Neidio i'r prif gynnwys

Teyrnged arbennig i ddiweddglo Gavin & Stacey wrth i’r arcêd ‘Nessa's Slots’ ddod i ganolfan siopa Dewi Sant yng Nghaerdydd

Dydd Iau, 12 Ionawr 2024


 

Mae Canolfan Dewi Sant Caerdydd yn cysegru ei harcêd siopa fwyaf i ddilynwyr Gavin & Stacey wrth i’r rhaglen deledu boblogaidd baratoi i ddarlledu ei phennod olaf erioed.

Er anrhydedd i’r cymeriad poblogaidd, Nessa – Vanessa Shanessa Jenkins – mae’r ganolfan siopa yn ailenwi’r Arcêd Fawr eiconig ac yn agor ei fersiwn ei hun o arcêd adloniant ‘Nessa’s Slots’ ar Ynys y Barri.

Bydd ‘Arcêd Fawr Nessa’ yn cael ei dadorchuddio’n swyddogol gyda phlac coffa ddydd Sadwrn 21 Rhagfyr, ychydig ddyddiau cyn i bennod olaf Gavin & Stacey gael ei darlledu Ddydd Nadolig.

Am un diwrnod yn unig, bydd canolfan siopa Dewi Sant yn croesawu arcêd adloniant glan y môr enwog Nessa, ynghyd â pheiriannau crafanc chwarae-i-ennill am ddim, a bydd gwestai arbennig iawn – y dynwaredwr teledu ‘Knock off Nessa’ ar y safle yn cyfarch dilynwyr gyda digon o hwyl. Bydd mwy na 2,000 o wobrau yn cael eu dosbarthu gan y peiriannau crafanc gwobr-bob-tro, bob un wedi’i ysbrydoli gan Gavin & Stacey.

Gall gwesteion ddisgwyl ennill pob math o bethau, o anrhegion Nadolig nodweddiadol Nessa fel tapiau unigol a siocledi Celebrations, i beiriant gwneud omled Gwen a llyfrau am deithiau pysgota yng Nghymru.

Bydd y gwobrau hefyd yn cynnwys peli siocled gydag awgrym o hoff ddiod Nadoligaidd Uncle Bryn – Mint Baileys – yn ogystal â thatŵs dros dro tebyg i rai Nessa, pwdinau Nadolig, llyfrau cwis Gavin & Stacey, llyfrau coginio llysieuol a thalc lafant Doris.

Gall gwesteion ymweld ag Arcêd Fawr Nessa ar y lefel uchaf ger Apple, rhwng 9.30am a 6pm ddydd Sadwrn 21 Rhagfyr – gyda gwobrau am ddim ar gael cyhyd â bod y stoc yn para.

Dywedodd Helen Morgan, Cyfarwyddwr Canolfan Dewi Sant, Caerdydd:  “Mae Gavin & Stacey yn rhaglen hollol eiconig, yn enwedig yma yng Nghymru, ac ni allem adael i’r bennod olaf erioed fynd heibio heb ffanffer. Gobeithio bydd dilynwyr wrth eu bodd ag Arcêd Fawr Nessa gyda’i gwobrau gwych ac yn cael amser lysh gyda ni i goffáu diweddglo’r sioe.”

Am fwy o fanylion am ganolfan siopa Dewi Sant, gan gynnwys be sy’ mlaen, oriau agor dros yr ŵyl a manylion y clwb gwobrwyo newydd i aelodau, PLUS+, ewch i www.stdavidscardiff.com/cy