Beth wyt ti'n edrych am?
Charles Tyrwhitt yn Ehangu Ymhellach yn y DU gyda’i Siop Gyntaf yng Nghaerdydd
Dydd Iau, 30 Hydref 2025
Bydd Nick Wheeler, sylfaenydd Charles Tyrwhitt, yn gwireddu ei weledigaeth hirhoedlog wrth agor siop gyntaf y brand yng Nghymru.
Bydd y brand Prydeinig, Charles Tyrwhitt, sy’n gwerthu dillad i ddynion, yn agor ei siop gyntaf erioed yng Nghymru, a hynny yng Nghanolfan Siopa Dewi Sant yng nghanol Caerdydd. Mae’r siop newydd yn agor ei drysau yn swyddogol ddydd Sul, 23 Tachwedd 2025, gan nodi pennod newydd gyffrous i ôl troed manwerthu cynyddol y brand yn y DU fydd yn dod â chyfanswm nifer y siopau yn y DU i 44, a 59 yn fyd-eang (ac eithrio stocwyr trydydd parti).
Mae’r cam hwn yn garreg filltir strategol i’r brand. Gyda sylfaen gwsmeriaid gref yng Nghaerdydd, mae penderfyniad Charles Tyrwhitt i agor yn y ddinas yn caniatáu i siopwyr brofi’r brand yn bersonol am y tro cyntaf. Bydd y siop newydd yn adeiladu ar y gefnogaeth ffyddlon hon trwy gynnig profiad brand mwy cyflawn, tra hefyd yn croesawu cwsmeriaid tro cyntaf i weld beth sy’n gwneud Tyrwhitt yn wirioneddol ddiamser.
Mae’r siop newydd yng Nghaerdydd, sy’n ymestyn dros 2,676 troedfedd sgwâr gros (2,020 troedfedd sgwâr o ofod masnachu), wedi’i chynllunio i adlewyrchu ymrwymiad Charles Tyrwhitt i “ei gwneud hi’n hawdd i ddynion wisgo’n dda.” Wedi’i lleoli ar lawr gwaelod Canolfan Siopa Dewi Sant, yn un o ardaloedd y ganolfan sy’n gweld y nifer uchaf o ymwelwyr, mae’r siop yn cyfuno dyluniad clasurol gyda phrofiad siopa deniadol a moethus.
Mae’r siop yn cynnwys gofodau i gwsmeriaid ymlacio ac archwilio, gan annog cwsmeriaid i gymryd eu hamser wrth bori’r casgliadau. Mae hefyd yn cynnwys gofod apwyntiadau pwrpasol cyntaf Charles Tyrwhitt y tu allan i Lundain, gan gynnig profiad mwy personol i siopwyr. Gall gwesteion fwynhau lluniaeth wrth dderbyn cyngor steilio un wrth un neu ymgyngoriadau ffitiad, gan greu profiad siopa gwirioneddol bwrpasol.
I ddathlu’r lansiad, bydd y siop yn agor yn ystod un o’r cyfnodau mwyaf cyffrous yn y calendr manwerthu; Dydd Gwener Du a thymor y Nadolig. Bydd ymwelwyr yn gallu mwynhau 20% oddi ar bopeth fel rhan o gynnig Dydd Gwener Du y brand, gyda gwobrau unigryw i’w hennill trwy gydol yr wythnos agoriadol.
Mae’r siop yn 17 Arcêd Fawr (Uned LG35), Canolfan Siopa Dewi Sant, Caerdydd, CF10 2EF
Dyma sylwadau gan Nick Wheeler, sylfaenydd Charles Tyrwhitt: “Cafodd fy mam ei geni i lawr y ffordd yng Nghasnewydd, Gwent. Treuliais hafau yno gyda Mam-gu Lillian ar Glasllwch Lane, a hefyd gyda Mam-gu Jo a oedd wedi symud i fyw yn Nhrefdraeth, Sir Benfro. Mae’n debyg bod hynny’n fy ngwneud i’n hanner Cymreig, ond ers dechrau fy musnes crysau tra yn y Brifysgol ym Mryste yn 1986 dros y Sianel (roeddwn i’n arfer ei alw’n Sianel Caerdydd!), rydw i wedi breuddwydio am gael siop “yr ochr hon”.
Mae gen i lawer o atgofion hapus o Gaerdydd. Rydw i wedi gweithio’n agos am flynyddoedd lawer gydag Ymddiriedolaeth y Brenin i helpu pobl ifanc yma, ac rwy’n falch iawn o’ch croesawu i’n siop gyntaf yn fy mamwlad (bron). Byddai fy mam yn falch iawn.”