Neidio i'r prif gynnwys

Public Image Ltd i Berfformio yn Depot yr Haf Nesaf

Dydd Iau, 14 Tachwedd 2024


 

Bydd band ôl-pync John Lydon o’r Sex Pistols yn perfformio yng Nghaerdydd ar 14 Mehefin 2025

Cadarnhawyd y bydd grŵp ôl-Pistols John Lydon, Public Image Limited (PiL) yn dod i DEPOT yng Nghaerdydd ar 14 Mehefin 2025.

Ar ôl bod yn brif leisydd i’r Sex Pistols, ffurfiodd John Lydon y band ôl-pync gwreiddiol, Public Image Ltd (PiL).

Mae’r band yn cael eu hystyried yn eang fel un o’r bandiau mwyaf arloesol erioed, ac mae eu cerddoriaeth wedi ennill 5 sengl 20 Uchaf y DU a 5 albwm 20 Uchaf y DU iddynt.

Gyda lein-yp cyfnewidiol a sain unigryw – yn cyfuno roc, dawns, gwerin, pop a dyb – arweiniodd Lydon y band o’u halbwm cyntaf ‘First Issue’ yn 1978 hyd at ‘That What Is Not’ yn 1992, cyn iddynt gymryd hiatws am 17 mlynedd.

Ail-gychwynnodd Lydon PiL yn 2009, gan deithio’n helaeth a rhyddhau dwy albwm glodfawr; ‘This is PiL’ yn 2012 ac yna ‘What The World Needs Now…’ yn 2015.

Mae John Lydon, Lu Edmonds, Scott Firth a Bruce Smith yn parhau fel PiL. Nhw yw’r lein-yp sefydlog hiraf yn hanes y band ac maent yn parhau i herio a ffynnu.

Mae tocynnau ar gyfer PiL ar werth nawr yn: https://www.seetickets.com/event/public-image-ltd-this-is-not-the-last-tour/depot/3232717