Neidio i'r prif gynnwys

Gwesty’r Vale yn ennill Gwesty Golff Gorau Cymru yng Ngwobrau Golff y Byd 2024, gan nodi wyth buddugoliaeth yn olynol

Dydd Iau, 6 Chwe 2025


 

 

Mae Gwesty’r Vale yn falch o gyhoeddi ei fod wedi cael ei enwi’n Westy Golff Gorau Cymru am yr wythfed flwyddyn yn olynol yng Ngwobrau Golff y Byd 2024. Cyflwynwyd yr anrhydedd mawreddog hwn yn ystod Seremoni Gala mawreddog ym Mhalas Savoy ym Madeira, Portiwgal, gan nodi uchafbwynt dathliad golff deuddydd ar gyrsiau clodwiw Santo da Serra a Palheiro.

Bellach yn ei 11eg flwyddyn, mae Gwobrau Golff y Byd yn anrhydeddu’r goreuon mewn twristiaeth golff, gan gydnabod rhagoriaeth barhaus Gwesty’r Vale a’i rôl fel cyrchfan boblogaidd i golffwyr yng Nghymru.

Yn wynebu cystadleuaeth gref gan leoliadau golff enwog Gwesty’r Celtic Manor a Gwesty Golff a Sba Bryn Meadows, mae Gwesty’r Vale yn parhau i arwain y blaen ym maes lletygarwch golff. Wedi’i leoli ar 650 erw o dir cefn gwlad hardd ym Mro Morgannwg, mae’r gyrchfan yn cynnig cyfuniad unigryw o swyn Cymreig moethus a chroesawgar, gan ei wneud yn ffefryn ymhlith golffwyr, gwesteion corfforaethol a theithwyr hamdden fel ei gilydd.

Mae Gwesty’r Vale yn cynnig dau gwrs pencampwriaeth heriol ond pleserus iawn i golffwyr – Cwrs Cenedlaethol Cymru a Chwrs y Llyn. Ar 7,433 llath, mae Cwrs Cenedlaethol Cymru yn her gadarn, tra bod Cwrs y Llyn yn dod â’i wefr ei hun, gyda dŵr yn rhan o 13 o’i dyllau. P’un a ydynt yn ymweld am ddiwrnod golff corfforaethol neu’n mireinio eu sgiliau ar seibiant golff pwrpasol, mae ymwelwyr yn aml yn cael eu swyno gan y profiad cofiadwy y mae pob cwrs yn ei gynnig.

Dywedodd Stephanie Metson, Rheolwr Marchnata Gwesty’r Vale:

“Rydyn ni’n credu y dylai golff fod yn her ac yn bleserus. Mae ein tîm yn ymroddedig i greu profiad croesawgar a bythgofiadwy, ac mae’n anrhydedd bod ein hymdrechion wedi’u cydnabod unwaith eto yng Ngwobrau Golff y Byd.

“Wrth i Westy’r Vale ddathlu’r cyflawniad arbennig hwn, rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i osod y safon mewn rhagoriaeth golff yng Nghymru a rhoi profiadau cofiadwy i bawb sy’n ymweld.”