Waitress

Dyddiad(au)

08 Meh 2026 - 13 Meh 2026

Lleoliad

Canolfan Mileniwm Cymru, Bute Place, Bae Caerdydd, CF10 5AL

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

“Treat yourself to a slice of five-star musical pie” (The Times) wrth i Carrie Hope Fletcher serennu fel Jenna am 1 wythnos yn unig!

Dewch i gwrdd â Jenna, gweinyddes a phobydd pastai talentog sy’n breuddwydio am damaid o hapusrwydd. Pan mae doctor newydd golygus yn dod i’r dref, mae bywyd yn cymhlethu. Gyda chefnogaeth ei ffrindiau a chydweithwyr, Becky a Dawn, mae Jenna yn goresgyn yr heriau sy’n ei hwynebu ac yn darganfod y gall chwerthin, cariad a chyfeillgarwch greu’r rysáit perffaith ar gyfer hapusrwydd.

Gyda thîm creadigol arloesol dan arweiniad menywod, mae’r sioe ‘warm, witty, wise and hilarious’ (Express) yn cynnwys ‘one of the best scores in years’ (The Stage) gan yr enillydd gwobr Grammy Sara Bareilles llyfr gan y sgriptiwr arobryn Jessie Nelson a chyfarwyddo gan yr enillydd gwobr Tony® Diane Paulus.

Gyda’r gynulleidfa gyfan ar eu traed bob nos yn West End Llundain ac ar Broadway, Waitress yw’r ‘real deal’ (Independent). Dyma sioe gerdd gomedi ‘made from the finest ingredients’ (Time Out).