Neidio i'r prif gynnwys

Welsh National Opera | Candide

Dyddiad(au)

17 Med 2025 - 21 Med 2025

Lleoliad

Canolfan Mileniwm Cymru, Bute Place, Bae Caerdydd, CF10 5AL

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Y Gorau o bob Byd Bosib

Mae Candide, gan Leonard Bernstein, yn antur wefreiddiol wyllt, lle mae bywyd yn Ffrainc yn ystod y ddeunawfed ganrif yn gwrthdaro â bywyd yn America yn yr ugeinfed ganrif, ar ôl y rhyfel. Cymerwch sedd, a pharatowch eich meddwl am daith droellog wrth i ni ruthro drwy fyd rhyfeddol yn llawn anhrefn – o gestyll yn yr Alpau, daeargrynfeydd yn Lisbon i’r jwngl Amasonaidd y tu hwnt i’r Wladfa.

Oherwydd y gymysgfa o ddawn gyfansoddol Bernstein a ffraethineb cignoeth Dorothy Parker, mae Candide yn waith egnïol sy’n dwyn ynghyd goreuon Broadway, eisin ar gacen opereta a dychan diamser nofel wreiddiol Voltaire. Mae cynhyrchiad clodwiw WNO wedi’i lwyfannu gan dîm penigamp, sy’n rhoi bywyd i’r byd dychmygol ac ecsentrig hwn gyda cherddoriaeth ddiweddar, animeiddiadau, dawns a brathiad gwleidyddol.

Dyddiadau'r Digwyddiad

17Med - 19:30 Welsh National Opera | Candide
19Med - 19:30 Welsh National Opera | Candide
21Med - 16:00 Welsh National Opera | Candide