Ymgyrch 'Dinas yr Arcêd' Caerdydd yn dathlu 70 Mlynedd fel Prifddinas gyda 70 Diwrnod o Ddigwyddiadau

Dydd Iau, 21 Awst 2025


 

Mae canol dinas Caerdydd ar fin dod yn fyw yr hydref hwn wrth i ymgyrch Dinas yr Arcêd 2025 lansio dathliad 70 diwrnod o hyd i nodi 70 mlynedd ers i Gaerdydd ddod yn brifddinas Cymru.

Bellach yn ei 8fed flwyddyn, bydd yr ymgyrch yn dod â busnesau o bob maint a sector ynghyd i daflu goleuni ar arcedau hanesyddol Fictoraidd ac Edwardaidd y ddinas, ochr yn ochr â chanolfan Dewi Sant.

Cyflwynir Dinas yr Arcêd gan Caerdydd AM BYTH – Ardal Gwella Busnes (AGB) canol dinas Caerdydd, sefydliad preifat, dielw ar gyfer aelodau a gafodd ei ffurfio drwy bleidlais gan fusnesau canol dinas Caerdydd ym mis Mehefin 2016.  Mae’r busnesau hyn yn talu ardoll i Caerdydd AM BYTH ac yn buddsoddi dros £1.5 miliwn o fuddion ychwanegol i ganol y ddinas bob blwyddyn; mae Caerdydd AM BYTH yn cyflawni’r rhain drwy brosiectau, ymgyrchoedd a digwyddiadau arobryn.

 

Pum Pythefnos Thematig o Weithgareddau

Gan redeg o 5 Medi i 14 Tachwedd 2025, mae ymgyrch Dinas yr Arcêd eleni wedi’i rhannu’n bum pythefnos thematig, bob un wedi’i gynllunio i dynnu sylw at ochr wahanol o gynnig unigryw Caerdydd:

  • Pythefnos Bwyd (5-19 Medi): dathlu sin fwyd amrywiol Caerdydd, gan gychwyn gyda Digwyddiad lansio Marchnad Fwyd Nos ym Marchnad Caerdydd, gyda setiau DJ byw a stondinau bwyd dros dro.
  • Pythefnos Darganfod (19 Medi – 3 Hydref): yn taflu goleuni ar berlau cudd, siopau annibynnol a darganfyddiadau unigryw Caerdydd.
  • Pythefnos Celfyddydau a Cherddoriaeth (3–18 Hydref): yn arddangos ysbryd creadigol Caerdydd gydag arddangosfeydd, perfformiadau, a Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd.
  • Pythefnos Hanes (17 Hydref – 1 Tachwedd): yn nodi 70 mlynedd o Gaerdydd fel prifddinas, gyda Llwybr Arcêd Teithwyr Amser ddydd Mercher 29 Hydref – taith ymgolli i deuluoedd drwy’r degawdau.
  • Pythefnos Iechyd a Harddwch (1–14 Tachwedd): yn annog lles yng nghanol y ddinas gyda sesiynau ioga, profiadau harddwch a chynigion arbennig.

Bydd yr ymgyrch eleni yn hawdd ei gweld ar strydoedd Caerdydd diolch i waith creadigol newydd trawiadol gan stiwdio ddylunio leol I Am Sam Creative. Wedi’i ysbrydoli gan 70 mlynedd o Gaerdydd fel prifddinas, mae pob arcêd wedi cael hunaniaeth unigryw sy’n tynnu ar arddull draddodiadol/treftadaeth gyda naws gyfoes, a fydd yn cael ei arddangos ar draws hysbysfyrddau, posteri a hysbysebion digidol. Mae map Dinas yr Arcêd 2025 yn cael ei gynhyrchu hefyd i dynnu sylw ar dirnodau a phob un o’r arcedau, gan weithredu fel canllaw i ymwelwyr a phobl leol fel ei gilydd.

 

Dechrau’r Dathlu Gyda Bwyd

Bydd ymgyrch Dinas yr Arcêd 2025 yn cychwyn gyda Marchnad Fwyd Nos ddydd Gwener 5 Medi ym Marchnad Ganolog Caerdydd. Bydd ymwelwyr yn gallu ymweld â’r farchnad ‘ar ôl oriau’ rhwng 5.30 a 9.30pm, mwynhau cerddoriaeth ac adloniant byw, blasu prydau unigryw gan fasnachwyr preswyl, a darganfod rhai o’r bwyd stryd annibynnol gorau sydd gan Gaerdydd i’w gynnig.  Dyma’r trydydd tro i’r farchnad nos ffurfio rhan o ymgyrch Dinas yr Arcêd, a’r llynedd bu cynnydd o 71% yn nifer yr ymwelwyr o’i gymharu â’r un digwyddiad y flwyddyn flaenorol.

Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol Caerdydd AM BYTH, Carolyn Brownell, Unwaith eto, bydd ein hymgyrch Dinas yr Arcêd yn dathlu ysbryd unigryw arcedau Caerdydd a’u rôl yng nghanol ein canol dinas. Wrth i ni nodi 70 mlynedd o Gaerdydd yn brifddinas Cymru, rydym am annog pobl nid yn unig i ddarganfod y busnesau annibynnol o fewn yr arcedau, ond hefyd i archwilio popeth sydd gan ganol y ddinas ehangach i’w gynnig – o frandiau cenedlaethol i ffefrynnau lleol – gan wneud Caerdydd yn gyrchfan wirioneddol na ellir ei golli.”

Mae manylion llawn ymgyrch Dinas yr Arcêd 2025, gan gynnwys digwyddiadau, cynigion a stondinau dros dro ar gael yn: thecityofarcades.com/whatson2025