Monster Jam 2026

Dyddiad(au)

16 Mai 2026

Amseroedd

15:00

Lleoliad

Stadiwm Principality, Heol y Porth, Caerdydd CF10 1NS

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Bydd dychweliad Monster Jam i Stadiwm Principality yn gwefreiddio Caerdydd gyda chyffro  mawr ac adloniant i’r teulu. Bydd un o ddigwyddiadau chwaraeon moduro byw mwyaf eiconig y byd unwaith eto yn trawsnewid stadiwm cenedlaethol Cymru yn arena llawn adrenalin, gyda pheiriannau’n rhuo, styntiau syfrdanol ac atgofion bythgofiadwy i gefnogwyr o bob oedran.

Eleni, bydd cyffro ychwanegol wrth i Gaerdydd gynnal y digwyddiad cyntaf o’i fath yn y DU, sef Sparkle Smash™. Lori uncorn chwe thunnell sy’n nodedig am ei ‘hagwedd feiddgar, sy’n adnabyddus am ei hysbryd cystadleuol ffyrnig a’i phersonoliaeth liwgar.’

Bydd lorïau 12,000 pwys Monster Jam™ yn cyflwyno sioeau byw heb eu hail, gyda gyrwyr o’r radd flaenaf yn cystadlu mewn rasio, sgiliau a dull rhydd, sef ffefryn y cefnogwyr, pan fydd y lorïau’n perfformio triciau, yn fflipio, yn esgyn ac yn gwthio terfynau ffiseg.

Bydd cefnogwyr hefyd yn chwarae rhan allweddol yn Stadiwm Principality, gyda phleidleisio byw yn rhoi’r pŵer i’r gynulleidfa sgorio’r gyrwyr mewn amser real.

Mae’r cyffro’n dechrau’n gynnar gyda’r Monster Jam Pit Party ar lawr y stadiwm, gan roi cyfle i gefnogwyr fynd yn agos at y lorïau eiconig, cwrdd â’r gyrwyr a thynnu lluniau. Dyma’r profiad cyn-sioe gorau oll ac yn gyfle prin i ddarganfod sut mae’r peiriannau chwedlonol hyn yn cael eu creu.