Neidio i'r prif gynnwys

GOLWG GYNTAF UNIGRYW: MICHAEL SHEEN YN DYCHWELYD FEL "NYE" WRTH BARATOI I GAU’R LLENNI AM Y TRO OLAF

Dydd Gwener 4 Gorff 2025


 

Mae golwg gyntaf unigryw ar ymarferion ar gyfer Nye, gyda Michael Sheen yn serennu, wedi’i rhyddhau heddiw gan y National Theatre a Chanolfan Mileniwm Cymru.

Yn dilyn sioeau sydd wedi gwerthu allan ac adolygiadau gwych, mae Nye yn dychwelyd i Theatr Donald Gordon yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yr haf hwn. Yn cynnwys y Cymro chwedlonol, Michael Sheen, mae Nye yn adrodd hanes Aneurin “Nye” Bevan, a helpodd i drawsnewid bywydau miliynau o bobl drwy sefydlu’r GIG. Daeth yn arloeswr ysbrydoledig oedd yn credu mewn creu ansawdd bywyd gwell i’r llai ffodus.

O un Cymro Chwedlonol i’r llall, mae Sheen yn camu’n ôl i mewn i esgidiau Nye am y tro olaf – gan adrodd stori fywiog bywyd dyn wnaeth gofal iechyd am ddim yn realiti. Wedi’i ysgrifennu gan Tim Price a’i gyd-gyfarwyddo gan Rufus Norris a Francesca Goodridge, mae atgofion Nye yn ganolog – o’i ddyddiau cynnar fel mab i löwr yn Nhredegar, i’r gwrthdaro gwleidyddol yn San Steffan a newidiodd ddyfodol Prydain. Ar hyd y ffordd, mae’r gynulleidfa yn cwrdd â ffrindiau, gelynion, teulu ac areithiau chwyldroadol mewn sioe deimladwy sydd yn llawn naws a hiwmor.

Wrth i ymarferion ar gyfer y sioe gyrraedd eu hanterth, mae lluniau yn dangos Sheen a’r cast gwych o berfformwyr yn paratoi i gau’r llenni am y tro olaf. Mae’r rhestr lawn o’r cast yn cynnwys, Gabriel Akamo, Remy Beasley, Matthew Bulgo, Jacob Coleman, Ross Foley, Jon Furlong, Daniel Hawksford, Jason Hughes, Stephanie Jacob, Kezrena James, Tony Jayawardena, Michael Keane, Nicholas Khan, Rebecca Killick, Mark Matthews, Joshua McCord, Hannah McPake, Rhodri Meilir, Ashley Mejri, Lee Mengo, Mali O’Donnell, Sara Otung, Michael Sheen, Sharon Small, a Gareth Tempest.

Gan fod y GIG yn dathlu ei ben-blwydd yn 75 oed ym mis Gorffennaf, ni fu erioed amser gwell i ddysgu am ei hanes, a ddechreuodd ar ein tir ni yng Nghymru.

Mae Nye yn dychwelyd i Theatr Donald Gordon yng Nghanolfan Mileniwm Cymru am gyfnod cyfyngedig, rhwng 22 a 30 Awst 2025. Peidiwch â cholli’r cyfle i brofi un o’r straeon Cymreig mwyaf pwerus a adroddwyd erioed.