Beth wyt ti'n edrych am?
DEPOT yn lansio Daydreamer: Parti Undydd Newydd ar gyfer pobl 30 oed a hŷn
Dydd Gwener, 17 Ionawr 2025
Wedi diflasu gyda’r penwythnos? Hiraethu am gael mynd allan, joio, a theimlo’n DDA fore Sul? Mae Depot wedi gwrando! Mae Daydreamer yn brofiad parti newydd sbon i bobl yn eu 30au hwyr a’u 40au, sy’n dal i joio sesh fach ond nid drwy’r nos!
Ymunwch â DEPOT ddydd Sadwrn, 15 Chwefror i fwynhau prynhawn o gerddoriaeth, bwyd ac amseroedd da, gyda’r cyfan yn gorffen am 8pm.
BETH I’W DDISGWYL
Brecinio a Diodydd Diddiwedd: Dechreuwch eich prynhawn gyda bach o fwyd a rhywbeth i’w yfed rhwng 3pm a 4:30pm. Am £30 yn unig, mwynhewch fwyd o’ch dewis o fasnachwyr gwych Depo – Cyw Iâr Dirty Bird, Ffwrnes Pizza, neu Greedy Burgers – a 90 munud o prosecco neu beintiau di-waelod.
Cerddoriaeth Fyw a DJs: Byddwch yn barod i ddawnsio! Mae Daydreamer yn cynnwys lineup gwych o gerddoriaeth fyw a DJs:
- 5pm-5.30pm: Cerddoriaeth fyw
- 5:30pm – 6:30pm: set DJ ’80au
- 6:30 – 7pm: Perfformiad gan fand byw llawn
- 7pm – 8pm: set DJ ’90au a ’00au
Karaoke: Canwch eich ffefrynnau nerth eich pen yn O’Dickel’s o 6pm. Tafarn Wyddelig yng nghanol Depot!
TOCYNNAU
Mynediad Cyffredinol: £8 / £10 / £12
Brecinio (yn cynnwys mynediad): £30
Bydd Daydreamer yn rhoi modd i fyw i chi ar brynhawn Sadwrn llawn hwyl gyda ffrindiau. Peidiwch â cholli’r cyfuniad unigryw hwn o gerddoriaeth fyw, naws disco hiraethus, bwyd blasus, ac amseroedd da.
Cael eich tocynnau yn: https://depotcardiff.com/event/daydreamer-15-feb-2025/