Beth wyt ti'n edrych am?
CANLLAW SUL Y MAMAU 2025
Mae ein hanwyliaid yn haeddu cael eu sbwylio! Mam, mam-gu, modryb neu ofalwr maeth – mae’r anrheg berffaith gennym i bawb.
Cofiwch – mae Sul y Mamau ddydd Sul 30 Mawrth 2025. Darllenwch ein canllaw isod a dewiswch rywbeth fydd wrth ei bodd.
BWYTA MAS
Gaucho

Sul y Mamau hwn, dewch i fwynhau profiad bwyta bythgofiadwy yn Gaucho. Mwynhewch ginio dydd Sul traddodiadol gyda dylanwad o’r Ariannin, neu beth am giniawa o’n bwydlen blasus à la carte, ynghyd â detholiad helaeth o winoedd o’r Ariannin a thu hwnt.
Mae detholiad o ddanteithion ychwanegol i famau er mwyn gwneud eu diwrnod yn fwy arbennig. Archebwch eich bwrdd ar-lein yma.
The Red Dragon Centre

P’un a ydych chi’n dathlu Mam, yn cofio Mam neu eisiau sbwylio rhywun sy’n union fel Mam i chi… does unman yn well i roi gwên ar ei hwyneb na diwrnod o hwyl yng Nghanolfan Red Dragon.
Mae gennym y cyfan sydd ei angen arnoch am y diwrnod perffaith i’r teulu, p’un a ydych chi’n hoff o antur, gwylio ffilmiau neu’n hoff o fwyd, ac mae’r cyfan o dan un to enfawr. HEFYD, bachwch rai cynigion gwych yn arbennig i Mam – gan gynnwys diod am ddim yn Hollywood Bowl. Cymerwch olwg ar yr holl gynigion yma. Gweler yr holl gynigion.
The Ivy Asia

Dathlwch benwythnos Sul y Mamau mewn steil yn The Ivy Asia, lle mae blasau beiddgar, amgylchoedd trawiadol, a rhywfaint o swyn yn gosod llwyfan ar gyfer profiad bwyta bythgofiadwy. Sbwyliwch Mam gyda bwydlen barod wedi’i churadu’n arbennig am £40 y pen, gyda phrydau cyntaf cain fel Salad Hwyaden Barbeciw neu Roliau Sesame a Thiwna Sbeislyd. Ar gyfer y prif gwrs, mwynhewch brydau bwyd bywiog fel Cyri Cyw Iâr Gwyrdd Thai neu Teriyaki Samwn, wedi’u gweini â reis wedi’i stemio persawrus a llysiau gwyrdd wedi’u ffrio mewn wok.
Gorffennwch â phryd melys gyda phwdin moethus am £5 yn ychwanegol —dewiswch o Doesenni Grandila a Chnau Coco Cynnes neu Panna Cotta cnau coco sidanaidd, mae Mam yn haeddu ychydig o foethusrwydd. Ar gael ar gyfer cinio a swper ar 29 a 30 Mawrth, mae’r profiad arbennig hwn wedi’i gynllunio i wneud iddi deimlo’n wirioneddol annwyl. I wneud yr achlysur hyd yn oed yn fwy cofiadwy, bydd pob mam a ddaw am fwyd ar 30 Mawrth yn derbyn blodyn am ddim—ein ffordd garedig o ddathlu’r menywod anhygoel yn eich bywyd. Archebwch ar-lein yma.
The Thomas Restaurant yn Future Inns

Sbwyliwch Mam gyda chinio rhost blasus yn y Thomas Restaurant. Mwynhewch gwrs cyntaf, ac yna cinio Sul traddodiadol. Gyda detholiad o gigoedd, tatws rhost euraid, llysiau tymhorol, pwdin Efrog cartref, a digon o grefi go iawn. Yn ogystal â phwdin. Mae mamau’n cael gwydraid o siampên hefyd!
Am borfiad mwy cain, beth am ddewis te prynhawn hyfryd? Mwynhewch amrywiaeth o frechdanau bach cain, sgons wedi’u pobi’n ffres, a chacennau cartref, i gyd wedi’u gweini gyda the neu goffi diderfyn. Sut bynnag rydych chi’n dewis dathlu, gwnewch hi’n arbennig trwy archebu eich bwrdd ar-lein heddiw!
Mowgli Caerdydd
Ymunwch â Mowgli ddydd Sul, 30 Mawrth 2025, am brofiad bwyta arbennig am ddim ond £35 y pen. Mae eich pryd bwyd yn dechrau gyda gwydraid o siampên, ac yna cyfran hyfryd ro Yoghurt Chat Bombs i’w rhannu—pyffiau bara crensiog wedi’u llenwi â ffagbys, iogwrt sbeislyd, tamarind, a choriander. Ar gyfer eich prif gwrs, dewiswch o ddetholiad o Chat Stryd a Chigoedd Stryd, gan gynnwys Tatws Wedi Ffrïo â ffenigrig, Cyw iâr powdwr gwn wedi’i ffrio euraidd, neu Dost Caws Himalaya gyda choriander blasus, winwns coch, a dresin tsilis gwyrdd.
Ar gyfer opsiwn mwy llenwol, dewiswch un o’n Blychau Tiffin dwy haen arbennig, gyda reis i’w rhannu. Dewiswch rhwng Tiffin y Gweithiwr Swyddfa, Tiffin Ysgol Indiaidd, neu Tiffin Ysgol Figan—i gyd yn cynnig dewis annisgwyl o brydau bwyd. I orffen, mwynhewch naill ai Browni Siocled Mowgli cynnes gyda hufen iâ neu gôn hufen iâ Sorbed Mango ffres. (Mae opsiynau di-glwten a figan ar gael yn y fwydlen.) Archebwch ar-lein yma.
Browns Bar & Brasserie

Ar Sul y Mamau, gall gwesteion sbwylio eu mamau gyda phrofiad bythgofiadwy yn Browns ddydd Sul, 30 Mawrth 2025. Gallant fwynhau cinio Sul unigryw’r bwyty, sy’n cynnwys cinio Sul Chateaubriand moethus i’w rannu, ochr yn ochr â gwinoedd cain, coctels wedi’u crefftio â llaw, a hyd yn oed cinio rhost bach i’r plant, i gyd wedi’u hategu gan y Fwydlen A La Carte. Er y gall rhai prydau tymhorol newid cyn y diwrnod mawr, bydd y cinio Sul arbennig yn aros mor flasus ag erioed!
Er mwyn gwneud y dathliad hyd yn oed yn fwy arbennig, bydd Browns yn croesawu mamau gyda gwydraid o siampên Moët & Chandon am ddim ar gyfer gwesteion VIP. Wrth i westeion ymlacio a mwynhau’r awyrgylch, bydd pianydd byw yn gosod y naws berffaith ar gyfer prynhawn hamddenol a moethus. Archebwch ar-lein yma.
ANRHEGION A PHROFIADAU
Anrhegion Cymreig a Danteithion Bwyd – Caru Bwyd Cymru

Ydych chi’n chwilio am yr anrheg berffaith ar gyfer Sul y Mamau? Beth am sbwylio eich Mam i un o deithiau cerdded Loving Welsh Food yng Nghaerdydd? Y ffordd fwyaf blasus o ddarganfod neu ail-ymweld â phrifddinas Cymru.
Ymunwch â grŵp o bobl eraill sy’n dwlu ar fwyd am daith llawn danteithion blasus o amgylch y ddinas neu archebwch daith breifat unigryw! Mae talebau hefyd ar gael. Archebwch ar-lein yma.
Distyllfa Castell Hensol

Yr anrheg berffaith i unrhyw fam sy’n hoff o jin. Nid yw’n rhy hwyr i ddangos eich gwerthfawrogiad. Beth am ei sbwylio gydag anrheg na fydd hi’n ei anghofio gyda Phrofiadau Jin Castell Hensol a jin Cymreig arobryn?
Prynwch eich rhodd heddiw i roi anrheg Sul y Mamau i’ch mam y mae’n ei haeddu. Cymerwch olwg ar y wefan yma.
Flight Club

Os nad yw’ch mam yn berson te prynhawn a sba, beth am amrywio pethau am Sul y Mamau yma gydag ymweliad â Flight Club? Mae’r bar gweithgareddau bywiog, wedi’i ysbrydoli gan ffeiriau, ar Heol Eglwys Fair yn cynnig coctels crefft, platiau i’w rhannu, a ffurf unigryw ar ddartiau traddodiadol. Mae eu profiad Dartiau Cymdeithasol yn defnyddio gemau rhyngweithiol a thechnoleg camera clyfar i olrhain pob tafliad, gan ddal yr eiliadau gorau fel recordiadau’r gweithgareddau fel y gallwch ail-fyw’r profiad yn nes ymlaen. P’un a ydych chi’n barod am rywfaint o gystadleuaeth gyfeillgar gyda’r teulu (18+) neu’n cynllunio diwrnod allan hwyl i famau a phlant, mae hwn yn ddathliad hynod anghyffredin.
Ar gyfer mamau sy’n dwlu ar frecinio, mae brecinio di-ddiwed y Flight Club yn ychwanegu naws chwareus i ddathliad clasurol Sul y Mamau. Yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn 29 Mawrth a Sul y Mamau, mae’r sesiwn dwy awr hon yn cynnwys pitsa surdoes diderfyn sy’n dod yn syth i’ch bwrdd, ynghyd â photel o prosecco y pen a 60 munud o Dartiau Cymdeithasol. Mae tocynnau’n dechrau o £30—archebwch nawr i wneud Sul y Mamau yn wirioneddol fythgofiadwy! Cadwch le yma.
Dyma gipolwg bach ar y llu o fwytai a phrofiadau anhygoel sydd gan Gaerdydd i’w cynnig. Ewch i’n tudalennau Gweld a Gwneud ac Yfed a Bwyta i weld mwy. I gael gwybodaeth am deithio i Gaerdydd, a sut i deithio o gwmpas y ddinas pan fyddwch chi yma, edrychwch ar ein hadran Gwybodaeth i Ymwelwyr.
Mae’r holl sefydliadau sy’n rhan o’r blog hwn yn rhan o Rwydwaith Croeso Caerdydd. Ewch i’n gwefan i gael rhagor o wybodaeth am beth allwch chi ei weld a’i wneud, ei fwyta a’i yfed a ble i aros.