Beth wyt ti'n edrych am?
Pentatonix
Dyddiad(au)
25 Ebr 2026
Amseroedd
18:30
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Fel un o’r grwpiau lleisiol mwyaf arloesol, dyfeisgar a digyffelyb erioed, mae Pentatonix yn ailddychmygu, yn adfywio ac yn ailddiffinio a cappella. Ers dod i’r amlwg yn 2011, mae’r pumawd lleisiol a enillodd dair gwobr GRAMMY® ac a enwebwyd am Wobr Daytime EMMY® – sef Scott Hoying, Mitch Grassi, Kirstin Maldonado, Kevin Olusola a Matt Sallee – wedi cael llwyddiant ysgubol, gan gyrraedd brig y siartiau, gwerthu 10 miliwn o albymau ledled y byd, cael eu ffrydio biliynau o weithiau a pherfformio ym mhob man, o’r Tŷ Gwyn a Pharêd Diwrnod Diolchgarwch Macy’s i’r Hollywood Bowl.