Neidio i'r prif gynnwys

Cau Ffyrdd ar gyfer CDF 10K Brecon Carreg a Chymal Terfynol Dynion Taith Prydain Lloyds ddydd Sul, 7 Medi

Dydd Llun, 1 Medi 2025


 

Gyda disgwyl i filoedd o redwyr gymryd rhan yn ras 10K Caerdydd Brecon Carreg, a cham olaf Taith Prydain Lloyds yng Nghaerdydd ddydd Sul, 7 Medi, bydd nifer o ffyrdd ar gau i hwyluso’r digwyddiadau hyn.

Gyda 10K Caerdydd yn dechrau am 10am, bydd ffyrdd yn cau fesul cam, rhwng 9am ac 1pm, ar hyd y llwybr i hwyluso’r ras, gyda ffyrdd pellach ar gau rhwng 3am a 6pm i baratoi ar gyfer, a hwyluso, cymal olaf Taith Prydain, pan fydd Geraint Thomas yn cystadlu yn ei ras feicio broffesiynol olaf.

Cau Ffyrdd i sefydlu Pentref y Ras

O 5am ddydd Sadwrn 6 Medi hyd at 6pm ddydd Sul 7 Medi, bydd y ffyrdd canlynol ar gau yn y Ganolfan Ddinesig:

Rhodfa’r Brenin Edward VII, Heol Corbett, Rhodfa’r Amgueddfa, Heol Neuadd y Ddinas, Heol y Coleg a Heol Gerddi’r Orsedd.

 

Cau ffyrdd ar gyfer Ras 10K Caerdydd

Rhwng 9am ac 1pm, bydd ffyrdd yn cau fesul cam ar y ffyrdd canlynol:

  • Heol y Gogledd, o’r gyffordd â Heol Colum hyd at y gyffordd â Boulevard De Nantes – Mynediad i’r Gored Ddu drwy Blas y Parc/Heol Corbett a bydd mynediad i Sgwâr y Frenhines Anne yn cael ei reoli drwy Heol Colum/Heol Corbett, gyda ffordd allan drwy Heol Corbett a thrwy Heol Colum)
  • Heol y Gogledd i’r de o’r gyffordd â Boulevard de Nantes i’r gyffordd â’r A4161
  • Yr A4161 o’r gyffordd â Heol y Gogledd i’r gyffordd â Ffordd y Brenin
  • Ffordd y Brenin o’r gyffordd â’r A4161 i’r gyffordd â Heol y Dug
  • Heol y Dug a Stryd y Castell ar eu hyd
  • Heol Ddwyreiniol y Bont-faen o’r gyffordd â Stryd y Castell i’r gyffordd â Heol y Gadeirlan
  • Boulevard De Nantes o’r gyffordd â Phlas y Parc/Stuttgarter Strasse i’r gyffordd â Heol y Gogledd
  • Y Brodordy a Gerddi’r Brodordy, Heol y Porth, Stryd Wood, Y Gwter, Plas y Neuadd, Stryd y Cei, Sgwâr Canolog, Heol Scott, Stryd Havelock, a Heol y Parc
  • Heol Eglwys Fair o’r gyffordd â Lôn y Felin drwodd i Blas y Neuadd
  • Y Stryd Fawr o’r gyffordd â Stryd y Castell i’r gyffordd â Phlas y Neuadd
  • Stryd Tudor o’r gyffordd â Heol Clare
  • Fitzhamon Embankment , Stryd Despenser, Despenser Lane, Despenser Place, Plantagenet Street, Beauchamp Street, Stryd Clare, Heol Isaf y Gadeirlan, Brook Street, Mark Street, Green Street a Theras Coldsteam
  • Heol Ddwyreiniol y Bont-faen o’r gyffordd â Heol y Gadeirlan i’r gyffordd â Stryd Neville/Stryd Wellington
  • Stryd Neville o’r gyffordd â Heol Ddwyreiniol y Bont-faen i’r gyffordd â Heol Isaf y Gadeirlan
  • Stryd Wellington o’r gyffordd â heol Lecwydd (tuag at ganol y ddinas)
  • Heol Ddwyreiniol y Bont-faen o’r gyffordd â Heol y Brenin
  • Heol y Gadeirlan o’r gyffordd â Heol Ddwyreiniol y Bont-faen i’r gyffordd â Heol Penhill
  • Pob ffordd ochr sy’n dod allan ar Heol y Gadeirlan
  • Hamilton Street, Talbot Street, Clos Sophia, Sophia Walk, Ffordd Feingefn yng Ngerddi Sophia, Plasturton Place, Dyfrig Street, Kyveilog Street, Sneyd Street, Dogo Street, Berthwin Street, Teilo Street, Gileston Road, Meldwin Street, Fairleigh Road, Fields Park Road, Denbeigh Street, Fairleigh Court a Heol Wilf Wooler
  • Heol Penhill o’r gyffordd â Heol Llandaf/Caerdydd (tuag at ganol y ddinas yn unig)
  • Bydd Rhodfa’r Gorllewin ar gau o’r gyffordd â Heol Excelsior hyd at y gyffordd â Lôn y Felin.

Rhwng 9am a 6pm, bydd mynediad i Heol y Brodyr Llwydion yn cael ei reoli wrth gyffordd Boulevard de Nantes / Plas y Parc i hwyluso symudiadau bysus a thrigolion / busnesau yn yr ardal yn unig.

SYLWER: Bydd y troi i’r dde gwaharddedig o Heol Colum i Heol Corbett yn cael ei ddirymu i hwyluso mynediad i Sgwâr y Frenhines Anne yn unig. Bydd hyn yn cael ei reoli gan stiwardiaid rheoli traffig.

I gael rhagor o wybodaeth am 10K Caerdydd Brecon Carreg, ewch i wefan trefnwyr y digwyddiad – https://www.cardiff10k.cymru/

 

Cau ffyrdd ar gyfer Taith Prydain

  • Rhwng 3am a 6pm: Bydd Heol y Gogledd (Heol Colum i Boulevard de Nantes) ar gau gan gynnwys pob ffordd ymyl
  • Rhwng 9am a 6pm: Bydd Ffordd y Brenin, Heol y Dug, Stryd y Castell, Heol Orllewinol y Bont-faen (Pont Treganna), a phob ffordd ymyl ar gau
  • Rhwng 10am a 5pm: Bydd trosffordd Heol y Gogledd/Gabalfa a’r holl ffyrdd cysylltu ar gau.

Cau ffyrdd fesul cam ar gyfer Taith Prydain

Rhwng 1.30pm a 3pm, bydd y llwybr o’r Ffin Sirol ar hyd yr A469, Heol Draenen Pen-y-graig, Heol Caerffili, A470 i drosffordd Heol y Gogledd ar gau. Bydd yr holl draffig yn cael ei gynnal ar gyffyrdd wrth i feicwyr fynd heibio, a bydd y ffyrdd yn cael eu hailagor pan ystyrir ei bod yn ddiogel gwneud hynny.

Am ragor o wybodaeth am Daith Prydain, ewch i https://www.britishcycling.org.uk/tourofbritain

 

Trenau

Disgwylir i wasanaethau rheilffordd i mewn ac allan o Gaerdydd fod yn brysur iawn a bydd Trafnidiaeth Cymru yn ychwanegu capasiti a gwasanaethau ychwanegol lle bo hynny’n bosibl.

Mae gwaith peirianneg sydd wedi’i gynllunio yn golygu na fydd gwasanaethau trên i mewn ac allan o Gaerdydd ar nifer o lwybrau Ddydd Sul 7 Medi.

  • Rhwng Caerdydd Heol y Frenhines a Rhymni.  Bydd bysiau yn cymryd lle trenau rhwng Caerdydd Canolog a Chaerffili / Ystrad Mynach, Bargod a Rhymni.
  • Rhwng Caerdydd Canolog a’r Barri, cau’r holl linellau fore Sul (cyn 1230). Bydd bysiau’n cymryd lle trenau rhwng: Caerdydd Canolog a Phenarth, Caerdydd Canolog ac Ynys y Barri, Caerdydd Canolog a Phen-y-bont ar Ogwr trwy’r Barri.
  • Yn ogystal, ni fydd unrhyw drenau’n rhedeg rhwng Radur a Chaerdydd Canolog trwy’r Tyllgoed.

Oherwydd gwaith peirianneg Network Rail yng ngorllewin Cymru ac ar Linell y Gororau, mae bysiau hefyd yn cymryd lle trenau rhwng Caerfyrddin ac Abertawe cyn 0955 ac mae’r llinell rhwng Casnewydd a Henffordd ar gau drwy’r dydd Ddydd Sul 7 Medi.

Lle mae bysiau’n cymryd lle trenau i mewn ac allan o Gaerdydd, mae’n debygol y bydd amseroedd teithio’n hirach nag arfer gan fod ffyrdd ar gau yng nghanol y ddinas ar gyfer y digwyddiadau.

Am ragor o wybodaeth ewch i Gwaith trwsio rheilffyrdd | Gwaith rheilffyrdd | Trafnidiaeth Cymru

 

Parcio a Cherdded o Stadiwm Dinas Caerdydd

Bydd parcio a cherdded ar gael o Stadiwm Pêl-droed Dinas Caerdydd rhwng 8am a 6pm

Cyrraedd yno:  Gadewch yr M4 ar Gyffordd 33 a chymryd yr A4232 tuag at Gaerdydd/y Barri. Gadewch yr A4232 i ymuno â’r B4267, gan ddilyn yr arwyddion i Stadiwm Dinas Caerdydd – CF11 8AZ.

Cost: £10 y car – bydd peiriant cardiau ar gael.

 

Parcio ar Ddiwrnod y Digwyddiad yn y Ganolfan Ddinesig (Ceir a Choetsys)

Gan y bydd Pentref y Ras ar gyfer 10K Caerdydd yn y Ganolfan Ddinesig, ni fydd unrhyw leoedd parcio ar gyfer y digwyddiad ar gael yn y lleoliad hwn.

 

Parcio ar Ddiwrnod y Digwyddiad yng Ngerddi Sophia

Bydd parcio yng Ngerddi Sophia ar gael rhwng 8am a 9am ac yna o 12.30pm nes bod Ras 10K Caerdydd yn dod i ben.

Cyrraedd yno:  Gadewch ar gyffordd 32 yr M4

Cost: £15 i geir a £30 i goetsys – mae talu â cherdyn nawr ar gael.

Sylwer: Bydd staff ym maes parcio Gerddi Sophia tan 7.00pm. Gadewir pob cerbyd ar y safle ar risg y perchennog.  Ni fydd Cyngor Caerdydd yn gyfrifol am unrhyw ladrad neu ddifrod i geir nac i eiddo personol.  Cyflwynir dirwy i unrhyw gerbydau sy’n cael eu gadael yn y maes parcio ar ôl yr amser cau.

 

Parcio Amgen

Mae meysydd parcio ar gael yng nghanol y ddinas hefyd:  Canolfan Siopa Dewi Sant; John Lewis; Canolfan Siopa Capitol ac NCP (Stryd Adam, Plas Dumfries a Heol y Brodyr Llwydion)

 

Bws

Caiff gwasanaethau bws eu dargyfeirio tra bydd ffyrdd canol y ddinas ar gau

Ewch i wefan y cwmni bws perthnasol i gael rhagor o wybodaeth am eich llwybrau bws penodol.

Ar gyfer gwasanaethau Stagecoach, ewch i:  Croeso i Stagecoach (stagecoachbus.com)

Ar gyfer gwasanaethau Bws Caerdydd, ewch i: https://www.cardiffbus.com/principality-stadium

Am ragor o wybodaeth am wasanaethau NAT, ewch i: https://www.natgroup.co.uk/

Bydd bysus National Express yn defnyddio Gerddi Sophia fel yr arfer.

Bydd FlixBus yn parhau i ddefnyddio eu man cyrraedd a gadael arferol ger Gerddi’r Brodordy ar Heol y Gogledd (gyferbyn â Chastell Caerdydd).

 

Allwch chi feicio neu gerdded?

Bydd y beicffyrdd a’r beicffyrdd dros dro o fewn yr ardal cau ffyrdd yn parhau ar agor i feicwyr eu defnyddio yn ystod y digwyddiad, ond oherwydd nifer y bobl y disgwylir iddynt fynychu’r cyngherddau hyn, gofynnwn i bob beiciwr gymryd gofal a thalu sylw.

Mae’r trefniadau cau ffyrdd yn berthnasol i bob cerbyd modur o unrhyw fath, ond nid i feiciau â phedalau.

Gall y rheini sy’n byw yng Nghaerdydd fod eisiau beicio neu gerdded. Mae ymchwil yn dangos bod 52% o’r teithiau car ym mhrifddinas Cymru yn llai na 5km o hyd. Mae hwn yn bellter y gellir ei feicio’n hawdd mewn 20 munud.

Gwyddom hefyd yr hoffai 28% o drigolion Caerdydd nad ydyn nhw’n beicio ar hyn o bryd wneud hynny.

Pan fo tagfeydd ar y ffyrdd, mae hyn yn gwneud beicio yn ddewis mwy atyniadol byth oherwydd byddai teithio ar feic yn gynt nag yn y car yn ystod oriau brig neu ddigwyddiadau mawr.

 

Parcio i Bobl Anabl

Argymhellir bod gyrwyr anabl yn defnyddio Gerddi Sophia. Mae lleoedd parcio i bobl anabl hefyd ar gael mewn meysydd parcio preifat amrywiol.

Gwiriwch argaeledd ar wefannau unigol.