Beth wyt ti'n edrych am?
Wythnos tan ddigwyddiad Para Badminton mwyaf erioed Cymru wrth i ymgyrch newydd gael ei datgelu
Dydd Mawrth, 15 Gorffennaf 2025
- Prifddinas Cymru yn croesawu athletwyr badminton Paralympaidd gorau’r byd rhwng 22 a 26 Gorffennaf
- Nod yr ymgyrch ‘Can You Manage’ yw codi ymwybyddiaeth o athletwyr para a hyrwyddo cyfranogiad
Yr haf hwn bydd Caerdydd yn croesawu’r digwyddiad badminton Paralympaidd mwyaf a gynhaliwyd yng Nghymru erioed, wrth i’r wlad geisio dod yn ganolfan ar gyfer chwaraeon Paralympaidd elitaidd. Rhwng 22-26 Gorffennaf bydd athletwyr badminton Paralympaidd gorau’r byd yn dod i Ganolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru ar gyfer Gemau Rhyngwladol Badminton Paralympaidd Prydain ac Iwerddon 2025.
Gydag wythnos i fynd tan y digwyddiad, mae Badminton Cymru wedi datgelu eu hymgyrch ‘Can You Manage’. Fideo trawiadol sy’n cynnwys athletwyr badminton Paralympaidd gyda’r nod o godi ymwybyddiaeth o’u galluoedd a hyrwyddo cymryd rhan mewn badminton Paralympaidd ledled y DU.
Gemau Rhyngwladol Badminton Paralympaidd Prydain ac Iwerddon 2025 yw un o’r digwyddiadau pwysicaf ym myd badminton Paralympaidd, gyda phwyntiau safle arwyddocaol a rôl ganolog yn y daith i Gemau Paralympaidd Los Angeles 2028. Cefnogir y digwyddiad gan UK Sport, Llywodraeth Cymru, Chwaraeon Cymru, Yonex, a Chwaraeon Anabledd Cymru, mewn partneriaeth â Badminton Iwerddon, Badminton yr Alban, a Badminton Lloegr
Bydd dros 300 o athletwyr, swyddogion a gwirfoddolwyr o fwy na 40 o wledydd yn ymweld â Chaerdydd, gan ddod â phencampwyr Paralympaidd, pencampwyr byd, a sêr sy’n dod i’r amlwg ar draws bob un o’r chwe dosbarth chwaraeon badminton Paralympaidd. Gall gwylwyr ddisgwyl pum diwrnod o gystadlu dwys a pherfformiadau ysbrydoledig, gyda chwaraewyr yn cystadlu mewn digwyddiadau senglau, dyblau a dyblau cymysg.
Wrth siarad cyn y digwyddiad, rhannodd Prif Swyddog Gweithredol Badminton Cymru, Kelly Aston MBE, ei chyffro, “Rydyn ni’n hynod falch o fod yn dod â Gemau Rhyngwladol Badminton Paralympaidd i Gaerdydd. Mae’r digwyddiad hwn yn fwy na chwaraeon o’r radd flaenaf. Mae’n ymwneud â herio canfyddiadau, creu cyfleoedd, a gwthio ffiniau’r hyn sy’n bosibl. Dyna’n union beth mae ein hymgyrch ‘Can You Manage?’ yn ceisio ei wneud – sbarduno sgyrsiau ynghylch cynhwysiant a chynrychiolaeth mewn chwaraeon. Mae cynnal y twrnamaint hwn yn estyniad pwerus o’r neges honno.”
Wrth sôn am arwyddocâd y twrnamaint i Gymru, dywedodd Y Gweinidog Chwaraeon Jack Sargeant , “Mae’n wych croesawu cystadleuwyr badminton rhyngwladol gwirioneddol ragorol i Gymru ar gyfer digwyddiad mor gyffrous. Mae’r twrnamaint hwn yn gyfle gwych i weld athletwyr o Gymru yn cystadlu ar lefel elitaidd gartref. “Mae digwyddiadau fel hyn yn ganolog i’r uchelgais i sefydlu Cymru fel prif gyrchfan ar gyfer chwaraeon Paralympaidd, gan ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o athletwyr ac arddangos y dalent anhygoel o fewn cymuned chwaraeon Paralympaidd. Pob lwc i’r holl gystadleuwyr a’r trefnwyr, a croeso i Gymru!”

'Can You Manage' | Badminton Cymru