Beth wyt ti'n edrych am?
Welsh National Opera | The Flying Dutchman
Dyddiad(au)
16 Ebr 2026 - 19 Ebr 2026
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Eneidiau coll a rwymwyd gan y môr
Mae llong iasol yn crwydro’r môr diddiwedd, eang, unig a didostur. Mae ei chapten dan felltith i hwylio’n dragwyddol nes y caiff ei achub gan gariad pur.
Senta, a gafodd ei swyno gan hanes dirgelwch y Flying Dutchman a gondemniwyd i hwylio am byth, yw ei unig obaith o gael ei achub. Mae ei dyhead i ffoi yn ymblethu ffawd y ddau mewn ffyrdd na allai’r un ohonynt eu rhagweld.
Mae’r cynhyrchiad gafaelgar hwn o The Flying Dutchman yn ymchwilio i boen dwfn unigrwydd a’r gobaith bregus o gysylltiad dynol. Y môr, a ysbrydolwyd gan brydferthwch hynod arfordir Cymru, yw canfas yr opera, sydd hefyd yn orfodaeth ac yn garchar i’w chymeriadau. Daw offeryniaethau Wagner, o’r agorawd fyddarol i’r ariâu atgofus, yn ganolbwynt y stori, gan ddeffro pŵer y môr a’ch gadael i ymgolli yn ei swyn.