Neidio i'r prif gynnwys

Caerdydd yn barod i groesawu'r penwythnos mwyaf mewn rygbi clwb rhyngwladol wrth i ni gyfri’r 100 niwrnod tan y gystadleuaeth

  • Gwahoddir cefnogwyr i ‘Deimlo’r hwyl’ a bod yn rhan o’r cyffro yng Nghymru
  • Mae’r paratoi ar gyfer Rowndiau Terfynol Cwpan Pencampwyr Investec a Chwpan Her EPCR yn mynd rhagddo ers tro, wrth i dlysau eiconig y gystadleuaeth gychwyn ar eu taith i Stadiwm Principality
  • Lawrence Dallaglio: “Mae awyrgylch y Rowndiau Terfynol, o ran y lliw, yr egni, y sŵn, mae’n debyg ei fod wedi bod hyd yn oed yn fwy ac yn well na rygbi rhyngwladol”
  • Mae disgwyl i bob tocyn ar gyfer Rowndiau Terfynol 2025 werthu allan, wrth i gefnogwyr rygbi o bell ac agos baratoi ar gyfer y dathliad penwythnos mwyaf o rygbi clwb rhyngwladol

 

Mae’r paratoadau ar gyfer y penwythnos mwyaf mewn rygbi clwb rhyngwladol wedi dechrau’n swyddogol, gyda dim ond 100 niwrnod i fynd tan y bydd penwythnos Rowndiau Terfynol EPCR 2025 yn mynd rhagddo yn ninas rygbi eiconig Caerdydd.

 

Yn ddigwyddiad na ddylid ei golli, mae’r cyffro’n cychwyn ddydd Gwener 23 Mai gyda Rownd Derfynol Cwpan Her EPCR, ac yna Rownd Derfynol gyffrous Cwpan Pencampwyr Investec ar ddydd Sadwrn 24 Mai. Mae tocynnau ar gael nawr i gefnogwyr sydd am fod yn rhan o’r ornest rygbi clwb heb ei hail yma.

 

Gydag ychydig llai na thri mis i fynd tan y bydd y prif glybiau yn cyrraedd Cymru i gystadlu am y cwpan arian nodedig, mae dathliadau hefyd ar y gweill gyda’r tymor nesaf yn nodi 30 mlynedd ers cynnal y gystadleuaeth am y tro cyntaf. Mae EPCR yn dathlu tri degawd o eiliadau bythgofiadwy, gan arddangos eiconau’r gêm, sgiliau syfrdanol, ac etifeddiaeth o bencampwyr heb eu tebyg.

 

Stadiwm eiconig, torfeydd anhygoel – digwyddiad na ddylid ei golli, dim ond yng Nghaerdydd

Stadiwm Principality eiconig Caerdydd fydd yn gartref i’r cyfan, ac mae’r cyffro’n adeiladu yn y ddinas a thu hwnt ar ôl i safle grŵp gwefreiddiol arwain y ffordd i’r rowndiau terfynol tyngedfennol.

 

Mae 2025 yn dod â’r gystadleuaeth yn ôl i’r ddinas a gynhaliodd y rownd derfynol gyntaf un, pan drechodd Stade Toulousain Caerdydd mewn amser ychwanegol i ennill y teitl cyntaf, o flaen torf o 21,800 ym Mharc yr Arfau, Caerdydd.

 

30 mlynedd yn ddiweddarach, bydd hyd at 149,000 o gefnogwyr yn cael cyfle i weld y ddwy Rownd Derfynol yn y Stadiwm Principality chwedlonol. Mae EPCR, ynghyd â phartneriaid Croeso Cymru a Croeso Caerdydd, yn gwahodd cefnogwyr rygbi i gymryd rhan yn y cyffro a theimlo’r hwyl’ – yr ysbryd Cymreig unigryw o hwyl a llawenydd, wedi’i ymgorffori’n berffaith gan y cyfeillgarwch sy’n dod â ffrindiau, teuluoedd, a hyd yn oed cefnogwyr cystadleuol ynghyd, mewn dathliad o rygbi.

 

Un dyn, sy’n gwybod yn well na’r rhan fwyaf, sut beth yw chwarae Rownd Derfynol Cwpan y Pencampwyr o flaen torfeydd enfawr yw cyn-Gapten Lloegr a’r Wasps, Lawrence Dallaglio, a arweiniodd dîm Llundain i ddwy fuddugoliaeth yng Nghwpan y Pencampwyr – y ddwy yn Twickenham. Yn 2004, syfrdanodd Wasps Llundain Stade Toulousain, diolch i gais munud olaf gan y Cymro, Rob Howley, a 17 pwynt gan Mark van Gisbergen o Seland Newydd. Yn 2007, o flaen torf fwyaf erioed o 81,076 yn Twickenham, yn Rownd Derfynol y Cwpan Her, Wasps Llundain oedd y tîm gwannaf, unwaith eto, ond aethant ymlaen i guro Teigrod Caerlŷr, gyda buddugoliaeth syfrdanol o 25-9, na fyddai llawer wedi’i rhagweld.

 

Gwnaeth Dallaglio – sydd bellach yn sylwebydd gyda Premier Sports ar gyfer eu darllediad o Gwpan Pencampwyr Investec – ddwyn i gof ei brofiad ei hun o chwarae yn y Rowndiau Terfynol: “Mae awyrgylch y Rowndiau Terfynol, a rhai o’r gemau mawr wnes i chwarae ynddyn nhw yn Ewrop, o ran y lliw, yr egni, y sŵn, fwy na thebyg yn fwy ac yn well na rygbi rhyngwladol hyd yn oed.

 

“Chwaraeais i mewn dwy Rownd Derfynol Cwpan Ewrop yn 2004 a 2007, a thrwy gyd-ddigwyddiad llwyr, roedd y ddwy ohonyn nhw’n digwydd bod yn Stadiwm Twickenham.   Ac mae’n debyg bod yr awyrgylch yn Twickenham ar y ddau achlysur mor fawr ag unrhyw beth yr wyf wedi bod yn rhan ohono yn Twickenham, wrth wisgo crys Lloegr. Felly, rwy’n credu bod hynny’n rhoi rhyw fath o ymdeimlad o ba mor fawr ydyw.”

Wrth siarad am yr awyrgylch unigryw yng Nghaerdydd, dywedodd Dallaglio: “Mae llawer yn ystyried bod gan Gaerdydd a Stadiwm Principality awyrgylch arbennig iawn: mae yng nghanol y ddinas, ym mhrifddinas Cymru, ac mae cefnogwyr rygbi Cymru yn angerddol am eu rygbi. Mae yn eu gwaed. 

O ystyried pa mor agos yw Stadiwm Principality i ganol y ddinas, ac o ystyried yr awyrgylch yr ydym wedi’i weld o’r blaen yng Nghaerdydd ar gyfer rowndiau terfynol mawr, mae’r egni, y paratoi a’r disgwyliad ar gyfer y gêm yno o’r funud y byddwch chi’n deffro yn y bore.”

 

Rhywbeth at ddant pawb gyda Thaith y Tlws a Pharthau Cefnogwyr lleol

Yn arwydd bod y paratoi yn mynd rhagddo ers tro, bydd tlysau eiconig Cwpan Her EPCR a Chwpan Pencampwyr Investec yn gwneud eu ffordd i Stadiwm Principality trwy nifer o ddigwyddiadau lleol yng Nghaerdydd a thu hwnt. Gan ddechrau yng ngêm y chwe Gwlad, Cymru v Iwerddon, bydd y tlysau yn flaenllaw mewn cyfres o weithgareddau na ellir eu colli, gyda manylion i’w datgelu yn fuan.

Mae cynlluniau hefyd ar waith ar gyfer Pentref Rygbi’r Pencampwyr yng Nghaerdydd.  Bydd Parthau’r Cefnogwyr, ar gyfer Penwythnos y Rowndiau Terfynol, ger Stadiwm Principality ar dir Parc yr Arfau, Caerdydd nodedig. Wedi’i leoli yng nghanol y ddinas, bydd cefnogwyr o Gymru, a ledled y byd, yn cael cyfle i fwynhau profiad Penwythnos y Rowndiau Terfynol llawn gyda’i gilydd.

Yn agored i bawb ar y dydd Gwener a’r dydd Sadwrn, gyda mynediad am ddim, bydd Pentref Rygbi’r Pencampwyr yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau bwyd a diod, rhai digwyddiadau ysgogi gyda phartneriaid a gweithgareddau rygbi, yn ogystal ag ychydig o adloniant byw. Bydd manylion llawn yn cael eu cyhoeddi yn ystod yr wythnosau nesaf.

Tocynnau ar werth nawr

Gall cefnogwyr sydd eisiau bod wrth wraidd cystadleuaeth rygbi clwb gorau’r byd brynu tocynnau dydd a phenwythnos. Mae pecynnau teithio penwythnos swyddogol hefyd ar gael gan gyfuno tocynnau gemau, gwestai arbennig, digwyddiadau unigryw a phrofiadau y tu ôl i’r llenni, gydag arbenigwyr teithio, Destination Champions Club. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’r wefan swyddogol.

 

Dywedodd Dominic McKay, Cadeirydd EPCR: “Mae’n garreg filltir fawr i EPCR nodi 100 niwrnod tan Rowndiau Terfynol 2025 yng Nghaerdydd, sy’n fwy arbennig fyth gan ei bod hefyd yn nodi 100 niwrnod cyn y 30ain Rownd Derfynol Cwpan y Pencampwyr.

 

O ystyried yr eiliadau chwaraeon anhygoel rydyn ni wedi’u gweld yn y gystadleuaeth y tymor hwn, y cyfleusterau gwych yn Stadiwm Principality, y diwylliant rygbi anhygoel yng Nghaerdydd a Chymru, a’r cynllunio manwl sy’n digwydd gan bawb sy’n cymryd rhan, does gen i ddim amheuaeth y bydd Caerdydd 2025 yn benwythnos o Rowndiau Terfynol cofiadwy i’r clybiau a’r cefnogwyr.”

 

Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd: “Mae Caerdydd a Rygbi bob amser wedi mynd law yn llaw, felly rydym yn falch iawn o groesawu Rowndiau Terfynol Cwpan Pencampwyr Investec a Chwpan Her EPCR yn ôl i’r ddinas am y tro cyntaf ers degawd, am benwythnos bythgofiadwy.”

 

“Ers iddo agor, mae digwyddiadau yn Stadiwm Principality wedi cynhyrchu tua £2 biliwn mewn gwariant ymwelwyr ac wedi cefnogi dros 50,000 o swyddi amser llawn yn lleol – tystiolaeth glir bod digwyddiadau mawr fel hyn yn arwain at fanteision sylweddol i’r economi leol, yn ogystal â dod ag awyrgylch arbennig i’r ddinas.”