Neidio i'r prif gynnwys

Bydd Cynllun Cwpanau Amldro Newydd Caerdydd yn Helpu i Fynd i'r Afael a Phroblem 2.5 Biliwn o Gwpanau Coffi Untro

Dydd Mercher 4 Medi 2024


 

Wythnos Dim Gwastraff | Bydd cynllun cwpanau coffi amldro newydd sbon yn cael ei lansio ym mhrifddinas Cymru fis nesaf. Bydd cynllun Dychwelyd Cwpanau Ail-lenwi Caerdydd – y cyntaf o’i fath yng Nghymru – yn galluogi pobl Caerdydd i ‘fenthyca’ cwpan tecawê amldro o gaffi sy’n cymryd rhan yn y cynllun a’i ddychwelyd yn ddiweddarach fel y gall gael ei olchi a’i ddefnyddio dro ar ôl tro.

Bydd cynllun Dychwelyd Cwpanau Ail-lenwi Caerdydd yn cael ei gyflwyno ar draws caffis yn y ddinas o 4 Hydref 2024; Caerdydd AM BYTH sydd yn gyfrifol am ddod â’r cynllun yn fyw gyda chymorth o £90,000 gan Lywodraeth y DU drwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin. Er mwyn cyflawni’r cynllun, mae Caerdydd AM BYTH wedi partneru gyda’r elusen amgylcheddol City to Sea; bydd eu Ap ‘Refill’ penigamp nhw yn galluogi trigolion Caerdydd ac ymwelwyr â’r ddinas i ddod o hyd i leoliadau yn hawdd er mwyn casglu a gollwng eu cwpanau amldro.

Bydd cam peilot y cynllun yn rhedeg tan ddiwedd mis Mawrth 2025 a’i nod yw lleihau gwastraff a mynd i’r afael â llygredd a sbwriel ar draws y ddinas. Bydd effaith y cynllun yn cael ei mesur a’i gwerthuso gan Ysgol Fusnes Greenwich ym Mhrifysgol Greenwich ac Ysgol Fusnes Caerdydd ym Mhrifysgol Caerdydd, gan obeithio y bydd y data’n helpu i greu glasbrint ar gyfer cynlluniau ar draws y DU yn y dyfodol.

Amcangyfrifir bod 2.5 biliwn o gwpanau coffi tecawê (30,000 tunnell) yn cael eu defnyddio a’u taflu bob blwyddyn yn y DU – digon i ymestyn o amgylch y byd bum gwaith a hanner pe byddent yn cael eu gosod cynffon wrth ben – ac nid yw 99% o’r rhain yn cael eu hailgylchu ar hyn o bryd. Yn anhygoel, mae’r DU yn defnyddio 10,000 o gwpanau coffi bob dwy funud.

Mae caffis a siopau coffi Caerdydd sydd wedi cofrestru i fod yn rhan o’r cynllun hyd yma yn cynnwys Waterloo Tea yn Arcêd Wyndham, Pettigrew Bakeries (tri lleoliad ar draws y ddinas – Arcêd y Castell, Parc Bute a’r Rhath), Da Coffee (dau leoliad yn Tramshed Tech ac Un Sgwâr Canolog) a, Bird & Blend Tea. Mae pob lleoliad wedi ymrwymo i gynnig gostyngiad o 15c o leiaf ar bris coffi i unrhyw un sy’n defnyddio cynllun Dychwelyd Cwpanau Ail-lenwi Caerdydd.

 

Sut mae cynllun Dychwelyd Cwpanau Ail-lenwi Caerdydd yn gweithio:

  • Bydd caffis a siopau coffi ar draws y ddinas yn cofrestru ar gyfer y cynllun a byddant yn cael stoc o’r cwpanau amldro.
  • Bydd y cwsmer yn lawrlwytho’r Ap ‘Refill’ ac yn cofrestru manylion ei gerdyn i baratoi ar gyfer defnyddio un o gwpanau cynllun Dychwelyd Cwpanau Ail-lenwi Caerdydd (ni fydd unrhyw daliadau’n cael eu cymryd).
  • Pan ddaw cwsmer i mewn am goffi, bydd y barista yn defnyddio’r Ap ‘Refill’ penigamp i sganio cod QR ar un o gwpanau cynllun Dychwelyd Cwpanau Ail-lenwi Caerdydd, a bydd perchnogaeth dros dro ar y cwpan yn mynd i’r cwsmer.
  • Bydd y cwsmer yn cael ei atgoffa pryd a ble i ddychwelyd y cwpan gan yr Ap ‘Refill’; ar yr amod bod y cwpan yn cael ei ddychwelyd o fewn pythefnos, NI chodir tâl am ddefnyddio’r cynllun.
  • Ar ôl i’r cwsmer ddychwelyd y cwpan, bydd y manwerthwr sy’n cymryd rhan yn y cynllun yn ei sganio yn ôl i mewn a’i olchi yn barod iddo gael ei ail-ddefnyddio gan gwsmer arall – dro ar ôl tro!

 

Dwedodd Carolyn Brownell, Cyfarwyddwr Gweithredol Caerdydd AM BYTH, “Mae ein cynllun busnes Caerdydd AM BYTH ar gyfer 2021-26 yn nodi’n glir ein huchelgais i gefnogi busnesau a gweithio gyda rhanddeiliaid lleol i wella cynaliadwyedd canol ein dinas, felly roeddem wrth ein bodd yn sicrhau’r cyllid sydd ei angen arnom i ddod â’r cynllun peilot cyffrous hwn yn fyw. Rydym yn siŵr y bydd pobl Caerdydd yn cefnogi’r cynllun ac yn ein helpu i atal hyd at 30,000 o gwpanau untro rhag cael eu defnyddio.”

Dwedodd David Le Masurier, cyd-sylfaenydd Pettigrew Bakeries yng Nghaerdydd – un o’r busnesau annibynnol cyntaf i ymuno â’r cynllun newydd – “Dros y blynyddoedd rydym wedi edrych yn gyson ar ffyrdd o gynnig tecawês yn fwy cynaliadwy – o gynnig gostyngiadau i bobl sy’n defnyddio eu cwpanau eu hunain, i sicrhau ein bod yn dod o hyd i ddeunyddiau bioddiraddadwy ar gyfer cwpanau a deunydd pecynnu – ond mae heriau amrywiol gyda’r ddau ddull yma. Roedd yn hawdd i ni benderfynu bod yn rhan o’r cynllun peilot hwn gan ei bod yn amlwg mai dyma’r opsiwn mwyaf cynaliadwy; rydym yn edrych ymlaen at ddechrau arni. Rydym yn gwybod y bydd ein cwsmeriaid yn manteisio ar y cyfle i fynd i’r afael â’r broblem.”

Dwedodd George Clark, Arweinydd Rhaglen City to Sea, “Gan adeiladu ar lwyddiant cynllun Dychwelyd Cwpanau Ail-lenwi ym Mryste a Chaerfaddon, rydym wedi’n cyffroi o fod yn gweithio gyda Caerdydd AM BYTH i ddod â’r cynllun i Gaerdydd ac atal miloedd o gwpanau diodydd poeth untro rhag mynd i’r ffrwd wastraff. Rydym yn llawn cyffro mai’r prosiect hwn fydd y cynllun peilot cyntaf yng Nghymru i ddeall yn well y ffordd fwyaf effeithiol o weithredu’r system ac ymgysylltu â’r cyhoedd a busnesau lleol – mae llygredd a sbwriel untro yn her y mae’n rhaid i ni i gyd chwarae ein rhan yn mynd i’r afael ag ef.”

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Cynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, y Cynghorydd Dan De’Ath: “Mae biliynau o gwpanau coffi untro yn cael eu taflu bob blwyddyn ond bydd y cynllun newydd hwn yn sicrhau bod dewis arall ymarferol a chynaliadwy am y tro cyntaf yma yng Nghaerdydd. Mae helpu i leihau faint o wastraff rydyn ni i gyd yn ei greu yn rhan bwysig o’n strategaeth Caerdydd Un Blaned ac rwy’n falch iawn ein bod ni, drwy gydweithio â’n partneriaid yn Caerdydd AM BYTH, wedi gallu helpu i sicrhau’r cyllid sy’n dod â’r cynllun i Gaerdydd.”

Dwedodd Dr Nadine Leader, darlithydd mewn Logisteg a Gweithrediadau yn Ysgol Busnes Caerdydd (Prifysgol Caerdydd): “Mae’r ymchwil a wnaed gan Ysgol Busnes Caerdydd yn cyd-fynd â’n Strategaeth Gwerth Cyhoeddus o gynhyrchu gwerth cymdeithasol ac economaidd i gymunedau a busnesau lleol yng Nghymru a thu hwnt.  Bydd yr ymchwil yn gwerthuso heriau ac effaith gynaliadwy cynllun Dychwelyd Cwpanau Ail-lenwi Caerdydd, gyda’r canfyddiadau i’w cyhoeddi ar ddiwedd y cynllun peilot. Bydd hyn yn hanfodol os ydym am weld cynlluniau tebyg yn cael eu cyflwyno ledled Cymru a gweddill y DU.”

Pearl Costello yw’r Cydlynydd Lleoedd Bwyd Cynaliadwy yn Bwyd Caerdydd – partneriaeth fwyd y ddinas sy’n tyfu’n gyflym, a’r sefydliad sy’n gyfrifol am yr ymgyrch i wneud Caerdydd yn un o’r lleoedd bwyd mwyaf cynaliadwy yn y Deyrnas Gyfunol erbyn 2024 (dysgwch fwy). Ychwanegodd, “Mae’n wych gweld cynllun cwpanau amldro cyntaf Cymru yn cael ei lansio yma ym mhrifddinas Cymru. Mae gan Gaerdydd ‘fudiad bwyd da’ sy’n tyfu a bydd cynllun Dychwelyd Cwpanau Ail-lenwi Caerdydd yn chwarae rhan fawr wrth wneud diwylliant caffis ffyniannus y ddinas yn llawer mwy cynaliadwy.”