ABBA Gold, Muriel’s Wedding a Mamma Mia i’r byd!

Mae apêl oesol ABBA gyda llwyddiant ABBA Voyage yn cael ei adlewyrchu yn llwyddiant cyfredol Björn Again, sydd bellach yn ei 37ain flwyddyn, wedi gwneud dros 5,500 o berfformiadau mewn 75 gwlad ac wedi ennill dros £45 Miliwn yn fyd eang. Yn ogystal, mae dros 100 o gerddorion a chantorion rhyngwladol a 400 o weithwyr technegol / tîm cefnogi wedi bod yn rhan o’r sioe.

Gyda chydnabyddiaeth gan lawer, gan gynnwys Agnetha Fältskog, o’r grŵp ABBA, nod y sioe yw cadw ei chynhyrchiad nodweddiadol Awstralaidd ar y brig. Byddant yn parhau cyhyd a bo pobl am glywed y repertoire ABBA poblogaidd wedi’i pherfformio yn null unigryw Björn Again, fel sy’n glir o’r gwahoddiad i’r grŵp agor Gŵyl Glastonbury ym 1999, 2009 a 2019.