Neidio i'r prif gynnwys

PRIDE CYMRU 2025 YN DENU DROS 50,000 O YMWELWYR A GWARIANT LEDLED Y DDINAS Y PENWYTHNOS HWN

Wrth i’r tymheredd godi, mae Pride Cymru yn dychwelyd i brifddinas Cymru y penwythnos hwn. Mae’r hyn a ddechreuodd ym 1985 fel gorymdaith fach ar hyd Heol y Frenhines – dan arweiniad myfyrwyr Prifysgol Caerdydd – wedi blodeuo yn un o ddathliadau LHDTC+ mwyaf bywiog y DU.

O lai na 100 o gyfranogwyr yn yr orymdaith wreiddiol i’r 50,000 a mwy y disgwylir iddynt ddathlu yng nghanol y ddinas y penwythnos hwn, mae Pride Cymru wedi tyfu i fod yn un o ddigwyddiadau diwylliannol ac economaidd mwyaf arwyddocaol Caerdydd.

 

PRIDE CYMRU DRWY’R BLYNYDDOEDD

  • 1985–1987: Dechreuodd yr orymdeithiau Pride cyntaf yng Nghaerdydd ym 1985, a drefnwyd gan Gymdeithas Hoyw Prifysgol Caerdydd, gyda thua 100 yn bresennol.
  • 1999: Cynhaliwyd Mardi Gras cyntaf Caerdydd ym Mharc Bute ym mis Medi 1999, gan ddenu dros 5,000 o bobl.
  • 2012: Ailgyflwynwyd gorymdaith Pride, gyda thua 600 o orymdeithwyr yn ymuno â’r ŵyl.
  • 2014–heddiw: Ailenwyd y digwyddiad yn swyddogol yn Pride Cymru yn 2014. Ers hynny, mae presenoldeb wedi cynyddu i tua 50,000 dros y penwythnos cyfan.

 

PRIDE CYMRU – UCHAFBWYNTIAU 2025

 Bydd gŵyl Pride Cymru yn dod i ganol y ddinas ddydd Sadwrn 21 a ddydd Sul 22 Mehefin. Disgwyliwch berfformiadau byw gan eiconau’r DU, sioeau drag a chabaret, setiau DJ, dawnswyr a mwy. Ymhlith y prif berfformwyr eleni mae’r seren bop Ella Henderson, enillydd Drag Race UK Danny Beard a Kimberly Wyatt o’r grŵp The Pussycat DollsAm fwy o wybodaeth ac am docynnau, ewch i: pridecymru.com/festival.

 

Ond mae’r dathliad yn ymestyn ymhell y tu hwnt i Gae Cooper. Mae digwyddiadau o amgylch y ddinas yn cynnwys:

  • Yr Orymdaith: Mae’r orymdaith yn ôl eleni ac mae’n fwy ac yn well nag erioed. Ddydd Sadwrn 21 Mehefin, gan ddechrau ar Heol y Porth am 11am, ymunwch â miloedd o orymdeithwyr a gwylwyr i ddathlu cariad, cynhwysiant ac amrywiaeth.
  • Cabaret A-Spec cyntaf y byd yn The Queer Emporium: Mae’r chwyddwydr yn disgleirio ar lawenydd a-spec wrth i gabaret arywiol, aramantaidd ac arywedd cyntaf y byd ddod i The Queer Emporium am un noson yn unig ddydd Sadwrn 21 Mehefin.
  • Y Picnic Cwiar Mawr yng Ngerddi Sophia:ddydd Sadwrn 21 Mehefin ymunwch â phicnic am ddim, dan arweiniad y gymuned, sy’n dathlu Pride ar lawr gwlad. Disgwyliwch gelf cwiar, cerddoriaeth fyw, perfformiadau a mwy, i gyd mewn lleoliad awyr agored hamddenol.
  • Ôl-barti Pride yn Flight Club:Ddydd Sul 22 Mehefin, disgwyliwch setiau DJ, peintio wynebau lliwgar, byrbrydau blasus a lansiad eu coctel Pride newydd sbon o’r enw ‘Love Wins’. Bydd arian o werthiant y coctels hyn yn mynd i MindOut, elusen sy’n cefnogi iechyd meddwl cymunedau LHDTC+.