Beth wyt ti'n edrych am?
The Pearl Revue: Sioe Adloniant Gomedi
Dyddiad(au)
22 Tach 2025
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Shwmae bobl, rydyn ni’n ôl!
Mae ‘Quill & Pearl’ yn dod â noson arall o gomedi, adloniant a bwrlesg i chi.
Cynhelir eich strafagansa mis Tachwedd gan y storïwr profiadol Stage Door Johnny. Bydd yn gwneud i chi wenu, chwerthin a rhoi eich holl sylw iddo fe wrth eich diddanu gyda phopeth o Shirley Bassey i Guns N’ Roses!
Yn ymuno â Johnny mae cast llawn sêr, sy’n cynnig coctel penigamp o gomedi, bwrlesg, syrcas, vaudeville, a chân. Felly daliwch eich offer chwerthin, gadewch eich pryderon wrth y drws, a pharatowch i gael eich diddanu yn ‘The Pearl Revue’.
Dim ond i’r rhai sydd dros 18 oed a bach yn ddrygionus!
- Stage Door Johnny (Gwesteiwr) – Ellyll fflyrtaidd, telynegol
- REIx (Bwrlesg) – ‘Rei’ polymorffig o olau haul
- Sandy Sure (Vaudeville) – Merch sioe bryfoclyd, gwirion a swreal
- Darryl J Carrington (Syrcas) – digrifwr jyglo o’r radd flaenaf
- Mrs No Overall (Glanhawr?!) – Nain Ryfeddol Oed-ddeniadol
- Oola Pearl (Neo-bwrlesg) – Clown graenus, carismatig
Cynhyrchwyd gan Quill & Pearl Presents