Neidio i'r prif gynnwys

Mae Cynllun Ail-Lenwi A Dychwelyd Caerdydd Yn Dathlu 8,000 O Gwpanau Wedi’u Dychwelyd

Dydd Mercher 19 Chwefror 2025


 

HEFYD: DYMA SUT GALLWCH EI DDEFNYDDIO I GAEL COFFI AM DDIM DDYDD GWENER YMA

Mae cynllun arloesol ‘Ail-lenwi a Dychwelyd Cwpanau’ Caerdydd yn dathlu carreg filltir allweddol ar ôl pedwar mis; ers ei lansio, mae’r cynllun wedi achub 8,000 o gwpanau syfrdanol rhag mynd i safleoedd tirlenwi. I ddathlu, bydd mwy nag 20 o fusnesau sy’n cymryd rhan ledled y ddinas yn cynnig coffi (neu ddiod boeth) o’u dewis am ddim i 50 cwsmer.

Mae menter ‘Ail-lenwi aa Dychwelyd Cwpanau Caerdydd’, y cyntaf i Gymru, yn galluogi cwsmeriaid i ‘fenthyca’ cwpan coffi y gellir ei ailddefnyddio o unrhyw leoliad sy’n cymryd rhan a’i ddychwelyd yn ddiweddarach i gael ei olchi a’i ailddefnyddio.

 

Lleoliadau sy’n cymryd rhan yn ‘Dydd Gwener Diod am Ddim’ ar 21 Chwefror (bydd pob un yn cynnig un ddiod poeth am ddim i’r 50 cwsmer cynta’ sy’n archebu un mewn Cwpan Dychwelyd ac Ail-lenwi Caerdydd):

  • Pettigrew Bakery (Arcêd y Castell, Y Rhath, a Pharc Fictoria)
  • Ystafelloedd Te Pettigrew, Parc Bute
  • Da Coffi (Un Sgwâr Canolog)
  • Te Waterloo (Arcêd Wyndham)
  • Bird and Blend (Canol y Ddinas)
  • Kin & Ilk (Brunel House, Capital Quarter, Pontcanna, a Dewi Sant)
  • Caffi Green Shoots (Canol y Ddinas)
  • Uncommon Ground (Canol y Ddinas)
  • Sherman Cymru (Cathays)
  • Bae Coffi (o fewn Coleg Caerdydd a’r Fro)
  • Clwb Coffi (Marchnad Jacobs, Canol y Ddinas)
  • Snails Deli (Rhiwbeina)
  • Prosiect Caffi Training Ground (Grangetown)
  • Mania Coffi (o fewn Techniquest, Bae Caerdydd)

A’r wythnos hon, mae dau leoliad annibynnol newydd wedi ymuno â’r cynllun;

  • Tidy Kitchen (Maes yr Amgueddfa, Canol y Ddinas)
  • Siop Goffi Suburban (Rhiwbeina)

 

Mae’r Cynllun Dychwelyd ac Ail-lenwi Caerdydd, wedi’i gychwyn gan AM UGaerdydd gyda £90,000 o gymorth cyllid gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, wedi bod yn digwydd fel cynllun peilot ers mis Hydref 2024. Mae Caerdydd AM BYTH yn gweithio mewn partneriaeth â’r sefydliad nid-er-elw City to Sea a ddatblygodd y cynllun i helpu i fynd i’r afael â llygredd plastig. Bydd ei effaith yn cael ei werthuso gan Ysgol Busnes Caerdydd ac Ysgol Fusnes Greenwich, gyda’r gobaith y bydd yn glasbrint da ar gyfer prosiectau tebyg ledled y DU.

Dywedodd Laura Willett, sef sylfaenydd Tidy Kitchen – sydd yn un o’r ddau leoliad newydd i ymuno â’r cynllun yr wythnos hon, “Fel busnes, rydyn ni bob amser yn edrych ar bob ffordd i wella ac integreiddio arferion cynaliadwy a’u rhoi wrth galon yr hyn rydyn ni’n ei wneud, felly fe wnaethon ni neidio ar y cyfle i fod yn rhan o’r cynllun hwn. Mae’n anhygoel meddwl bod 8,000 o gwpanau untro eisoes wedi’u harbed rhag mynd i safleoedd tirlenwi – ni’n edrych ymlaen at annog ein cwsmeriaid i ddefnyddio’r cynllun, ac i arbed ychydig gannoedd yn fwy!”

Dywedodd Carolyn Brownell, Cyfarwyddwr Gweithredol Caerdydd AM BYTH, “nin hynod gyffrous i weld cynllun peilot Ail-lenwi a Dychwelyd Cwpanau Caerdydd yn mynd o nerth i nerth, ac i groesawu dau fusnes newydd i gymryd rhan a helpu i gael hyd yn oed mwy o effaith gadarnhaol.”

Dywedodd George Clark, Arweinydd Rhaglen City to Seamae’n bleser mawr ein bod yn dathlu llwyddiant siopau coffi a’u cwsmeriaid yng Nghaerdydd wrth fynd i’r afael â gwastraff cwpanau coffi untro. Bedwar mis ers lansio’r cynllun Dychwelyd ac Ail-lenwi Cwpanau, mae miloedd o gwpanau wedi cael eu hatal rhag mynd i wastraff ym mharciau’r ddinas, gorlifo’r biniau neu gael eu hanfon i safleoedd tirlenwi. Mae mwy o bobl yn dod â’u cwpanau ailddefnyddiadwy eu hunain, yn cael benthyg cwpan Ail-lenwi a Dychwelyd neu’n arafu ac yn mwynhau eu diod mewn mwg yng nghwmni eu ffrindiau.

Ni’n gwybod y gall newid fod yn anodd, yn enwedig gydag ymddygiad mor gyffredin â gafael mewn diod mewn cwpan untro, ond mae busnesau a thrigolion Caerdydd wedi ymateb i’r her – a ni’n disgwyl i ddinasoedd eraill ddilyn yr esiampl.”

Sut mae cynllun Ail-lenwi a Dychwelyd Cwpanau Caerdydd yn gweithio:

  • Cwsmeriaid yn lawrlwytho’r Ap Ail-lenwi a chofrestru eu manylion talu (ni chodir ffi).
  • Yna maent yn dangos cod QR i’w barista i fenthyg cwpan y gellir ei ailddefnyddio, yn rhad ac am ddim.
  • Mae cwsmeriaid yn dychwelyd y cwpan i unrhyw leoliad sy’n cymryd rhan – mae pob un i’w weld ar yr ap Ail-lenwi.
  • Mae’r ap Ail-lenwi hefyd yn rhannu hysbysiadau atgoffa rheolaidd, a dim ond ffi o £3 sy’n cael ei chodi ar gwsmeriaid os nad yw’r cwpan yn cael ei ddychwelyd o fewn pythefnos.
  • Mae’r cwpan yn cael ei olchi wedyn yn barod i’w ddefnyddio eto.

I gael mwy o wybodaeth am gynllun Ail-lenwi a Dychwelyd Cwpanau Caerdydd, ewch i www.forcardiff.com/cardiff-reusable-cup-scheme-launches-to-help-tackle-2-5-billion-single-use-coffee-cup-problem.