Beth wyt ti'n edrych am?
CLOGYN EICONIG SUPERMAN YN YSGUBO TRWY GAERDYDD AR LWYBR CELF STRYD EPIG
CLOGYN EICONIG SUPERMAN YN YSGUBO TRWY GAERDYDD AR LWYBR CELF STRYD EPIG
CYFLE CENEDLAETHOL I DYNNU LLUNIAU YN UNO CAERDYDD, GLASGOW, BIRMINGHAM, MANCEINION A DULYN CYN RHYDDHAU FFILM ‘SUPERMAN’ DC STUDIOS YN Y SINEMÂU AR 11 GORFFENNAF
- Mae naw murlun sy’n cynnwys clogyn coch eiconig Superman wedi ymddangos ar draws Caerdydd, Glasgow, Birmingham, Manceinion a Dulyn
- Mae’r gosodiadau celf stryd rhyngweithiol yn gadael i ddilynwyr gamu i mewn i esgidiau Superman, yn ogystal â chlogyn sy’n chwythu yn y gwynt
- Dadorchuddiwyd pob un o’r naw murlun heddiw (dydd Mercher 25 Mehefin) i ddathlu ffilm Superman gan James Gunn, sy’n cyrraedd sinemâu ddydd Gwener 11 Gorffennaf
- Cystadleuaeth i ennill gwobrau unigryw trwy god QR ar y murluniau
Caerdydd – Dydd Mercher 25 Mehefin 2025
Heddiw, deffrodd Caerdydd i ddarganfod bod Superman wedi glanio… neu ei glogyn eiconig yn hytrach.
Mae Caerdydd yn ymuno â phedair dinas arall heddiw i ddadorchuddio murlun Superman fel rhan o lwybr epig ledled y wlad.
Wedi’i gynllunio i ddathlu rhyddhau ffilm Superman gan James Gunn, sy’n cyrraedd sinemâu’r Deyrnas Unedig ar 11 Gorffennaf, mae pob un o’r naw murlun yn galluogi dilynwyr i gamu i mewn i esgidiau coch eiconig Superman. Gyda’i glogyn yn chwythu yn y cefn, mae’r gwaith celf rhyngweithiol yn cynnig cyfle unigryw i dynnu llun fel yr archarwr.
Wedi’i alw’n ‘Citycapes’, mae’r gosodiadau yn ceisio creu moment ddiwylliannol ar y cyd ar draws y 5 dinas, gyda phob gwaith celf yn gwahodd dilynwyr Superman i gamu i mewn i esgidiau coch y Dyn Dur, gyda’i glogyn yn chwythu’n arwrol y tu ôl iddyn nhw. Ymddangosodd y gweithiau celf yng Nghaerdydd dros nos ar Stryd Hill ac yng Nghanolfan Red Dragon ym Mae Caerdydd fel rhan o ymgyrch celf stryd ar thema archarwyr ledled y Deyrnas Unedig ac Iwerddon.
Wedi’u cynllunio fel cyfle i’r cyhoedd dynnu lluniau a gosodiad celf stryd mewn un, mae’r murluniau yn adlewyrchu golwg newydd feiddgar y cymeriad Superman yn y ffilm gan James Gunn, gan gyfuno egni llyfrau comig â graddfa’r byd go iawn. Mae rhai o’r murluniau hyd yn oed yn cynnwys ymddangosiad gwadd gan Krypto the Superdog, gan alluogi dilynwyr o bob oedran i ryngweithio â chyfaill mwyaf ffyddlon Superman.
Yn ogystal, mae gan bob murlun god QR unigryw i’w sganio, gan roi cyfle i ymwelwyr ennill cyfle preifat unigryw i weld y ffilm Superman hirddisgwyliedig yn y lleoliadau mae’r gweithiau celf wedi ymddangos.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau, y Cynghorydd Jennifer Burke: “Rydyn ni’n falch o gael ein dewis fel un o ddim ond pum dinas yn y Deyrnas Unedig i gynnal y profiad diwylliannol hwn i ddilynwyr. Bydd y gwaith celf rhyngweithiol yn rhoi cyfle i ddilynwyr Superman hen a newydd ddal eiliad ‘arallfydol’ gyda ffrindiau a theulu wrth ymweld â’r ddinas.”
Bydd Superman yn cael ei rhyddhau yn y Deyrnas Unedig ar 11 Gorffennaf 2025 gan Warner Bros. Pictures.
FFEITHIAU A FFIGURAU AM Y SBLOET
- STRYD HILL – Y tu allan i Ganolfan Dewi Sant, Stryd y Bont,
Canolfan Dewi Sant, Caerdydd CF10 2EF
- Artistiaid: TOM SLEDMORE, HASSAN KAMIL
- Union leoliad What.3.Words – ///dips.funny.bottom
- CANOLFAN RED DRAGON – Heol Hemingway, Caerdydd CF10 4JY
- Artistiaid: RYAN STUART, KYLE HILL
- Union leoliad What.3.Words – ///goad.spits.civic