Neidio i'r prif gynnwys

Gwerth Mewn Gair

Dyddiad(au)

05 Med 2025 - 30 Hyd 2025

Amseroedd

10:30 - 16:30

Lleoliad

Y Senedd, Bae Caerdydd

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Camwch i mewn galon treftadaeth Cymru a dewch draw i Dŷ Mawr Wybrnant, ffermdy o’r 16eg ganrif sydd wedi’i leoli yng nghwm Wybrnant ger Penmachno, Conwy, Gogledd Cymru. Y cartref hanesyddol hwn yw man geni’r Esgob William Morgan, y gwnaeth ei gyfieithiad o’r Beibl i’r Gymraeg ym 1588 – ‘Y Beibl Cyssegr-lan’ – sicrhau parhad yr iaith Gymraeg.

Mae’r arddangosfa hon yn eich gwahodd i fwynhau etifeddiaeth barhaus gwaith Morgan a’r dirwedd a’i ysbrydolodd. Dewch i ddarganfod y casgliad unigryw yn Nhŷ Mawr Wybrnant, a luniwyd gan genedlaethau o bobl sydd wedi’u huno drwy iaith, diwylliant, a chysylltiad â lle.

Mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn falch o gyflwyno ‘Y Beibl Cyssegr-lan’ (1588) sydd ar ddangos yn y Senedd, ochr yn ochr â detholiad o wahanol Feiblau—pob un â stori unigryw ei hun o ffydd, iaith, a balchder cenedlaethol.

Ymunwch â ni i ddathlu iaith a diwylliant Cymru a phŵer lle i gysylltu’r gorffennol a’r presennol.

Arddangosfa gan Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru; noddir gan Janet Finch-Saunders AS