Neidio i'r prif gynnwys

HWYL I'R TEULU YN YSTOD HANNER TYMOR MIS HYDREF YNG NGHAERDYDD

Dydd Llun 30 Medi 2024


 

Mae Caerdydd yn lleoliad arbennig i blant ac oedolion fel ei gilydd. P’un a ydych chi’n chwilio am rywbeth i’r rhai bach, neu blant ifanc a’r rhai yn eu harddegau, mae ein prifddinas yn barod i greu atgofion hanner tymor cyffrous! Edrychwch ar ein detholiad o’r 10 awgrym gorau isod.

  1. BWYSTFILOD BACH YNG NGHASTELL CAERDYDD

Ymunwch â’n ffrindiau o’r Ganolfan Addysg Deinosoriaid a Bywyd Gwyllt i gwrdd â’r cast cyfan o greaduriaid amrywiol.  Allwch chi ymdopi â tarantula yn cropian arnoch chi, neidr yn llithro ar hyd eich ysgwyddau, neu sgorpion sinistr yn rthedeg i fyny eich braich? Cadwch le yma.

  1. ESCAPE ROOMS CAERDYDD

Ydych chi’n chwilio am rywbeth gwahanol? Ewch i Escape Rooms Caerdydd! SAITH ystafell wahanol, pob un â thema wych. 60 munud i chwilio, datrys a dianc. Ydych chi am wneud rhywbeth mwy brawychus y Calan Gaeaf hwn? Trowch y system amddiffyn ymlaen cyn i’r amser redeg allan yn “Z”, y byncer sombïaid, dihangwch ffau’r llofrudd cyfresol yn “OCULUS”, neu profwch pa mor ddewr ydych chi yn ein lifft bwgan i ddod o hyd i’r aur yn, “THE THIRTEENTH FLOOR”.

Cofiwch y cewch ostyngiad o 15% ar eich bil yn FRANCO MANCA gyda phob archeb! Mae’n fargen na allai unrhyw un sy’n hoffi pizza ei hanwybyddu. Ffoniwch 02921 679700 i  archebu ar-lein.

3. BOWLIWCH I MEWN I HANNER TYMOR YNG NGHANOLFAN Y DDRAIG GOCH

Mwynhewch arbedion dieflig o dda yr hanner tymor hwn yn Hollywood Bowl. Gall bowlwyr cynnar fwynhau 50% oddi ar gost bowlio, pan archebwch amser cyn 11am yn ystod Gwyliau Hanner Tymor Hydref! Rhowch y cod SPOOKY50 wrth archebu ar-lein.

Hefyd, mae Titan the Robot, sy’n enwog ledled y byd, yn ymweld â Chanolfan y Ddraig Goch y Calan Gaeaf hwn. Ar 31 Hydref, ewch i’r ganolfan am gyfarfod bythgofiadwy gyda’r robo-seren ryfeddol hon! Bydd TITAN, sydd wedi ymddangos ar Britain’s Got Talent, yn barod i’ch adloni gyda’i gyfuniad unigryw o gomedi, cerddoriaeth a hwyl robotig ar gyfer pob oedran. Rhaid gweld e mewn person i gredu’r peth! Mae’r digwyddiad AM DDIM i’r teulu cyfan ei fwynhau ac nid oes angen archebu ymlaen llaw.

4. HWYL A GEMAU YN ROXY LANES

Gyda bariau ledled y DU, Roxy Lanes yw cartref diodydd a gemau pêl! Yn fwy na lôn fowlio yn unig, mae gan Roxy Lanes Caerdydd hefyd bŵl Americanaidd, gwthfwrdd, pong cwrw, caraoce, bowlio pinnau hwyaid, cwrlo heb iâ, gwthfwrdd banc, gemau arcêd, cawell batio a gwthio disgiau yn ogystal â choctels anhygoel a bwyd Americanaidd sy’n tynnu dŵr o’r dannedd.

Mae croeso i bobl dan 18 oed gydag oedolyn cyn 5pm, ac mae prisiau gemau ar gyfer adegau tawelach ar gael. Mae’r fwydlen yn cynnwys pizza a seigiau ochr gydag opsiynau fegan a llysieuol, ynghyd â detholiad o ddiodydd yn cynnwys ystod eang o ddiodydd meddal. Dysgwch fwy yma.

  1. TEITHIAU BBC CYMRU WALES

Ydych chi’n chwilio am rywbeth gwahanol ar gyfer y plant yn ystod yr hanner tymor? Camwch i ddyfodol darlledu yn stiwdios mwyaf newydd a mwyaf datblygedig y BBC yn y Sgwâr Canolog, Caerdydd.  Ymunwch â staff tywys cyfeillgar ar daith unigryw y tu ôl i lenni stiwdios teledu a radio gyda thechnoleg arloesol gan gynnwys realiti estynedig, realiti rhithwir a chamerâu robotig.

Mae BBC Cymru Wales wedi derbyn gwobr Dewis Teithwyr Tripadvisor, a gwobr aur wych gan Croeso Cymru am ansawdd y teithiau.  Fe’i henwyd hefyd yn rownd derfynol categori Busnes Hamdden a Lletygarwch y Flwyddyn yng Ngwobrau Busnes Caerdydd 2023.  Chwiliwch am daith ac archebwch eich tocynnau nawr yn bbc.co.uk/tours.

  1. YMDODDIAD Y DIWYLLIANNAU YN TECHNIQUEST

Ymgollwch mewn byd o ryfeddod a chael blas ar y gwyliau bywiog sy’n goleuo Hydref a Thachwedd! O oleuadau disglair Diwali i gemeg ffrwydrol Noson Guto Ffowc, a gwefr arswydus Calan Gaeaf i ryfeddodau lleuad Chuseok Corea, mae Techniquest yn datgelu’r wyddoniaeth ddiddorol y tu ôl i’r dathliadau byd-eang hyn.

Ewch i weld sut mae diwylliannau’n cyfuno gwyddoniaeth â dathlu yn y dathliadau rhyfeddol hyn.  Paratowch ar gyfer cyfuniad Nadoligaidd o hwyl a dysgu!  Discover more here.

7. YSGOL HUD A LLEDRITH YNG NGHEI’R FÔR-FORWYN

Bydd pob plentyn yn eistedd wrth y bwrdd dewiniaeth gyda Wanda Wishwaft i wneud eu hudlathau unigryw eu hunain. Gan ddefnyddio deunyddiau crefft cynaliadwy, bydd pob plentyn nid yn unig yn dysgu sut i wneud hudlath, ond hefyd sut i wneud yn siŵr bod yr hudlath yn gweithio’n iawn.  Fydden ni ddim eisiau troi ein brawd neu chwaer fach yn froga yn “ddamweiniol”, fydden ni?

Dyddiadau’r Sesiynau: Dydd Iau 31 Hydref, Dydd Gwener 1 Tachwedd, Dydd Sadwrn 2 Tachwedd. Dysgwch fwy yma.

  1. GEMAU BWRDD I’R TEULU YN CHANCE ENCOUNTERS

Ydych chi’n chwilio am ffordd o ddiddanu’r plant yr hanner tymor hwn? Felly dewch â’r teulu i gael prynhawn o bwyso a mesur gofalus, strategaeth gynnil neu drivia heriol ynghyd â’n bwyd a’n diodydd blasus. Yn amrywio o ysgytlaethau penigamp i de a choffi arbenigol, cwrw crefft a choctels i wneud i’r gwyliau fynd heibio ychydig yn gynt. Welwn ni chi wrth y byrddau chwarae!

Archebwch ar-lein yma.

  1. NOSWEITHIAU CALAN GAEAF AMGUEDDFA WERIN CYMRU SAIN FFAGAN

Mae Calan Gaeaf yn agosáu, ac mae’n bryd dod â’ch goblynnod bach i’r Amgueddfa am noson o hwyl i’r teulu llawn IAS A CHYFFRO! Ewch o gwmpas yr Amgueddfa i ddod o hyd i’r ysbrydion sy’n cuddio. Bob nos bydd y dyn wicer yn llosgi. Dathlwch wrth i’r haf droi’n aeaf a gwneud dymuniad wrth i’r gwreichion neidio’n uchel!

Galwch i mewn i’r gweithdai crefft ofnus ar i  wneud llusern, diod hudol, a mwy… Ewch am dro trwy lwybr dychrynllyd arswydus. Dewch iyn eich gwisgoedd dychrynllyd a dawnsiwch y noson i ffwrdd yn nisgo tŷ’r ysbrydion newydd sbon. Stopiwch am fyrbryd a diod yng Nghongl Cilewent, lle byddwch chi’n dod o hyd i werthwyr bwyd stryd eleni.  Rhaid archebu tocynnau ymlaen llaw.

10. FFANSI SGRECH YNG NGHASTELL FFWL-Y-MWN?

Mae’r digwyddiad Calan Gaeaf sydd wedi gwerthu allan yn dychwelyd, hyd yn oed yn fwy ofnus a chyffrous na’r llynedd! Ewch i Ffwl-y-mwn am noson llawn cyffro, gyda gwell Scare Run sy’n fwy, yn well ac yn fwy dychrynllyd nag erioed. Dawnsiwch y noson i ffwrdd ym Mhabell Maleficent gyda pharti Calan Gaeaf Monster Bash, neu ewch i glywed y Stori Calan Gaeaf arswydus

 

Galwch gwrdd a chyfarch eich hoff gymeriadau Calan Gaeaf, mentro i mewn i’r Castell Ysbrydion, a darganfod sypreis annisgwyl ym mhob twll a chornel.  Beth am ddysgu’r dyfodol? Profwch Ddarlleniadau Cerdyn Tarot y tu mewn i’r castell iasol, lle bydd eich dyfodol yn cael ei ddatgelu. Archebwch ar-lein yma.

 

Gan fod cymaint i’w wneud yn y brifddinas, rydym yn deall y gallai fod angen ychydig ddyddiau arnoch i gynnwys popeth – felly cymerwch olwg ar y dewis o westai yn y ddinas i gwblhau cynllunio eich gwyliau yng Nghaerdydd. Rydym yn gwybod y cewch amser gwych yn archwilio dros wyliau’r hanner tymor, felly mae croeso i chi ein tagio ar eich anturiaethau gan ddefnyddio #CroesoCaerdydd.

CADWCH MEWN CYSYLLTIAD

Cofrestrwch ar gyfer e-Gylchlythyr Croeso Caerdydd heddiw i gael newyddion cyffrous, digwyddiadau, cynigion arbennig, pethau i’w gwneud a mwy gan dîm Croeso Caerdydd.