Curiad Calon Dwy Genedl

Dyddiad(au)

31 Ion 2026 - 11 Maw 2026

Amseroedd

10:30 - 16:30

Lleoliad

Y Senedd, Bae Caerdydd

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Er y pellter mawr rhwng Armenia a Chymru, maen nhw’n rhyfeddol o debyg o ran maint, ysbryd a thirwedd. Mae gan y ddwy genedl boblogaethau o bron i dair miliwn, ac maen nhw’n cynnal hunaniaethau diwylliannol cryf sydd wedi’u gwreiddio yn hanes yr henfyd.

Mae cysylltiadau annisgwyl rhwng yr Armeneg, un o ieithoedd ysgrifenedig hynaf y byd, a’r Gymraeg, sy’n iaith Geltaidd. Mae Armeneg a Chymraeg ill dwy yn cynnal gwreiddiau Indo-Ewropeaidd hynafol. Mae’r cyffelybiaethau ieithyddol hyn yn dangos sut mae cysylltiadau rhwng dau ddiwylliant pell wedi parhau ar ffurf patrymau hynafol cyffredin.

Y tu hwnt i iaith, mae Armenia a Chymru yn rhannu nodweddion diwylliannol a hanesyddol sy’n cryfhau eu cysylltiad. Mae gan y ddwy wlad draddodiad hir o adrodd straeon, gyda barddoniaeth, chwedlau epig a chaneuon yn diogelu cof y genedl. Mae canu corawl yn chwarae rhan ganolog yn y diwylliannau dan sylw, gan adlewyrchu ysbryd cymunedol a fynegir drwy harmonïau a lleisiau.

Mae gan eu mytholegau debygrwydd trawiadol hefyd: Mae vishap hynafol Armenia a draig goch Cymru yn symboleiddio amddiffyniad, nerth a grym byd natur.

Yn ddaearyddol, mynyddoedd, dyffrynnoedd a ffurfweddau naturiol dramatig sy’n diffinio’r naill wlad a’r llall, a’r nodweddion hynny sydd wedi moldio eu traddodiadau a’u credoau ers canrifoedd. Mae hanes y ddwy wlad yn stori o wydnwch, ysbrydolrwydd dwys, a pharch mawr at barhad treftadaeth.

Arddangosfa gan Ganolfan Gymunedol Armenia (C)

Noddir gan Jenny Rathbone AS