Neidio i'r prif gynnwys

Celf Fotanegol: Dyfodol Byd-eang o'n Planhigion Treftadaeth Leol

Dyddiad(au)

17 Ebr 2025 - 28 Mai 2025

Amseroedd

10:30 - 16:30

Lleoliad

Adeilad y Pierhead, Bae Caerdydd

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Fel rhan o Ddiwrnod Celfyddyd Fotanegol Fyd-eang (BAWW) ar 18 Mai 2025, mae Cymdeithas Darlunwyr Botanegol Cymru (WSBI) yn falch o gyflwyno’r arddangosfa hon sy’n dathlu ein planhigion treftadaeth lleol.

Nod yr arddangosfa yw hyrwyddo celf a darlunio botanegol, ac annog mwy o ddiddordeb mewn botaneg.

Drwy ddathlu bioamrywiaeth cnydau sydd wedi bod yn gysylltiedig â’r rhywogaeth ddynol ers miloedd o flynyddoedd, ein nod yw tynnu sylw at yr amrywiaeth anhygoel o blanhigion treftadaeth a ddefnyddir ar gyfer bwyd, meddygaeth, tecstilau a lliwiau.

Mae’r pwyslais ar rywogaethau bwyd yn ategu pa mor bwysig yw planhigion treftadaeth i’n hiechyd a’n hamgylchedd.

Ar hyn o bryd, mae llawer o amrywiaethau a rhywogaethau treftadaeth ond yn cael eu tyfu mewn niferoedd bach gan dyfwyr arbenigol. Wrth gwrs, mae hefyd lawer o rywogaethau o blanhigion gwyllt sy’n cael eu defnyddio ar gyfer bwyd ac mae chwilota wedi dod yn fwy poblogaidd yn y blynyddoedd diwethaf.

Mae’r arddangosfa hon yn un o bedair sy’n cael eu cynnal yn y DU, gyda’r lleill yn Birmingham; yr Eden Project, Cernyw; a Kew Gardens, Llundain.

Bydd yr arddangosfeydd rhyngwladol a’r DU ar gael ar-lein ac yn cael eu harddangos ar sgriniau yn arddangosfa Cymru.