Techniquest | Gweithdy ‘Claystation’ Gromit

Dyddiad(au)

19 Gorff 2025 - 31 Awst 2025

Lleoliad

Techniquest, Stuart Street, Cardiff CF10 5BW

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Ymunwch â ni am sesiwn creu model Gromit rhyngweithiol a llawn hwyl.

Gallwch chi fod yn greadigol gyda chlai a chreu Gromit eich hun i gymryd gartref at y gweithdai ‘claystation’.

Bydd pob gweithdy yn cael eu harwain gan dîm Techniquest sydd wedi’u hyfforddi i ddarparu’r gweithdy gorau posibl.

Byddwn ni hefyd yn dangos y ffilmiau byr Wallace & Gromit Cracking Contraptions tryw gydol y gweithdy. Felly gall chwerthin i ffwrdd at syniadau syfrdanol Wallace wrth i chi saernïo!

Mae pob pecyn clai Gromit yn costio £5 y pecyn ac yn gallu creu 1 model o Gromit. Mae yna angen i blant (o dan 16) mynychu’r gweithdy gydag oedolyn, fodd bynnag dydy’r oedolyn ddim angen talu dros ben oni bai bod nhw eisiau pecyn eu hun. Uchafswm o 2 bobl i bob pecyn.

Dydy’r gweithgaredd ddim yn addas i blant o dan 5. Dylai pob plentyn (o dan 16) mynychu yng nghwmni o leiaf 1 oedolyn. Na fydd plant o dan 5 yn cael eu derbyn.

Plîs nodwch fod angen i bob tocyn sioe cael ei archebu law-yn-llaw efo tocyn cyffredinol. Cofiwch archebu eich ymweliadau cryn dipyn ymlaen llaw gan fod mynediad yn dal yn ddarostyngedig i argaeledd!