Beth wyt ti'n edrych am?
Deuddeg profiad mae rhaid i chi beidio eu colli ar restr Nadolig Caerdydd eleni
Dydd Llun, 25 Tachwedd 2024
Efallai y bydd Siôn Corn yn ein rhoi ni ar ei restr ddrwg, ond gyda dim ond ychydig o wythnosau i fynd tan y diwrnod mawr, allwn ni ddim peidio â dadlapio rhai o’r anrhegion hudolus fydd ar gael dros y Nadolig yng Nghaerdydd eleni.
- Llawr Sglefrio mewn Castell
Castell hanesyddol Caerdydd yw’r lleoliad perffaith i sglefrio gyda’r machlud (mor rhamantus), neu am ddiwrnod o hwyl i’r teulu na all hyd yn oed y tywydd ei ddifetha. Mae Llawr Sglefrio a Llwybr Iâ Gŵyl y Gaeaf Caerdydd yma 4 tan 5 Ionawr 2025, ynghyd â’i haid ei hun o bengwin-gynorthwywyr ar gyfer gwesteion llai. Sicrhewch eich lle heddiw!
- Gŵyl y Gaeaf
Allwch chi ddim cael gormod o rywbeth da adeg y Nadolig, felly cadwch hwyl yr ŵyl i fynd gydag ymweliad ag ail safle Gŵyl y Gaeaf. Mae Lawnt Neuadd y Ddinas Caerdydd yn cynnal detholiad o reidiau a gemau ffair, bar apres-ski Sur La Piste, ynghyd â rhestr lawn o adloniant am ddim i’r teulu. Y ffordd ddelfrydol o dreulio noson Nadoligaidd. Mynediad am ddim: tan 5 Ionawr 2025
- Bar Barrug
Mae’r tymereddau rhewllyd yn y Bar Barrug yng Ngŵyl y Gaeaf Caerdydd ar Lawnt Neuadd y Ddinas yn golygu mai hwn yw’r lle mwyaf cŵl i ymlacio’r Nadolig hwn. Mae wedi ei wneud yn gyfan gwbl o iâ, felly gwisgwch yn gynnes i fwynhau diod gyda’ch ffrindiau. Prynwch eich tocynnau cyn iddyn nhw fynd!
- Llwybr goleuadau enfawr
Mae llwybr goleuadau hudolus y Nadolig ym Mharc Bute wedi sefydlu ei hun yn gadarn ar galendr Nadolig Caerdydd. Bydd yn dychwelyd eleni gyda phrofiadau trochi newydd perffaith i Instagram. Mae tocynnau ar gyfer y llwybr clodwiw, sydd ar agor tan 1 Ionawr 2025, ar werth nawr!
- Yr anrheg berffaith
P’un a ydych chi’n chwilio am emwaith pwrpasol, gwaith celf gwreiddiol, gwaith gwydr hardd, eitemau ceramig wedi’u taflu â llaw, cwiltiau a thecstilau wedi’u gwneud â llaw, neu fwyd a diod tymhorol, Marchnad Nadolig Caerdydd yw’r lle perffaith i ddod o hyd i’r anrheg grefftus berffaith. Yn rhan annatod o Nadolig Caerdydd, bydd y cabanau traddodiadol, y gwneuthurwyr talentog, ac awyrgylch Nadoligaidd unigryw’r Farchnad yma tan 23 Rhagfyr 2024.
- Spiegeltent
Mae gan Spiegeltents hanes hir o deithio o le i le, yn cario cerddoriaeth ac adloniant gyda nhw ac mae’r Spiegeltent Ewropeaidd 500-sedd yn dychwelyd i Gaerdydd am y drydedd flwyddyn yn olynol. Wedi’i adeiladu o bren, drychau wedi’u torri, cynfas, gwydr plwm, ac wedi’i addurno â brocêd melfed, gall ymwelwyr â’r pafiliwn hudol a chlyd wedi’i siapio â llaw yng Ngerddi Sophia ddewis o bron i ddwsin o sioeau, gyda’r uchafbwyntiau yn cynnwys ‘Welsh of the West End’, ‘The Snow Queen’ a ‘My Favourite Things’ rhwng 29 Tachwedd 2024 a 31 Rhagfyr 2024. Prynwch eich tocyn nawr!
- Cerdded trwy hanes
Roedd pobl Oes Fictoria yn deall y Nadolig i’r dim, ac mae Arcedau Fictoraidd Caerdydd yn driw i’r traddodiad. Wedi’u haddurno’n ar gyfer yr ŵyl, mae ‘na hud syml i grwydro drwy’r ddrysfa o arcedau, a stopio am goffi neu damaid o fwyd yn un o’r nifer o gaffis a bwytai annibynnol y byddwch yn eu darganfod rhwng y siopau bwtîc.
- Brandiau dylunwyr, llawer o ffefrynnau’r stryd fawr… a mwy
O frandiau dylunwyr i ffefrynnau’r stryd fawr, rydych chi’n siŵr o ddod o hyd i’r anrheg berffaith (neu efallai rywbeth i sbwylio’ch hun) yng Nghanolfan Dewi Sant. Gyda thros 160 o siopau, caffis a bwytai i’w darganfod, cyrchfan fanwerthu flaenllaw Cymru yw’r lle delfrydol am ddiwrnod allan – p’un ai a ydych yn bwriadu diddanu’r teulu gyda Treetop Golf a Cineworld, tretio’ch hun i ginio neu swper gyda ffrindiau, neu ddod o hyd i’r wisg berffaith ar gyfer parti Nadolig.
- Caban clyd
Angen seibiant o brynu anrhegion i’ch ffrindiau a’ch teulu? Dewch i gwtsio lan yng nghabanau Maes yr Ŵyl y Nadolig hwn. Yn hafan Fafaraidd atmosfferig, Maes yr Ŵyl ar Stryd Working yw’r lle perffaith i ymlacio gyda chwrw a bratwurst cyn y rownd nesaf o siopa Nadolig. Ar agor nawr!
- Groto Nadolig
Boed dda neu ddrwg, bydd ymweliad â Groto Nadolig Siôn Corn ar restr ddymuniadau llawer o blant y Nadolig hwn. I helpu i wireddu eu dymuniadau, bydd Siôn Corn a’i gorachod yn ymgartrefu dros dro yng Nghastell Caerdydd, Heol y Frenhines a Stadiwm Principality. Tocynnau ar werth nawr!
- Treulio amser gyda ffrindiau a theulu
Mae ffrindiau a theulu wrth galon popeth sydd orau am y Nadolig, felly does dim ffordd well o ddathlu na gyda phryd o fwyd blasus! Mae Caerdydd yn hafan i’r rheini sy’n frwd dros fwyd – ac mae tudalennau Bwyta ac Yfed Croeso Caerdydd yn llawn llefydd i wledda dros y Nadolig. Cofleidiwch draddodiad gyda’r holl drimins yn y Pontcanna Inn, neu rhowch gynnig ar brydau gwych Daffodil, sy’n hyrwyddo cynnyrch Cymreig, efallai gyda gwydraid o win o’u rhestr gynhwysfawr – mae’n Nadolig wedi’r cyfan.
- Aros dros nos
Mae gormod i’w wneud mewn dim ond un diwrnod yng Nghaerdydd y Nadolig hwn, felly beth am wneud noson ohoni a mwynhau un o westai’r brifddinas? O rywle modern, ffasiynol yng nghanol dinas brysur i foethusrwydd hamddenol gwesty sba neu noson yn ardal hanesyddol Bae Caerdydd, rydych chi’n siŵr o ddeffro’n barod am fwy o hwyl yr ŵyl!
Gydag ychydig o fisoedd i fynd, rydyn ni’n dal i lunio rhestr Nadolig Caerdydd, felly am fwy o wybodaeth a’r holl fanylion diweddaraf wrth i’r Nadolig nesáu, ewch i: www.croesocaerdydd.com/nadolig