Neidio i'r prif gynnwys

Pam y dylai grwpiau ymweld â Chaerdydd yn ystod Nadolig 2024

Mae’r Nadolig ar ei ffordd.

Fel prifddinas Cymru, mae Caerdydd yn gyrchfan ardderchog ar gyfer ymweliadau grŵp.  Mae’n cynnig amrywiaeth enfawr o atyniadau, gweithgareddau, adloniant o’r radd flaenaf a llety. Mae canol y ddinas yn gryno, yn hawdd mynd o’i gwmpas ar droed gyda chyfnewidfa drafnidiaeth, mannau parcio i goetsis a llawer o bwyntiau gollwng.

Mae sawl atyniad nodedig yng nghanol y ddinas ac ar y glannau.

Dyma ragflas o rai o’r atgofion hudolus y gallwch eu gwneud yng Nghaerdydd y Nadolig hwn. Argymhellir eich bod yn gwneud archeb grŵp cyn eich ymweliad.

 

CERDDED YNGŴYL Y GAEAF CAERDYDD

Sglefrio iâ ar dir Castell.

Mae Llawr Sglefrio a Llwybr Iâ Gŵyl y Gaeaf Caerdydd yn dychwelyd i diroedd prydferth Castell Caerdydd eleni. Mae’r llawr sglefrio dan do yn addas i bob oed a gallu ac mae sesiynau sglefrio hygyrch ar gael.  Mae’r rinc yr un mor hwyl ddydd neu nos, a phan fydd hi’n Nadolig, does byth amser gwael i gael malws melys neu win poeth.

Mae mwy i’w wneud yn Lawntiau Neuadd y Ddinas Caerdydd.

 

Mwynhau ym mar mwyaf cŵl y ddinas.

Yng nghanol holl hwyl yr ŵyl, mae’r tymereddau is-sero yn y Bar Barrug yng Ngŵyl y Gaeaf Caerdydd yn golygu mai hwn yw’r lle mwyaf cŵl i ymlacio’r Nadolig hwn. Mae wedi ei wneud yn gyfan gwbl allan o iâ, felly gwisgwch yn gynnes i fwynhau diod gyda’ch grŵp!

 

NADOLIG LLAWN DIGWYDDIADAU

Taith gerdded ryfeddol drwy ‘Geunant y Goleuadau’ gyda mil o sêr swynol.

 

Mae llwybr goleuadau Nadolig mwyaf Cymru yn ei ôl, y Nadolig ym Mharc Bute, y tu ôl i Gastell eiconig Caerdydd, a thaith gerdded fer o Ŵyl y Gaeaf Caerdydd – ac mae tocynnau ar werth nawr.  Mae’r Nadolig ym Mharc Bute ar fin disgleirio mwy nag erioed yn 2024 wrth iddo ddychwelyd gyda llu o bethau newydd.

Profwch Panto traddodiadol adeg y Nadolig.

Mae “O ydy, mae e” yn draddodiad Nadolig, ac os oes awydd rhywbeth clasurol arnoch, fyddwch chi ddim yn dod o hyd i unrhyw beth gwell na Sinderela yn y Theatr Newydd hanesyddol.

Gwyliwch Hamilton yn WMC

Neu, beth am Hamilton yng Nghanolfan Mileniwm Cymru?

SIOPA ‘DOLIG

Mynd am dro drwy’r Arcedau Fictoraidd cain.

Arcêds Nadoligaidd

Roedd pobl Oes Fictoria yn deall y Nadolig i’r dim, ac mae Arcêds Fictoraidd Caerdydd yn cadw at y traddodiad.  Wedi’u haddurno’n ar gyfer yr ŵyl, mae ‘na hud syml i grwydro drwy’r ddrysfa o arcedau, a stopio am goffi neu damaid o fwyd yn un o’r nifer o gaffis a bwytai annibynnol y byddwch yn eu darganfod rhwng y siopau bwtîc.

Dewiswch yr anrheg berffaith i anwyliaid yn y Farchnad Nadolig draddodiadol.

Mae Marchnad Nadolig Caerdydd yn gartref i emwaith arian unigryw, gwaith celf gwreiddiol, gwaith gwydr tawdd hardd, cerameg wedi’i thaflu â llaw, cwiltiau a thecstilau wedi’u gwneud â llaw, bwyd a diod tymhorol, a llawer mwy. Sgwrsiwch â’r gwneuthurwyr talentog a mwynhewch awyrgylch unigryw’r ŵyl wrth i chi grwydro drwy’r chalets pren traddodiadol.

Porwch siopau lu Dewi Sant

Yng nghalon y ddinas, mae canolfan siopa Dewi Sant yn cynnig 185 o unedau siopa a lletygarwch.  John Lewis a Phartneriaid (4 lefel) a Primark (5 lefel) sydd yn eu plith a byddwch yn dod o hyd i’r holl frandiau mawr yma boed yn ddillad, gemwaith, esgidiau ac ategolion, technoleg, teganau a rhoddion.

BWYTA, YFED AC AROS

Swatio’n glyd mewn caban ym Maes yr Ŵyl.

Rhwng prynu anrhegion i’ch ffrindiau a’ch teulu, beth am sbwylio’ch hunan y Nadolig hwn? Yn hafan Fafaraidd atmosfferig, Maes yr Ŵyl yw’r lle perffaith i ymlacio gyda chwrw a bratwurst a chael ail wynt cyn y rownd nesaf o siopa Nadolig.

Ewch ar noson mas Nadoligaidd gyda’ch grŵp

Adeg i weld teulu a ffrindiau yw’r Nadolig, a pha ffordd well o’i ddathlu na gyda noson allan dda? Mae Caerdydd yn hafan i ddanteithion bwyd – edrychwch ar ein hadran bwytai i gael blas ar Gymru, bwyd stryd gwych, mannau bwyta achlysurol cyfforddus, neu ffefrynnau bwyta mwy soffistigedig.

Dyblu’r hwyl drwy aros dros nos.

Mae gormod i’w wneud mewn dim ond un diwrnod yng Nghaerdydd y Nadolig hwn, felly beth am wneud noson ohoni ac aros dros nos yn un o westai’r brifddinas? O rywle modern, ffasiynol yng nghanol dinas brysur i foethusrwydd hamddenol gwesty sba neu noson yn ardal hanesyddol Bae Caerdydd, rydych chi’n siŵr o ddeffro’n barod am fwy o hwyl yr ŵyl!

Lleoedd i aros yng Nghaerdydd • Croeso Caerdydd

I gael rhagor o wybodaeth am Nadolig Caerdydd, ewch i: www.croesocaerdydd.com/nadolig

I gael rhagor o wybodaeth am brofi Caerdydd fel grŵp, ewch i croesocaerdydd.com/grwpiau ar gyfer ymweliadau hamdden, a meetcardiff.com/groups ar gyfer arosiadau corfforaethol.

CADWCH MEWN CYSYLLTIAD

Cofrestrwch ar gyfer e-Gylchlythyr Croeso Caerdydd heddiw i gael newyddion cyffrous, digwyddiadau, cynigion arbennig, pethau i’w gwneud a mwy gan dîm Croeso Caerdydd.