Neidio i'r prif gynnwys

Blas ar Gymru yn dychwelyd i The Welsh House ar gyfer 2025 gyda bwydlen newydd wych!

Dydd Llun 10 Mawrth 2025


 

Noson gofiadwy o fwyd a diod o Gymru a barddoniaeth a chân yn The Welsh House yng Nghaerdydd – y cyflwyniad perffaith i’n gwlad brydferth.

Mae’r cwmni clodwiw Loving Welsh Food yn falch iawn o fod yn gweithio gyda The Welsh House yng Nghaerdydd unwaith eto ar gyfer y nosweithiau Blas ar Gymru eleni. Mae’r digwyddiad cyntaf yn cael ei gynnal ddydd Llun 31 Mawrth 2025.

“Cymysgedd hyfryd o adloniant ysgafn, llawn hiwmor. Cynnig hyfryd o fwyd a diod o Gymru, ac roedd yr adloniant yn berffaith” Nia Hollins, Bro Morgannwg.

Ar y fwydlen ar gyfer 2025 – pryd blasus 3 chwrs yn The Welsh House ac yna noson o adloniant ysgafn yn dathlu popeth Cymreig. Wedi’i seilio’n fras ar y noson Cerddoriaeth, Barddoniaeth a Pheint draddodiadol – mae’r digwyddiad cyfoes hwn yn cynnwys cerddoriaeth hyfryd ac adnabyddus, cystadleuaeth limrigau, barddoniaeth ysgafn a llond lle o Gymreictod. Y cynhwysion delfrydol am noson wych!

“Mae’n wych bod yn gweithio gyda The Welsh House unwaith eto – mae’n lleoliad perffaith ar gyfer y nosweithiau Blas ar Gymru, gan arddangos y gorau o fwyd a diod y wlad. Mae cerddoriaeth, barddoniaeth a’n treftadaeth fwyd wrth galon diwylliant Cymru ac mae hwn yn gyfle gwych i ni roi gwir flas ar Gymru i’n hymwelwyr lleol a rhyngwladol”. Sian Roberts, Perchennog Loving Welsh Food

Mae Loving Welsh Food yr un mor falch o fod yn gweithio unwaith eto gyda’r Gweithredwr Teithiau Go Collette, sydd wedi’u lleoli yn yr Unol Daleithiau. O fis Mawrth i fis Tachwedd 2025, bydd Go Collette, sy’n gwmni teuluol, yn dod â grwpiau o dwristiaid rhyngwladol i Gaerdydd fel rhan o’u taith “Exploring Britain & Ireland”.  Dyma’r drydedd flwyddyn yn olynol i Loving Welsh Food a Go Collette weithio gyda’i gilydd.

Mae bwydlen Blas ar Gymru newydd The Welsh House yn iachus, yn flasus ac yn hael, wedi’i hysbrydoli gan brydau Cymreig traddodiadol gan ddefnyddio cynhwysion Cymreig gwych.

 

Cwrs Cyntaf

  • Cawl seidr Cymreig a winwns gyda Chaws Cenarth
  • Madarch garlleg hufennog ar fara surdoes wedi’i dostio gydag olew Sir Benfro wedi’i drwytho mewn garlleg
  • Pice ar y Maen Cennin a Cheddar Cymreig gyda menyn Cymreig Shirgar

 

Prif Gwrs

  • Pastai’r Bugail The Welsh House a llysiau tymhorol/
  • Caws Macaroni, saws caws hufennog – Caws glas Perl Las a chaws caled Eidalaidd a briwsion bara panko/
  • Cawl* cig oen traddodiadol gyda Cheddar Cymreig (*stiw neu sŵp Cymreig wedi’i wneud gyda chig a llysiau – pryd cenedlaethol Cymru)

 

Pwdinau

  • Pwdin bara brith* gyda chwstard cynnes (*bara ffrwythau Cymreig traddodiadol sy’n cael ei wneud fel arfer gyda ffrwythau sych, te a sbeisys)
  • Detholiad o hufen iâ Mario
  • Browni siocled gludiog

 

Mae The Welsh House yn fwyty a bar rhanbarthol annibynnol yng nghanol y ddinas sy’n gweini prydau ffres a blasus a gynhyrchir yn lleol mewn amgylchedd cyfforddus a hamddenol.

“Mae tîm The Welsh House wedi cael y pleser o weithio gyda Loving Welsh Food ers i ni agor yn gynnar yn 2023. Mae Sian wir wedi dod â phobl o bob cwr o’r byd i brofi hyfrydwch bwyd Cymru. Mae’r bartneriaeth hon yn cyd-fynd yn berffaith â phopeth yr ydym yn sefyll amdano yn The Welsh House, gan arddangos bwyd, diod, cerddoriaeth a hanes gwych Cymru. Mae’n cynnig llwyfan i gyflenwyr Cymru arddangos y cynhyrchion rydyn ni’n fwyaf balch ohonynt, gan sicrhau eu bod yn hygyrch i bob ymwelydd. Rydyn ni wrth ein bodd yn croesawu’r gwesteion amrywiol y mae Sian a’i thîm yn dod â nhw i’n lleoliadau, ac rydyn ni’n gyffrous i weld y bartneriaeth hon yn parhau i fynd o nerth i nerth.” Alex Budge, Rheolwr Gweithrediadau Grŵp:

Mae Distyllfa Penderyn yn falch iawn o noddi’r gystadleuaeth Limrigau Penderyn unwaith eto eleni. Mae’r gystadleuaeth bob amser yn uchafbwynt ac mae’r enillydd lwcus yn ennill potel o Penderyn Legend – wisgi brag sengl â gorffeniad Madeira.

“Ni fyddai’r un digwyddiad Blas ar Gymru yn gyflawn heb Wisgi Brag Sengl Cymreig ac felly mae Penderyn yn falch iawn o fod yn rhan o’r digwyddiadau hyn – maen nhw’n ffordd wych o gael blas ar ein bwyd, diod a diwylliant.” Stephen Davies, Prif Weithredwr, Distyllfa Penderyn