Gwen John: Hardd a Hynod

Dyddiad(au)

07 Chwe 2026 - 31 Maw 2026

Amseroedd

10:00 - 16:00

Lleoliad

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NP

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Roedd Gwen John yn un o artistiaid mwyaf hynod Cymru.⁠ ⁠

⁠Roedd Gwen John yn gweld y byd yn wahanol — yn dawel, yn sylwgar, a chyda dyfnder rhyfeddol. Y gwahaniaeth hwnnw a luniodd bopeth: ei thestunau, ei dull, ei lliwiau, ei geiriau, ei gwaith.

Mae Gwen John: Hardd a Hynod yn arddangosfa unwaith mewn cenhedlaeth, sy’n casglu ynghyd weithiau sydd prin yn cael eu gweld o Amgueddfa Cymru a chasgliadau ledled y byd i ddathlu 150 mlynedd ers geni’r artist o Gymru a’r casgliad mawr cyntaf o’i gwaith mewn dros ddeugain mlynedd.

Mae’n adrodd stori Gwen fel na chafodd ei hadrodd erioed o’r blaen, gan ddatgelu ffyrdd newydd o weld ei bywyd a’i chelf, a dathlu artist oedd â gweledigaeth sy’n dal yn teimlo’n drawiadol o fodern heddiw.

Dyma wahoddiad i weld y byd trwy lygaid Gwen — i arafu, edrych yn agosach a darganfod y rhyfeddod yn ei gwaith. Cyfle rhy dda i’w golli — i newydd-ddyfodiaid ac edmygwyr ffyddlon.

Trefnwyd yr arddangosfa hon gan Amgueddfa Cymru mewn partneriaeth ag Orielau Cenedlaethol yr Alban, National Museum of Women in the Arts, a Yale Center for British Art.

Ar gau ddydd Llun.