Ffair Grefftau Nadolig ym Mharc Bute

Dyddiad(au)

22 Tach 2025 - 23 Tach 2025

Amseroedd

10:00 - 15:00

Lleoliad

Canolfan Ymwelwyr Parc Bute, Caerdydd

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Mae’r adeg o’r flwyddyn bron wedi cyrraedd unwaith eto, ymunwch â ni yn lleoliad hyfryd Parc Bute ar gyfer ein ffair Grefftau Nadolig yn y Ganolfan Ymwelwyr.  Lle hyfryd i siopa ar raddfa fach, cefnogi siopau lleol, a mynd â rhywbeth arbennig gartref.  Mewn pryd i brynu anrheg unigryw i rywun arbennig.  Mae rhywbeth yma at ddant pawb

Dydd Sadwrn 22 – Dydd Sul 23 Tachwedd 2025

Mynediad am ddim ac yn croesawu cŵn.

Mae gennym nifer o wneuthurwyr a chrefftwyr gwych gydag amrywiaeth o grefftau wedi’u gwneud â llaw, dewch i weld a phrynu ystod wych o anrhegion unigryw wedi’u gwneud â llaw gan gynnwys:

  • Eitemau wedi’u crosio – Pat’s Woolly World
  • Cynfasau celf gwreiddiol – Kay Jenkins
  • Bagiau llaw a gemwaith unigryw, pwrpasol – Helfa Craft
  • Gwydr a Resin, Gemwaith ac Anrhegion – Helen Kenna Creations
  • Decoupage – Rosemary Parfitt
  • Gwaith coed, teganau, anrhegion ac eitemau tymhorol – Kevali Crafts
  • Clustdlysau gwahanol – Syllables
  • Printiau ‘dirty pot’ – Emporiwm Y Bont
  • Celf broc môr – Angela Toby
  • Clociau wedi’u hail-greu – Second Time Around
  • Addurniadau wedi’u gwneud â llaw – Marie’s Macrame
  • Dillad i Gŵn -Full Body Waggle
  • Celf Moch Cwta – Piggy Boutique
  • Dillad plant wedi’u gwneud o ffabrig organig – Rainbow Heart
  • Hwyl Ffelt Fuchsia

… a llawer mwy!

Mae yna hefyd raffl o eitemau gan ein gwneuthurwyr gwych, i’w thynnu wrth orffen ar y dydd Sul.

Peidiwch ag anghofio’r dyddiad – rydym yn edrych ymlaen at eich gweld chi yno!