Cyngor Teithio ar gyfer Gemau Rygbi Rhyngwladol yr Hydref

Dydd Llun, 3 Tachwedd 2025


 

Bydd cyfres o ffyrdd ar gau ar gyfer gemau rygbi Rhyngwladol yr Hydref yn Stadiwm Principality.

Cymru yn erbyn yr ArianninDydd Sul 9 Tachwedd, gyda’r gic gyntaf am 3.10pm, bydd ffyrdd ar gau rhwng 11am a 7.15pm.

Cymru yn erbyn JapanDydd Sadwrn 15 Tachwedd, gyda’r gic gyntaf am 5.40pm, bydd ffyrdd ar gau rhwng 1.30pm a 10pm.

Cymru yn erbyn Seland NewyddDydd Sadwrn 22 Tachwedd, gyda’r gic gyntaf am 3.10pm, bydd y ffyrdd yn cau rhwng 11am a 7.15pm

Cymru yn erbyn De Affrica – Dydd Sadwrn 29 Tachwedd, gyda’r gic gyntaf am 3.10pm, bydd y ffyrdd yn cau rhwng 11am a 7.15pm.

Mae disgwyl i draffordd yr M4 fod yn brysur iawn oherwydd y gemau rygbi hyn – felly cynlluniwch ymlaen llaw – ac osgowch y tagfeydd yng Nghaerdydd drwy ddefnyddio’r cyfleuster parcio a theithio yn y maes parcio ger Arena Vindico ar y Rhodfa Ryngwladol yn y Pentref Chwaraeon – CF11 0JS.

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am y draffordd a’r cefnffyrdd, ewch i wefan Traffig Cymru, neu @TrafficWalesS ar Twitter a Facebook.

Mae pobl sy’n mynd i’r gêm yn cael eu cynghori’n gryf i gynllunio eu taith ymlaen llaw a chyrraedd y stadiwm yn gynnar.  Darllenwch y rhestr o eitemau gwaharddedig yn principalitystadium.wales, yn arbennig y polisi bagiau (dim bagiau mawr) cyn teithio i’r ddinas.

Cau ffyrdd

Bydd Heol Scott a Heol y Parc yn cael eu cau yn gynnar o 7am i baratoi Gât 5 a diogelu cefnogwyr a fydd yn ciwio.

Caiff y ffyrdd canlynol eu cau fel rhan o batrwm cau ffyrdd llawn canol y ddinas ar gyfer pob digwyddiad:

  • Ffordd y Brenin o’r gyffordd â Heol y Gogledd i’r gyffordd â Heol y Dug.
  • Heol Ddwyreiniol y Bont-faen o’r gyffordd â Heol y Gadeirlan i’r gyffordd â Heol y Porth.
  • Stryd Tudor o’r gyffordd â Heol Clare i’r gyffordd â Stryd Wood (caniateir mynediad i breswylwyr a masnachwyr ar hyd Arglawdd Fitzhammon).
  • Plantagenet Street a Beauchamp Street o’r cyffyrdd â Despenser Place i’r cyffyrdd â Stryd Tudor (caniateir mynediad i breswylwyr a masnachwyr).
  • Bydd y ffyrdd canlynol ar gau’n gyfan gwbl:  Heol y Dug, Stryd y Castell, Stryd Fawr, Heol Eglwys Fair, Stryd Caroline, Stryd Wood, Y Sgwâr Canolog, Heol y Porth, Stryd y Cei, Plas y Neuadd, Y Gwter, Heol y Parc, Stryd Havelock a Heol Scott.
  • Bydd mynediad i fysus yn unig i Rodfa’r Orsaf a Stryd Guildford o’r gyffordd â Heol Casnewydd at y gyffordd â Ffordd Churchill yn ystod yr amseroedd cau ffyrdd.  Y rheswm dros hyn yw i sicrhau mynediad dibynadwy i fysus at y mannau lloeren yn Ffordd Churchill.
  • Yn ogystal, bydd Heol Penarth ar gau 30 munud cyn i’r gêm orffen ac am hyd at awr wedi’r chwiban olaf am resymau diogelwch i deithwyr trên sy’n cyrraedd a gadael yr orsaf drenau.

Ychwanegiadau:
Y Ganolfan Ddinesig: Rheolir mynediad i ran o’r Ganolfan Ddinesig drwy’r dydd. Caniateir mynediad yn unig i barcio ar gyfer y digwyddiad, rhywfaint o barcio ar gyfer cymudwyr, llwytho a mynediad at feysydd parcio preifat.

Mae’r ffyrdd yr effeithir arnynt yn cynnwys Rhodfa’r Brenin Edward VII, Rhodfa’r Amgueddfa, Heol Neuadd y Ddinas, Heol y Coleg a Heol Gerddi’r Orsedd.

Trenau

Bydd Great Western Railway (GWR) yn rhedeg trenau ychwanegol i Gaerdydd Canolog ac oddi yno ar gyfer Gemau Rhyngwladol yr Hydref. Bydd gwasanaethau ychwanegol rhwng Caerdydd ac Abertawe, Casnewydd, Bryste a Llundain, gyda llawer o lefydd parcio ar gael ym meysydd parcio’r orsaf.

  • Bydd rhaid archebu tocyn trên ar gyfer y gwasanaethau cyn y gêm – cadwch eich sedd ymlaen llaw i osgoi siom.
  • Disgwylir i drenau ar ôl y gêm fod yn brysur iawn. Bydd system giwio ar waith y tu allan i Gaerdydd Canolog i sicrhau diogelwch wrth fynd ar y trên.
  • Os ydych chi’n teithio’n bellach, gwiriwch wasanaethau cyswllt yn www.gwr.com/check.

Bydd capasiti ychwanegol ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru (TrC) i mewn ac allan o Gaerdydd ar gyfer holl gemau Rhyngwladol yr Hydref. Cynlluniwch eich taith a chaniatáu digon o amser i deithio.

  • Bydd system giwio lawn ar waith:
    • Prif wasanaethau: ciwio yn y Sgwâr Canolog
    • Gwasanaethau’r cymoedd: ciwio yng nghefn yr orsaf

Bydd gorsaf Heol y Frenhines Caerdydd ar gau ar y dyddiadau canlynol:

9, 22 a 29 Tachwedd o 4.30pm a 15 Tachwedd o 7pm.

Bydd mynediad o hyd i:

  • Deithwyr sy’n teithio i Fae Caerdydd
  • Y rhai sydd angen mynediad hygyrch.

Bydd y gyfnewidfa fysus yn cau yn unol â’r trefniadau cau ffyrdd:

  • 9, 22 a 29 Tachwedd rhwng 11.00am a 7.15pm
  • 15 Tachwedd rhwng 1.30pm a 10pm.

Tocynnau a Thalu wrth Fynd

  • Bydd gwiriadau refeniw yn cael eu cynnal cyn ac ar ôl digwyddiadau yng Nghanol Caerdydd. Gwnewch yn siŵr bod gennych docyn dilys cyn ymuno â’r ciw.
  • Mae Talu wrth Fynd ar gael ar wasanaethau TrC a Thraws Gwlad ar rwydwaith Metro De Cymru (ddim yn ddilys ar GWR).
  • Tapiwch i mewn yn yr orsaf rydych chi’n teithio ohoni a thapio allan yng Nghaerdydd Canolog gan ddefnyddio’r lonydd talu wrth fynd.
  • Bydd gwirfoddolwyr TrC wrth law i gynorthwyo.

Cyfleusterau Parcio a Theithio

Bydd y cyfleusterau parcio a theithio ar gyfer y digwyddiad wedi’u lleoli yn Toys R Us yn y Pentref Chwaraeon, Bae Caerdydd, CF11 0JS.

Bydd y pwynt gollwng yng nghanol y ddinas yn Sgwâr Callaghan.

Ar gyfer y gemau yn erbyn yr Ariannin, Seland Newydd a De Affrica, bydd y maes parcio’n agor am 10am, gyda’r bws cyntaf yn gadael am 10.30am. Bydd y bws olaf yn gadael canol y ddinas am 6pm, gyda’r maes parcio’n cau am 6.30pm.

Ar gyfer y gêm yn erbyn Japan, bydd y maes parcio’n agor am 10am, gyda’r bws cyntaf am 10.30am. Bydd y bws olaf yn gadael canol y ddinas am 8.30pm, gyda’r maes parcio’n cau am 10pm.

Y gost yw £15. Arian parod yn unig.

Parcio ar Ddiwrnod Digwyddiad yn y Ganolfan Ddinesig (Ceir a Choetsys)

Cyrraedd yno:  Gadewch wrth Gyffordd 32 yr M4, ewch tua’r de ar yr A470 tua chanol y ddinas a dilyn yr arwyddion i’r ganolfan ddinesig.

Cost: £20 yn daladwy ar y diwrnod am gar a £30 i goets – mae taliadau cerdyn hefyd ar gael nawr.

Amseroedd parcio:   Bydd y maes parcio yn agor am 8am ac yn cau am hanner nos.

Parcio ar Ddiwrnod y Digwyddiad yng Ngerddi Sophia

Cyrraedd yno:  Gadewch ar gyffordd 32 yr M4

Cost: £20 i geir a £30 i goetsys – mae talu â cherdyn nawr ar gael.

Amseroedd parcio:   Bydd y maes parcio yn agor am 8.00am ac yn cau am 12 hanner nos.

Sylwer: Bydd staff ym maes parcio Gerddi Sophia tan 7.00pm. Gadewir pob cerbyd ar y safle ar risg y perchennog.  Ni fydd Cyngor Caerdydd yn gyfrifol am unrhyw ladrad neu ddifrod i geir nac i eiddo personol.  Cyflwynir dirwy i unrhyw gerbydau sy’n cael eu gadael yn y maes parcio ar ôl yr amser cau.

Bws

Bysus lleol:

Caiff gwasanaethau bws eu dargyfeirio tra bydd ffyrdd canol y ddinas ar gau

Ewch i wefan y cwmni bws perthnasol i gael rhagor o wybodaeth am eich llwybrau bws penodol.

Ar gyfer gwasanaethau Stagecoach, ewch i:  Croeso i Stagecoach (stagecoachbus.com)

Ar gyfer gwasanaethau Bws Caerdydd, ewch i: https://www.cardiffbus.com/principality-stadium

Am ragor o wybodaeth am wasanaethau NAT, ewch i: https://www.natgroup.co.uk/

National Express:
 
Bydd bysus National Express yn defnyddio Gerddi Sophia fel yr arfer.

Allwch chi feicio neu gerdded?

Bydd y beicffyrdd a’r beicffyrdd dros dro o fewn yr ardal cau ffyrdd yn parhau ar agor i feicwyr eu defnyddio yn ystod y digwyddiad, ond oherwydd nifer y bobl y disgwylir iddynt fynychu’r gêm rygbi, gofynnwn i bob beiciwr gymryd gofal a thalu sylw.

Mae’r trefniadau cau ffyrdd yn berthnasol i bob cerbyd modur o unrhyw fath, ond nid i feiciau â phedalau.

Gall y rheini sy’n byw yng Nghaerdydd fod eisiau beicio neu gerdded. Mae ymchwil yn dangos bod 52% o’r teithiau car ym mhrifddinas Cymru yn llai na 5km o hyd.  Mae hwn yn bellter y gellir ei feicio’n hawdd mewn 20 munud.

Gwyddom hefyd yr hoffai 28% o drigolion Caerdydd nad ydyn nhw’n beicio ar hyn o bryd wneud hynny.

Pan fo tagfeydd ar y ffyrdd, mae hyn yn gwneud beicio yn ddewis mwy atyniadol byth oherwydd byddai teithio ar feic yn gynt nag yn y car yn ystod oriau brig neu ddigwyddiadau mawr.

Parcio i Siopwyr

Mae meysydd parcio ar gael yng nghanol y ddinas hefyd:  Meysydd Parcio Heol y Gogledd; Canolfan Siopa Dewi Sant; John Lewis; Canolfan Siopa Capitol ac NCP (Stryd Adam, Plas Dumfries a Heol y Brodyr Llwydion).

Parcio i Bobl Anabl

Argymhellir bod gyrwyr anabl yn defnyddio Gerddi Sophia.  Mae lleoedd parcio i bobl anabl hefyd ar gael mewn meysydd parcio preifat amrywiol.

Gweler argaeledd ar wefannau unigol.

Tacsis

Bydd safle tacsis Heol Eglwys Fair yn cau ac yn ailagor, yn unol â’r trefniadau cau ffyrdd ar gyfer pob digwyddiad.