Neidio i'r prif gynnwys

Triawd Neil Cowley: Taith Entity

Dyddiad(au)

13 Meh 2025

Amseroedd

19:30 - 21:30

Lleoliad

Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Heol y Gogledd, Caerdydd CF10 3ER

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Ail-gydio

Mae Triwad Neil Cowley Trio yn aduno i berfformio am y tro cyntaf ers saith mlynedd, gan gyflwyno cerddoriaeth o’u halbwm newydd sbon, ‘Entity’, ynghyd â rhai o glasuron poblogaidd Cowley.

Yn 2006 ffrwydrodd Triawd Neil Cowley i amlygrwydd gyda sain cyffrous a oedd yn llawn egni; roedd eu hanthemau cyhyrog, eu rhigolau carlamus a’u heiliadau tyner yn eu rhoi ar flaen y gad mewn mudiad newydd ym myd jazz, gan baratoi’r ffordd ar gyfer chwe albwm uchel eu clod dros ddeng mlynedd. Mae Cowley yn dychwelyd gyda’i gyda’i gyd-gerddorion agos, y basydd Rex Horan a’r drymiwr Evan Jenkins, mewn perfformiad pwerus o gerddoriaeth llawn angerdd ac nid yw ffraethineb a natur chwareus heintus Cowley byth ymhell.

£18 – £20