Beth wyt ti'n edrych am?
Darganfyddwch Flasau Eidalaidd Go Iawn gyda Bwydlen Set Terra Mare
Dydd Llun, 11 Tachwedd 2024
Mae Terra Mare, bwyty mwyaf newydd Caerdydd sydd dafliad carreg o Gastell hanesyddol Caerdydd, wedi cyflwyno Bwydlen Set wedi’i chynllunio ar gyfer pobl sy’n hoff o fwyd Eidalaidd.
Ar gael o ddydd Mawrth i ddydd Sadwrn ac yn cynnwys cinio (o 12-3pm) a phryd cyn y theatr (5-6pm), mae’r Fwydlen Set yn cynnig profiad bwyta blasus, wedi’i guradu gyda dau gwrs am £25 neu dri am £30 – gan ddod â blasau Eidalaidd dilys i galon Caerdydd mewn lleoliad hardd a deniadol.
Mae’r fwydlen set bresennol yn Terra Mare yn cynnwys:
CWRS CYNTAF
Parmigiana (v) – wylys wedi’i ffrio, mozzarella, tomatos wedi’u rhostio, mozzarella
Bruschetta – Stracciatella, tomatos, casereccio pane gril, anchovies
Risotto (v / ve) – madarch gwyllt, cnau ffrengig, saets ffres, tarragon, spenwood
PRIF BRYD
Fritto misto – pysgod wedi’u ffrio’n ddwfn, gwymon Sir Benfro, mayo olewydd a chaprys
Ragu orecchiette – cig eidion ‘feather blade’ wedi’i goginio’n araf, millstone crisp
Ciambotta di verdure (ve) – Moron Treftadaeth, maip, seleriac, iâr o’r coed, tryffl ddu
DOLCE
Mela cotogna arrostita (ve) – Afal cwins wedi’i rostio, sorbet oren, Mulled Primitivo
Panna cotta del levante – Camomeil, Granadila, dêts
Formaggio – caws Cymreig, ffigys, mêl tryffl, cracers ceirch
Yn wreiddiol yn hen far coctels, mae adeilad Terra Mare wedi’i weddnewid yn llwyr ac yn cynnwys stafell fwyta i bum deg gyda phaneli gwyrdd tywyll moethus a seddi bwth preifat – felly mae’r naws yr un mor apelgar â’r blasau ar y plât.
Y cogydd Francesco Germinario sydd wedi crefftio’r fwydlen gan gyfuno ei dras Puglia a’i brofiad o weithio yn Llundain i dywys gweisteion ar daith drwy draddodiadau bwyd cyfoethog de’r Eidal.
Ac i’r rhai sydd am fwynhau profiad mwy munud olaf, mae ardal bar Terra Mare yn croesawu gwesteion cerdded-i-mewn ar unrhyw adeg, heb gadw bwrdd o flaen llaw.
Mae’r gofod hwn yn gwahodd gwesteion i ymlacio gyda choctel crefftus, cwrw drafft, gwydraid o Champagne neu win premiwm, tra’n mwynhau detholiad o fyrbrydau bar deniadol; mae’r opsiynau’n cynnwys Fritto Misto, Bruschetta gyda Stracciatella, a Ragu Orecchiette.
Mae’n lleoliad delfrydol i’r rhai sydd am alw heibio am ddiod a thamaid cyflym, p’un a ydyn nhw’n cyfarfod â ffrindiau, yn ymlacio ar ôl gwaith, neu’n dechrau noson allan.
Mae Terra Mare yn eiddo i ac yn cael ei weithredu gan Grŵp Lletygarwch A&M.
Dywedodd Daf Andrews, Cyd-sylfaenydd A&M: “Gyda’n cyfuniad gofalus o fwyd traddodiadol Eidalaidd, opsiynau bwyta fforddiadwy ac ardal bar groesawgar ar gyfer ymweliadau heb eu cynllunio, yn Terra Mare ein nod yw cynnig profiad ardderchog waeth pryd rydych chi’n ymuno â ni, i gyd mewn un lleoliad trawiadol.”
I gael mwy o wybodaeth am Terra Mare ac i weld bwydlenni sampl, ewch i Terramare-amh.com.