The Skids

Dyddiad(au)

17 Ebr 2026

Amseroedd

19:00

Lleoliad

Y Plas, Undeb Myfyrwyr Caerdydd, Park Place, Caerdydd CF10 3QN

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

AGMP Concerts yn cyflwyno

THE SKIDS

TAITH ‘THE ABSOLUTE GAME’

CHEFNOGAETH: AU PAIRS

 

Mae The Skids yn dathlu eu trydydd albwm stiwdio ‘The Absolute Game‘, sef eu halbwm mwyaf llwyddiannus yn fasnachol gan gyrraedd #9 yn siartiau albwm y DU. Roedd ‘The Absolute Game’ yn cynnwys y senglau ‘Circus Games’, ‘Goodbye Civilian’ a ‘Woman in Winter’. Band pync/wedd newydd yw The Skids a ffurfiwyd yn Dunfermline, yr Alban ym 1977. Aethant ati i gael 10 sengl yn siartiau y DU gan gynnwys ‘Into The Valley’, ‘The Saints Are Coming‘ (a ganwyd yn ddiweddarach gan U2 a Green Day), ‘Masquerade’, ‘Working For The Yankee Dollar’, ‘Animation‘ a ‘Charade‘.

Ffurfiwyd Au Pairs tua diwedd 1978 yn Birmingham, y DU yn y cyfnod ôl-pync. Roedden nhw’n fand poblogaidd a oedd yn cyfuno cerddoriaeth hwyl, ddawns gyda neges arloesol ac, am y cyfnod hwnnw, feiddgar flaengar. Yn eu ffurf wreiddiol roedden nhw’n 2 fenyw a 2 ddyn, a’r nod oedd dangos bod menywod a dynion yn gallu gweithio gyda’i gilydd yn gyfartal.